Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
BEECHAM'S W PILLS a f <mh For MIX Bilious an.d Nervous DiaovdovB, such as Sick Headache, Constipation, Weak Stomach, Impaired Digestion, Disopdeved Liver, and Female Ailments. Prepared only by the Proprietor, THOMAS BEECHAM, St. Helens, Lancashire. Sold by all Druggists and Patent Medicine Dealers everywhere, in Boxes 9 £ d., Is. l £ d., and 2s. 9d. each, with Full Directions. The 1B. ljd. Box contains Fifty-six Pills* THE SALE IS NOW SIX MILLION BOXES PER ANNUM.
OWERTH EU aWYBOD
News
Cite
Share
OWERTH EU aWYBOD Y mae mil o barseli yn myned ar goll bob dydd ar reilflyrdd Piydain Fawr. Y mae Mrs Harriett Beecher Stowe, awd- ures fydenwog "Caban F'ewyrth Twin," er yn parhau mewn iechyd rhagorol, wedi llithro yn ddisymwth i ail fabandod. Mae hi'n dychymygu ei bod yn eneth fechan eto, ac yn treulio ei dyddiau mewn gwneyd dol- iau papur, a clianu baledi suoganol. Os cyfarfyddi a chyfaill i ti mewn adfyd, na thramgwydda ef drwy ei holi am y man- ylion bydd ei gymydog yn falch o gael dy- weyd wrthyt y cwbl oil. Ac felly, nid yn unig yr wyt yn ymgadw rhag tramgwyddo dy gyfaill, ond hefyd yn rhoi pleser mawr i'w gymydog. Yn China, y mae gan y boneddigesau al- wedigaeth hynod. Merclied mewn oed yn y cyffredin sydd yn dilyn yr alwedigaeth hono. Elant oamgylch y tai goreu gan gy- hoeddi eu dyfodiad trwy guro tabyrddau, a chynnyg eu gwasanaeth i ddifyru boneddiges y ty. Wedi derbyn eu cynnygiad, eistedd- ant i lawr, ac adroddant y newyddion di- weddaraf, a'r clepchwedlau mwyaf derbyniol allant feddwl am danynt, am yr liyn y der- byniant swilt yr awr, heblaw gwobr werth ei chael os bydd rhyw athrod neu waradwydd newydd yn dderbyniol i'r gwrandawyr. Y mae'r Pab yn parhau i deimlo dyddor- deb mewn pethau bydol. Yn yr hwyr, wedi myned drwy y paderau arferol, y mae Mon- signor Angeli, un o'i ystafellyddion, yn myn- ed i'AV ystafell Avely gyda newyddiaduron y dydd, ac yn darllen iddo nes bydd y ncs wedi cerdded yn mhell—a'r Pab yn eistedd, yn hytrach na gorwedd, yn ei wely, ac wedi lapio ei hun mewn gwlaneni, ac yn gwrandaw ar y darllenwr yn astud. Os bydd yn teimlo awydd mynegi ei farn ar ddigwyddiadau y dydd, y rhai y mae mor awyddus i'w clywed, nid oes neb i wybod y farn hono ond y Mon- signor Angeli, ac y mae'r prelad call hwnw mor ddistaAy a'r bedd. IXTWEDD Y BY1).—Yn y ddegfed ganrif, yr oedd y gred fod diwedd y byd yn agos yn syniad cyffredinol yn mhlith bonedd a gwreng. Yr oedd amryw freinlenau a thyst- ysgnfau pAA-ysig yn dechreu gyda'r geiriau "Gan fod y byd yn a\AT yn tynu tua'r ter- fyn." Yr oedd byddin yn gorymdeithio dan yr Ymherawdwr Otho I., wedi cael cymaint ° fraw wrth Aveled y diffyg yn dyfod ar yr haul tua;'r amser hwnw, gan gredu fod gan hyny rywbeth neillduol a Avnelai a diwedd y byd, fel yr ymwasgarasant i bob cyfeiriad. Ond gan fod y syniad hwnw wedi ei sylfaenu ar ryAV athrawiaeth gymysglyd am y mil- flwyddiant, bu'r syniad farAV ar wawriad yr unfed ganrif ar ddeg. DtIGWYD-DIAT) A X (i H YF F REDIX. — Digwyddodd un o'r pethau mwyaf anghyff- redin yn rhod-droadau y lleuad yn mis Chwefror, 1866, y mis sydd wedi ei groniclu yn mlAvyddoliaetli astronomyddiaeth fel y mis heb un lleuadllawn." Yn misoedd Ion- aAvr a Mawrth y flwyddyn hono, cafwyd dwy leuad lawn, a IChwefror heb yr un. Y mae ysgrifenydd mewn erthygl arweiniol cylch- grawn seryddol yn defnyddio yr ymadroddion canlynol wrth ddesgrifio yr aingylchiad All well chwi sylweddoli pa mor anghyff- redin oedd y digAYyddiad ? Ni ddigwyddodd y fath beth o'r blaen er cyn y cyfnod Crist- ionogol, neu, efallai, er creadigaeth y byd. Ni ddigwydd y fath betli eto, yn ol cyfrifiad Serydchvyr Creiniol Lloeo;r, am—am ba gyn- ifer o flynyddoedd, feddyliech chwi ? Nid cyn yr el heibio ddwy filiAvn a phum' can mil o flynyddoedd o'r flwyddyn 1866. OFERGOELKM YR BSGID.—Pan bryn- och bar o esgidiau, peidiwch byth a'u dodi ar SILFT* uwch na'ch pen, os nad oes arnoch eisieu dwyn anffaAvd arnoch eich hunan; ac os bydd i chwi eu blacio cyn eu dodi am eich traed, gallwch gyfarfod a damwain, neu hyd yn nod farwolaeth sydyn. Ofergoeledd Gwyddelig ydyw hwn. Y mae merched Ys- gotland yn credu os disgyna eu hesgidiau o'u dwylaw cyn eu gwisgo am y tro cyntaf, trwbl ydyw; ac os digwydd i foneddiges Ffrengig golli sawdl ei hesgid, bydd yn sicr o gyfarfod a rhyw siomedigaeth mewn cariad a phan f()'r fam Almaenaidd wedi cael digwyddiad cyffelyb, teimla y rhaid iddi yn fuan golli un o'i plilant. Rhaid i chwi fod yn ofalus am beidiu dodi yr esgid chwith am eich troed deheu, na'ch esgid deheu am eich troed chwith, na gwisgo eich esgid chwith yn gynt- af, os nad oes arnoch eisieu cyfarfod ag an- ffawd. Y mae yr ofergoeledd hwn yn dydd- io cyn belled yn ol ag un o hen ymherawd- Avyr Rhufain, yr hwn, yn ol y cofnodiad, a wisgodd ei esgid chwith yn gyntaf un boreu, a bu agos iddo gael ei fradlofruddio yn ystod y dydd hwnw.
[No title]
News
Cite
Share
Am a fu, diolch wn; am y sydd, bodd- lonwn; ac am a fvdd, y mddiiiedwii,
Advertising
Advertising
Cite
Share
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAEG (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1859,1865 1878, 1887,1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GOREU o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF El GYLCHKED1AD. 64 0 GOLOFNAX HIKION. LOB DYDII MAWKIH CEINIOG Yn Eisiau Dosparthwyr a Golubwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr-DANIEL REES, Carnarvon, The' Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes II Tickets, Dance Cards Legal Forms, Memorandums, Note Paper Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Accuracy, Neatness, Despatct Note the Address:— HERALD STEAM PRINTING WORKS HIQB STREET, CARNARVON