Hide Articles List

2 articles on this Page

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY

News
Cite
Share

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY I.— GWARCHAE PALERMO. Daeth nos y ehweched ar hugain o Fai, 1860, i lawr ar ddinas Palermo, ar y gwas- tadeddau a'r bryniau o'i hamgylch, pan oedd 7,Y pawb yn y pryder mwyaf, a'r cwestiwn a glywid o bob genau ydoedd, "Pa le mae Garibaldi?" Yr oedd y ddinas ei hunan yn cael ei gwarchae ganei brenhin, Francis II. 0 Naples. Yr oedd cydymdeimlad mwyafrif mawr y preswylwyr gyda Garibaldi a'i fil o wyr a gwrthryfelwyr Sicily, y rhai oedd wedi ymuno ag ef ar ei daith o'r glanau gor- llewinol i'r bryniau uwchlaw Palermo. Ni chaniateid i neb fyned allan o'r ddinas, na cherddsd ei heolydd gydag ereill yn ystod y dydd, na'r nos heb lusernau a fflamdorchau. Yr oedd milwyr yn cael eu gosgorddi yn nghonglau tywyll yr heolydd; yr oedd CWIll- niau o filwyr yn arriddiffyn pyrtli y dclinas oedd heb eu can i fyny, a dwy res o filwyr o'r tuallan yn amgylchu y ddinas. Ar y gwaistadedd i'r gogledd a'r gorllewin o'r ddinas yr oedd ugain mil o filwyr y bren- hin yn gwersyllu, a phedair mil o rai ereill wedi bod am rai dyddiau yn cadw yn ol y terfysgwyr yn mhlith y bryniau. Yr oedd eu blaenor yn dychymygu mai Garibaldi oedd yn cilio 'nol o'u blaenau. Nis gallai yr un milwr profiadol ddeall pa fodd yr oedd rhyw fil o wyr traed, &e ychydig ganlynwyr aibrafiad, yn meddwl dyfod i mewn i ddinas yn cael ei gwylio a'i hamddiffyn gan fintei- oedd o filwyr dysgybledig dan arweiniad magnelwyr profiadol a llongau rhyfel y mor- gilfach. Hyd yn nod yn awr, nid ydyw disgyniad y mil bythgofiadwry hwn i lawr ar Palermo yh eglur a dealladwy heb gymeryd i ystyriaeth sefyllfa y ddinas ar y noson bryderus hono, sefyllfa y gwahanol gOrphluoedd oedd yn ei hamddiffyn, a symudiadaa Garibaldi a'i wyr, yr hwn oedd wedi datgan ei benderfyniad i gymeryd y ddinas ar y seithfed ar hugain o Fai, ac wecli gwahodd gohebydd y "Times" i ymuno a'i wersyll, ac i ysgrifenu hanes y fuddugoliaeth. Yr oedd y Bourboniaid wedi llywodraethu Naples a holl ddeheubarth Italy ac ynys Sicily erbyn hyn ami ga-nt a phump ar hug- ain o flynyddau. Yr oedd Ferdinand yr Ail wedi marw er's tua blwyddyn yn ol, wedi bod yn hynod o aflwyddiannus yn ystod ei holl deyrnasiad maith. Yn 1859, daeth ei fab ieuanc, dibrofiad, Francis, i deyrnasu, a chafodd bob peth yn y cvflwr gwaethaf. Yn y gogledd yr oedd yr Eidaliaid wedi ymuno a Brenhin Sardinia, yn erbyn yr Awstriaid a'r man dywysogion oedd wedi bod am gymaint o amser yn rhanu eu gwlad. Gyda chymhorth Ffrainc, yr oedd y rhyfel hono drosodd yn fuan. Ymlidiwyd yr Awst- riaicl allan o Lombardy; diarddelwyd man daleithau Parma, Modena, a Tuscany; a chymerwyd rhan bwysig o nerthoedd gwlad- wriaethol yr Eglwys oddiar y Pab. Yr oedd yr oil o'r rhai hyn yn awr, yn ngliyda. Sardinia, yn myned i wneyd i fyny un deyrnas o'r Eidal, gyda Victor Emanuel fel ei theyrn. Yr oedd yn gam pwysig yn mlaen tuagat eylweddoli yr hyn hyd yma nad oedd ond breuddwyd—Italy gyfunol. A Garibaldi oedd yr arwr oedd i ddyfod a hyny i ben. Yr oedd yn Sicily bwyllgor cyfrin wedi ei ffurfio i gasglu tanysgrifiadau yn mhlith y pendefigion a'r cyfosihogion tuagat brynu arfau rhyfel ao angenrheidiau ereill. Yr oedd y pwyllgor hwn mewn gohebiaeth was- tadol a phwyllgort chwyldroadol oedd yn Genoa, o'r hwn yr oedd Garibaldi yn ganol- bwynt. Yr oedd! y brenin Victor Emanuel wedi ymrwymo i beidio rhoddi unrhyw gynnorth- wy agored i unrhyw wrthryfel a gyfodai yn erbyn ei gefnder, brenhin Naples, gyda'r hwn y tybid ei fod mewn heddwch. Ond yr oedd yn wybyddus na roddai ei Lywodraeth ef unrhyw rwystr ari y ffordd. Gwyddai pawb hefyd na thorai yr un terfysg na chwyl- droad yn Italy ddeheuol ond yn enw Victor Emaaiuel a Garibaldi. Nid oedd gan gynghorwyr Francis II. ond un cynllun i gyfarfodl a'r holl anhawsderau hyn—cynllun Brenhin Bomba a'r'Bourboniaid ereill o'i flaen. Yr oedd y ddinas yn cael ei hamddiffyn gan warchodlu cryf o'r tir. Yn ychwanegol at hyny yr oedd mwy o awdurdod nag erioed wedi ei roddi i Maniscalco, pen- aeth yr lieddlu, ac yr oedd ei yspiwyr ef wedi eu gosod yn mhob man. Clwyfwyd Maniscalco yn dost wrth ddrws, yr Eglwys Gadeiriol, aø er holl ymdrech yr heddlu, diangodd yr hwn fwriadai fod yn fradlofrudd gyda chymhorth y bobl. Dechreuodd teyrnasiad braw, yn enwedig yn erbyn y pendefigion a'r cyfoethogion. Yr oedd) cudd-swydclogfion Maniscalco yn chwilio pob ty am gleddyfau a bidogau. Teimlid nad oedd yn mhlitih dau can' mil preswylwyr Palermo neb ond y milwyr, a swyddogion y Llywodraeth, a'r aneirif heddlu yn ffyddlon i'r brenhin. Dyna oedd sefyllfa pethau yn Palermo pan oedd Garibaldi wedi cyrhaedd yr ucheldir sydd yn ngolwg y ddinas, ac yn gosgorddi ei fyddin fechan yn y drefn oeddynt i ddilyn yn eu hymosodiad ami. Yn gyntaf, deuai y blaenoriaid, dan ar- wciniad eu penaeth, Capten Misori, a thri dyn o bob mintai o'r mil dan lywyddiaeth y Milwriad Tukery, yr oil gyda'u gilydd yn ddeuddeg ar hugain. Yn nesaf atynt yr oedd corphlu cyntaf y Picciotti. Yna mintai gyn.. taf y Mil, dan arweiniad1 Bixio. Yn nesaf deuai Garibaldi, gyda Turr a'r gweddill o'i swyddogion, yn cael eu dilyn gan yr ail fintai dan arweiniad Carini. Yn olaf oil deuai ail gorphlu y Picciotti a'r swyddogion oedd yn arolygu ymborth y llu. Ar y cyfan, yr oeddynt yn 750 o hen filwyr prlofedig, gyda, dwy neu dair mil o Picciotti, dynion ieuainc o 15 i 25 oed, selog i'r ym- drin, ond heb fod yn filwyr profedig, yn barod i wynebu 18,000 o filwyr rheolaidd Brenhin Naples. Er fod y sibrwd yn y ddinas er's dyddiau, a phlant bychain yn galw ar ol cudd-swydd- ogion yr heddgeidwaid—"y mae Garibaldi yn dyfod Eto yr oedd yn bwysig ac anheb- gorol i lwyddiant yr anturiaeth i'r alarwm gyrhaedd Palermo mor ddiweddai4 ag oedd bosibl. Nid oedd yr un ffordd o'r ucheldiroedd i'r ddinas, yr oedd yn rhaid iddynt ymgribinio i la-wr goreu gellynt hyd ochrau serth y ceu- nant oedd yn ymagor i'r gwastadedd. Erbyn hyn yr oedd yr unfed awr ar ddeg o'r 26ain o Fai hwnw wedi dirwyn i fyny. Gorchymynodd Tukery i'w wyr aros, nea y byddai iddo weled pa fath drefn oedd ar yr ol-fyddin. Yr oedd y Picciotti wedi diflanu. Yr oedd rhyw dwyll alarwm glywsent ar y mynydd wedi eu gyru ar ffo. Yr oedd eisieu dwy awr i ail-drefnu y fyddin, pan y can- fyddwyd nad oedd ei rhiiedi ond tri chant ar ddeg. Gyda'r holl ymciroi yma, yr oedd yn ddau o'r gloch y boreu, ac yr oedd gan- ddynt eto dair milliir i'r ddinas. Yr oeddynt yn awr yn cyrhaedd rhagorsaf y Neapoliaid, hanner awr wedi tri, a hi eto yn dywyll. Taniodd y Neapoliaid dair ergyd, a chiliasant yn ol i'w llochesau. Yr oedd hyn yn ddigon i yru y tUlwy ran o dair gweddill o'r Picciotti ar ffo. Rhuthrodd y deuddeg ar hugain oedd ar y blaen at y bont dros yr Oreto, Pont y Llyng- esydd y gelwid hi. Yr oedd yn cael ei liam- didiffyn gan 400 o wyr. Taniodd milwyr Garibaldi yn gyntaf arnynt yn chwyrn o'r tuhwnt i'r coeclydd oedd yn amgylchynu'r ffordd, yna ymladdwyd law-law. Saethodd Capten Pira ei hun bedwar o Neapoliaid yn farw a chwe' ergyd o'i revolver. Ond yr oedd corph y fyddin yn symud yn mlaen, a,c ymladd a bidogau am yehydig amser a enillodd i'r Mil eu sefyllfa gyntaf. Wedi ymladelb ffyrnig, yr oedd y Neapol- iaid yn cilio yn ol i'r heolydd. Yr oedd hen borth y Termini wedi ei ddinystrio gan y Brenhin Bomba, a'r fynedfa i'r bont wedi ei lledu er hyrwydcliant symndiadau ei filwyr. Yr oedd hyny yn awr yn ate I> dyben y rhai oedd am ddymchwelydLlywodraeth ei fab. Daeth Garibaldi i fyny yn awr, bron ar yr adeg yr oedd ei ffyddlon Tukery yn cael arch- oil farwol. Fel yn cael ei ysprydoli gan ei gwymp, cipiodd un o filwyr Garibaldi faner Itali Unedig, ac aeth a hi heb dderbyn niwed drwy dan y gelynic.n. Dilynwyd ef gan bump o rai ereill, ac o fesyl tipyn, yr holl fyddin yn ngwydd eu eadfridog, yn myned i mewn i'r ddinas, ac yntau yn eu dilyn drwy ganol mwg a than. Yr oedd aelodau Pwyllgor Palermo yno i'w dderbyn. Rhoddodd yntau orchymyn ar un- waith i barricadio yr heolydd o'r tu ol, ac felly yn cau ei hun i mewn yn nghanol ei elynion. Yr oedd y preswylwyr ar y cyntaf yn ofni, ond wedi cael golwg ar eu hachubwyr, yr oeddynt yn ymwroli, a chyn bo hir yn dechreu ymddangos yn eu ffenestri, ac yn yr heolydd i groesawu Garibaldi a'i wyr mewn pobpeth. Yr oedd Garibaldi yn ciniawa y dydd hwnw yn y palas a elwir Piazza Bologna. Ar y trydydd dydd yr oedd baner Sardinia yn chwifio uwchben y ddinas a Garibaldi wedi gorchfygu unwaith yn ychwaneg, ac yn cyhoeddi ei hun yn Rheolwr Sicily. Yn mhen dau ddiwrnod wedi hyny, yr oedd Mil Garibaldi ar eu ffordd i waredu Messina, cadarnfa ddiweddaf y Bourboniaid yn Sicily.

[No title]