Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PENNOD V.-Y MAER.

News
Cite
Share

hen, yn cyflawni y llafur a allent. Ni ofyn- wyd yr un cwestiwn iddi yn nghylch ei ohy- meriad yn y gorphenol—ni fynai meistr y gwaith gyfyngu ei gynnorthwy i'r tlodion hyny yn unig nad oedd gan neb ddim yn eu herbyn, ac o ganlyniad yr unig gyfadd- asiad i lawer dyn a dynes i gael eu cyflogi yno oedd eu bod mewn angen. Nid oedd pawb o'r cyflogedig, fodd bynag, mor ddyngarol a'r eyflogwr, oblegid yn ystod y diwrnod cyntaf i Magdalen fod yno, fe ofynwyd cannoedd o gwestiynau yn ei chylch gan y merched ereill, y naill i'r Hall, ond nid oedd, neb yn gwybod o ba, le y daethai na phwy neu beth oedd hi cyn dod yno. Cyn y nos, sut bynag, yr oeddynt wedi llwyddo i gael allan ei bod wedi cymeryd llety gyda gwraig weddw yn y dref o'r enw Mrs Dailytale—hen wreigan fusneslyd, chwedleugar, alluog i'w ryfeddu i chwilio allan i'r gwaelodion bob ystoii glywai ac i aii-adrodd y cyfryw gyda, chryn. lawer o ychwanegiadau golygus o'i heiddo ei hun. Yr oedd yr hen wreigan siaradus hon wedi gwneyd ei hun yn atgas yn y dref drwy ei gwaith dibaid yn ymyryd efo busnes pobl ereill, a phe y buasai yn ddyn yn lle yn ddynes buasai wedi cael "cweir" ugeiniau o weithiau oherwydd ei hymyriad di-alw- am-dano. At hono yr oedd y ddynes ddy- eithr wedi myn'd i letya, ac felly teimlai merched ereill y gwaith yn bur sicr y caent hwy bob mymryn o hanes y ddynes ieuanc ddyeithr cyn pen deuddydd neu dri. Os oeddynt yn disgwyl chwedlau ofnadwy am y ddynes ddyeithr ni siomwyd mohonynt. Yn mhen tridiau neu bedwar elywsant ar ol yr hen Mrs Dailytale fod y ddynes, yn ys- grifenu llythyrau yn rheolaidd at ryw ddyn yn Biwmaris, sir Fon, a bod hwnw yn ei gofyn o ddyled o ddeg punt am gadw rhyw blentyn iddi! "Dyna i chwi," ebai Mrs Dailytale wrth rai o'i chymydogesau pan yn adrodd fel yr oedd llythyrau prefat y ddynes wedi digwydd dod yn ddamweiniol, fel tase, i'w dwylaw hi—"dyna i chi sut lodjiar neis sy gen i rwan. Mae ganddi hi un plentyn, hwrach fwy; hwrach wir hanner dwsin, a be wn i nad plant ordderch ydyn nhw bob un ? Rhaid mate Achos toes gyni hi run gwr, hyd y gwn i. Felly dyma i chi ddynes swel hefo hanner dwsin fan leia o blant or- dderch, ac yn cael ei pharchu yn y gwaith fel tase hi mor barchus a rhywun fel fi ne chi, ynte, rwan ? Peth ofnadwy ydi peth fel hyn, ynte rwan ? la, debig iawn wir!" "Wel, wel," ebai un gymydoges, yr hon pan yn ferch ieuanc fu yn ddlgon anfFortunus i roddi genedigaeth i blentyn cyn y diwrnod y priodwyd hi efo ei dad, "i be rydach chi'n siarad felna. Mrs Dailytales Y cwbl ydach chi'n wybod yn sicir ydi fod gan y ddynes un plentyn, a dyma chi nid yn unig yn gwneyd eich meddwl i fyny ar unweth mai plentyn ordderch yw hwnw ond fod yn ihaid fod ganddi hi beth bynag lianner dwsin o blant ereill. Bewyddoch chi nad gwraig weddw ydi hi?" "Mae gen ambell ddynes brofiad be ydi bod yn anffortunus," ebai Mrs Dailytale, "a felly mae nhw yn medru cydymdeimlo efo rhei run fath a nhw eu hunen-" Ond nis gallodd yr hen wrach. ystraegir ddyweyd dim vchwaneg drwy fod y llall, ar ol cael briwio ei theimladau, weai neidio i'w phen a'i thynu yn llarpiau hyd lawr. Bu yno y fath ifrae fel y gorfuwyd cael plismon i dawelu yr helynt, ac meddai hwnw wrth fyn'd ymaith, "Dyma'r trydydd tro ar hugen i mi gael fy r-galw i roi terfyn ar rows fydd wedi eu cychwyn gan yr hen genawes hyll yna, Mrs Dailytale. Y tro nesaf rydw i'n sicir o fynd a'r hen wrach i'r jel am noson edrych a wnaiff hyny gau ei hen safn hi." Fodd bynag, aeth chwedlau Mrs Dailytale y 11 yn gyffredin yn y weithfa yn mhlith merched y lie, a daeth sefyllfa y ddynes ddyeithr druan yn annioddefol yno. Edrychid ami gan ei chyd-weithesau fel creadures rhy isel ac anfoesol i gydgymdeithasu a hwy taflent eiriau bryntion a chreulon ati, mewn dull lledchwith, rywbeth i'r perwyl na ddylai mamau plant ordderch ddiim cael dod i fewn i'r gwaith o gwbl. Ac nid oedd Iluaws o'r merched wnaent hyn ddim yn hollol mor lan eu cymeriadau yn y cyfeiiiad yma ag y dylasent fod. Cyn pen y pythefnos daeth y chwedlau hyn i glustiau rheolwr adran y merched o'r weithfa, ac heb unrhyw awdurdod o gwbl penderfynodd hwnw droi y ddynes ddyeithr ymaith. Galwodd arni i'w swyddfa breifat ei hun, ac meddai, "Yr wyf wedi cael ar ddeall nad yw eich cymeriad yn y gorphenol yr hyn ddylai fod. Felly rhaid i chwi fynd ymaith." "Beth bynag ydych wedi glywed am danaf, dymunaf ofyn onid wyf wedi gwneyd fy ngwaith fel y dylwn ?" "0 ydych. Ond nis gallwn yma ganiatau i ddynes, o'ch cymeriad chwi gymdeithasu efo'r merched ereill." "Beth sydd genych yn fy erbyn ?" "Pa Ie y mae tad y plentyn yna sydd genych yn cael ei fagu yn Biwmaris, sir Fon ?" "Y mae efe wedi marw er's blynyddoedd." "Twt, loi botes,. Peidiwch meddwl fy nhwyllo i fel yna. Dynes ddibriod ydych, ac nid hwna yw yr unig blentyn sydd genych. Ewch ymaith." Atebodd y ddynes ef mewn geiriau tan- Ilyd, pur debyg i'r rhai y gallesid disgwyl i ddynes onest eu defnyddio dan y cyfryw am- gylchiad; ond gafaelodd y rheolwr ynddi a cheisiodd ei hyrddio allan i'r heoL Fodd bynag, cafodd hi afael yn llabed ei got a thynodd ef allan i'r heol gyda hi, ac yn fuan ymgasglodd torf o edrychwyr yno, ao yn eu mhysg heddgeidwad, yr hwn yn bur ddiseremoni a gymerodd y ddynes i'r ddalfa gan ei llusgo i'r "lock-up" gydag ef. Yno yr oedd Mr Johnson, yr arolygwr heddgeidwadal. "Beth y^v?r cyliudcliad,?" gofynai yn fyr a sychlyd i'r heddgeidwad pan welodd ef yn arwain y ddynes i fewn. "Ymosod ar reolwr y gwaith a chreu eyn- hwrf eyhoeddus, yn yr ystrydoedd." "O'r goreu," ebai Mr Johnson, "beflwch hi i'r gell yna am heno. Caiff fynd o flaen y maer bore yfory." Ond rywfodd, yn sydyn ac annisgwyliadwy, fe ddaeth y maer ei hun i'r swyddfa ar y foment hon, safai o'r neilldu yn gwrandaw yr ymddyddan rhwng y plismon a,'I.Lëtrolygwr. Pan glywodd efo yr olaf vn gorchymyn i'r druanes gael ei thaflu i gell am y noson aeth yn mlaen gan ymholi beth oedd ei throsedd. "Creu cynhwrf yn eich gweithfa, syr; ymosod ar un o'ch rheolwyr, ac aflonyddu ar yr heddwch yn yr hool wjdi hyny," atebai Mr Johnson. Dechreuodd y wraig-os gwraig oedd hi, neu ferch ddibriod efallai-ddyweyd ei chwyn wrth y ma jr, a chyn bo hir gorchy- mynodd yntau i'r heddgeidwaid ei gollwng yn rhydd. "Beth ebai Mr Johnson, mewn syndod, "gollwng dynets) cUdigymeriad fel hon yn rhydd a ninnau wedi cael cyhuddiad1 pwysig yn ei herbyn "Gollyngwch hi yn rhydd ebai'r maer. "Cofiwch, syr," meddai Mr Johnson, "iiad ydych yn eistedd ar y fainc yn awr. Nid fel ynad neu faer yr ydych yn siarad yn awr." "Dim gwahaniaeth. Gollyngwch y ddynes yn rhydd." "Na wnaf," ebai Johnson yn herfeiddiol. Ar hyn trodd y maer at yr heddgeidwaid ereill a gorchymynodd hwy i ollwng y ddynes yn rhydd. Edrychasant ar eu gilydd am enyd mewn penbleth, ac yna darfu i un ohonynt, oedd yn perchen mwy o yspryd aniiibynol a diofn na'r lleill, ddatod gefynau y ddynes. "Dyna chwi," meddai, "ewch allan. Yr ydych yn rhydd drwy orchymyn y maer." "Ac hwyrach fod y maer," ychwanegai Mr Johnson, "yn adtiabod y ddynes cyn heddyw—un o sir Fon yw hi." Trodd Mr Gregory yn sydyn at yr arolygwr heddgeidwadol fel pe ar fin ei ateb yn Ilym; end adfeddiannodd ei hun, ni ddywedodd ddim, ac aeth allan ar ol y ddynes. Cafodd afael ynddi yn yr heol gyferbyn a'r swyddfa heddgeidwadol. "Wei," meddai wrthi, "p8. bechod wnaethoch yn y gwaith acw fel ag i gael eich troi i li'wrdd." "Dim, syr, ond fod rhai o'r merohed wedi gwrandaw ystraeon celwyddiog am danaf." Ac adroddodd yr lioll hanes wrth y maer; ond cyn iddi orphen pwysodd ei phen yn erbyn mur cyfagos, aci wedi flit o beswch gwelai y maer ffrwd o waed yn dylifo o enau y greadures druan. Galwodd gerbyd i'r lie a chymerodd y ddynes ymaith yn ddioed i yspytty y gwaith lie y gweinyddwyd ami gan y meddyg a'1' nurses. Y diwrnod dilynol, aeth y maer i edrych am dani, fel y byddai yn ediych am bawb yn ei yspytty bron bob dydd. "Wel," meddai, "sut yr ydych yn teimlo heddyw?" "Drwg, syr; maei gwaed-lestr wedi tori yn fy mrest ac nid oes oes hir i mi eto. 0 beth a wna fy mhlant." "Ah! Ac y ma,ei chwi fwy nag un plentyn, felly," meddai'r maer. "Oes, mae genyf bump. Ond ni raid i chwi goedio chwedlau celwyddog y bobl yn y gwaith. Yr wyf yn wraig briod. Bu'm yn briod ddwywaith. Bu fy ngwr cyntaf farw gan fy ngadael gyda phlant, ac nis gwn pa fodd y gallaswn gadw fy hun a.'m teulu bach yn fyw y pryd hyny onibai am fy mrawd oedd yn byw gyda ni ar y pryd. Aeth ef ymaith, ac wedyn priodais yr ail dro, ond fe laddwyd fy ngwr mewn damwain a gadawyd fi gyda phlentyn byclian iddo, yr hon sydd yn cael ei magu mewn tafarn yn Biwmaria, sir Fon." "Sir Fon Ai oddiyno yr ydych yn dod f "le," "0 ba leyn sir Fon