Hide Articles List

5 articles on this Page

,COLEUDY Y SKERRIES

News
Cite
Share

COLEUDY Y SKERRIES Nifer o ynysoedd) creigiog gyferbyn a thraeth gogledd-orllewinol Ynys Mon, dwy filldir gogledd-orllewinol o Pwynt Carmel, ac wyth a chwarter gogledd-wrth-ddwyrain o Gaergybi, ydyw'r Skemes. Gelwir y fan yn Gyniraeg with yr enw Ynys y Moel- rhoniaid, hyny ydyw, Ynys y Morioi. Er mor greigiog ydyw y lie, tyf yno fwyel i'r ychydig ddefaid a chwningod a geir rhwiig yl ereigiau. Yn 1714, codwyd goleudy ar uchaf y ereigiau, yn dangos goleuni 117 troedfedd o uchder, ac yn weledig bymtheg milldir o iiordd. Dywedir y perthynai yr ynys gynt, i Eglwys Gadeiriol Bangor, aw- durdodau yr hon a honent yr unig hawl i bysgodaeth glanau yr ynys. Gwrthwyneb- wyd yr hawl hwn gan Griffiths, o'r Penrhyn, ond yn 1495, adhawliwyd y bysgodaeth gan yr Esgob Dean, yr hwn a aeth yn bersonol i'r lie ac a fachodd yno 28 o bysgod. An- fonodd Syr William Griffith ei fab a dynion ereill ar ol gweision yr Esgob i gymeryd y pysgod oddiarnynt, ond gorfu i'r barwnig wneyd iawn i'r Esgob am y camwri. Ar ol hyn daeth Nicholas Robinson yn mlaen gyda rnwy o eofndra, ac a gymerodd feddiant o'r. ynys i un o'i feibion. Meddiannwyd hi ar ol hyn gan William Robinson, Monaclidy, Mon, a Gwersyllt, sir Ddinbych, yr hWll a foddodd. mewn ystorin wrth ddychwelyd o'r ynys. Dywedir y dygai y lie elw o 20,000p yn 1835 ar blynyddoedd blaenorol i M. Jones, Ysw., oddiwrth longau a elent heibio a phethau ereill. Gwerthwyd y fan i'r Trinity Board y flwyddyn hono, meddir, am 445,000p. Tyra adar gwylltion yma yn lluaws mawr. Dywedir fod. taith air y mor i'r ynys ar dywydd braf yn liynod ddymunol ac iachusol.

YR HEN GEFANBYRIAETH

BYW, A GADAEL I EREILL FYW

DISGWYL LLYTHYRAU

[No title]