Hide Articles List

1 article on this Page

Y GWDDFWCH

News
Cite
Share

Y GWDDFWCH R brydnawn Sadwrn, ychydig wyth- « nosau yn ol, gallesid gweled Mrs IffiL > w Roderick, Pontyberllan, yn myned i fewn i'w pharlwr. Ystafell dywell, oeraidd, a phruddaid ddigon ydoedd parlwr y ffermdy adnabyddus hwn. Yr oedd y llawr (yr hwn a orchuddid bron i gyd gan garped g'veuedig o edafedd luelyu a du) wedi ei wneyd o gerig anwastad. Yr oedd gymaint ag oedd yn y golwg o'r mur, rhwng y rhesi o gardiau coJiawdwriietliol a sharopleri, wedi ei addurno a lluniau duwin- yddion nodedig, o John Bunyan i John Wes- ley. Wrth y drws oddiaJlan, safai Mrs Roderick, gan syllu i fewn mor ddefosiynol a phe bu- asai yn paratoi i fyned i fewn i deml.. Plygai i lawr, a throai ei phen o'r naill ochr i'r Hall, gan syllu i bob twll a chornel, er gweled a oedd yn bosibl fod rhyw ronyn o lwch i'w weled ar y dodrefn caboledig. Wedi cael profion boddhaol fed pob peth mor lan ag y gallai dwylaw eu gwneuthur, plygodd y cad- ach llwch mor ofalus a phe buasai yn plygu ei napcyn sidan, a dododd ef yn ol yn y cwd bychan oedd yn hongian wrth ei hochr, ac yna aeth i fewn i'r parlwr, ac aeth yn mlaen at yr harmonium, yr hwn a safai rhwng y ffenestri. Gwraig ganol oed ydoedd, o ym- ddangosiad golygus, gyda dannedd yn ys- gwyddo allan, gwedd welw, a, thrwyn bachog. Gwisgai y piydnawn hwn un o'i dresses mwy- af ffasiynol. Fel yr eisteddai ar ystol uchel o flaen yr harmonium, edryohai o'i chefn yn ferch lathraidd, ac yr oedd ei gwallt wedi ei drefnu nlor ffasiynol ag ydoedd yn y dyddiau gynt, psn, fel inerch i bregethwr Methodist- aidd, yr enillodd galon y ifermwr oyfoethocaf ar lanau Teifi. Ar ol chwareu ton ar yr harmonium, de- chreuodd ganu, mewn llais dwys a mwyii, yr hen emyn, "Daw dydd o brysur bwyso." Yr oedd morwyn yn cerdded yn ddistaw ar hyd y fynedfa, ac arosodd gyda breichiau plethedig, hyd nes i Mrs Roderick orphen y pennill. Yna, ebe hi, "Y mae Mr George Morgan am eich gweled, ma'am." C'yfododd ei meistres, a chauodd glawr yr efferyn. "Gellwch ddyfod a Mr Morgan i fewn yma, Lydia," meddai. "Byddwch yn sicr o beri iddo lanhau ei esgidiau gyntaf." Yna, eisteddodd yn hamddenol yn y gad- air freichiau fawr, yr hon oedd wedi ei gwisgo a lledr Americanaidd, yn yr hon yr oedd ei gwr wedi cysgu ei hun olaf. Yr oedd yn ad- drefnu ei gwisg pan yr oedd y forwyn yn dangos Mr Morgan i fewn. Bachgen hynod dal, a lluniaidd, gyda gwyneb coch, llydan ydoedd George Morgan. Gwisgai ei ddillad llwydion goreu, a'i gadach gwddf disgleixiaf erbyn yr ymweliad hwn. Ysgydwodd Mrs Roderick law ag ef yn sercli- us, a cheisiodd ganddo eistedd mewn cadair yr oclir arall i'r tan. Ar ol siarad yn nghylch y tywydd a'r gwartheg, pris yr ymenyn a'r yd, daeth Mrs Roderick ar unwaith at y pwynt. "Y mae Emma wedi dyweyd wrthyf," meddai, "eich bod yn dod yma heno i ofyn fy nghaniatad i gyfeillachu a hi; ac felly modd- yliais fod yn well iddi fod allan o'r ffordd. Aeth ymaith y prydnavvn yma ar gefn y poni i Lanbedr i edrych am ei hewythr, ac nid yw yn dod yn ol cyn dyad Llun." Gwelwodd gwedd y dyn ieuanc. Yr oedd ef wedi gobeithio gweled golygfa deuluaidd liapus, fel y rhai ag oedd efe wedi darllen am danynt mewn nofelau. Nid oedd yn hollol anobeithio enill ffafr y fam. Nid oedd neb a allai ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn mewn dim. Nid oedd arno geiniog o ddyled i neb. Efe ei hun oedd perchenog y fferm oreu yn mhlwyf Llandyssul, ac yr oedd ei geffylau y rhai oedd wedi eu magu ei hun, wedi enill y gwobrwyon blaenaf yn Rasus Ceffylau Castellnewydd-Emlyn. Emma, hefyd, oedd ei gariad cyntaf, ac felly nid oedd efe yn gallu rhagweled un anhawsder i enill calon y ferch a bendith y fam. "Yr wyf am wneyd prawf ar eich ffydd," meddai Mrs Rodenck. "Gwnaeth fy nhad y prawf ar fy ngwr i; ac yr oedd ei atebion yn foddhaol; ac os bydd eich atebion chwi felly, rhoddaf fy nghydsyniad i chi ar unwaith." "Yr wyf yn foddlon," meddai y cariadfab, mewn llais egwan. Y mae Emma wedi dyweyd wrthyf na fydd o un dyben i ni gyf- eillachu heb eich cydsyniad chi. Y mae hi yn ferch dda; a gwna gymeryd ei harwain gan eich ewyllys chi." "vvel, ynte, dyma sydd genyf," meddai y weddw. Yr oedd ffermwr yn arfer galw yn fynych yn nhy fy nhad, pan oeddwn i yn lodes ifanc, ac yr oedd yn fynych yn adrodd air yr hyn oedd wedi digwydd i'w wraig cyn iddynt briodi. Ni roddaf fi fy marn ar y peth. Y mae rhai yn credu y chwedl, a rhai yn gwrthod credu. Digwyddodd yn debyg i hyn. Yr oedd ei wraig, yr hon oedd yn ferch ifanc ar y pryd, yn myn'd o Langeler i farchnad Caerfyrddin gydag ymenyn ac yr oedd, oherwydd rhywbeth neu gilydd, dan augenrhaid i fyned dros Ros Penboyr. Yr oedd yn ddiwrnod poeth iawn, ar adeg cyn- liauaf gwair. Yr oedd y tywydd wedi bod yn anarferol o sych-haf pur debyg i haf '93, gallwn feddwl. Yr oedd y ferch yn sychedig iawn, ond nid oedd diferyn o ddwfr rhedegog nv weled yn un man. Elai yn mlaen ac yn mlaen dros yr hen ros geriglog, hyd nes y pallodd ei nerth yn lan. Dododd ei basged ilwythog i lawr, a chan faint y gwres, yr oedd yr ymenyn yn rhedeg drvvy y fasged, ac ed- rychodd o'i hamgylch. Yr oedd hen lefel gwaith mwn gerllaw, ac yr oedd y pyllau agored yn llawn o ddwfr gwyrdd-felyn, gyda scum ar ei wyneb. Yr oedd y dwfr yn ffi- aidd, ond nis gallai ymattal, gan faint ei syched, ac felly plygodd i lawr, ac yfodd fel ych. Yna, cyfododd, a gafaelodd yn ei bas- ged, gan ail-ddechreu ei thaith, ond cyn iddi fyned oddeutu deg Hath, teimlai rywbeth yn nydd-droi yn ei chylla, fel pei buasai rhawn byw oddifewn iddi. I dori yr ystori yn fyr, m chyrhaeddodd farchnad ICaerfyrddin y diwrnod hwnw, nac am hir amser ar ol hyny, ychwaith. Yr oedd yn sal iawn, pan gyr- haeddodd adref. Gwelwodd ei gwedd, a churiodd ei chnawd, fel yr oedd, yn mhen ilai na mis o amser, yn analluog i adael car- tref. Agorai George Morgan ei geg gan syndod. "Cato ni meddai, gan grynu. Ocheneidiai y weddw wrth weled ei ddy- chryn. Nis gallai y meddygon wneyd dim iddi," meddai Mrs Roderick, yn mhellach; a mcddyliodd ei rliieni ei bod yn myned i faft'w, O'r diwedd, cynghorodd rhywun hwynt i fyned i Gwrt-y-Oadno at 'ddyn hysbys,' i ed- rych os gallai hwnw ei gwella. Felly anfon- a^ant am dano, a daeth yntau; a dywedodd riai llyncu 'gwddfwch' oedd y ferch wedi ei wnt yd." Gwddfwch, dd'wedsoch chi, ma'am ?" ebe George, dan grynu. "Ie, 'gwddfwch/ Y mae yn air dyeithr i chi. Nid ydyw'r gair yn y dictionary Daeth y dyn yno drachefn tranoeth, gyda'r nos, a dywedodd wrthynt am gyneu tan mawr o goed sycamor, ac yna cymerodd y ferch, a chylym- odu hi mewn cadair a rhaffau, a chylymodd ei gwallt wrth farau y grat, a throdd bawb allan, a chlodd y drws. Cadwodd y ferch o fiaen y tan, nes yr oedd ei chnawd bron wedi rhostio. Dywedai ei gwr (ar ol hyn) ei fod ef yn sefyll oddiallan, a bod ei hysgrechfeydd yn arswydus. "Yn ddisymwth, yn nerth y gwres aruthrol, estynodd y 'gwddfwch' ei ben allan o safn y lodes, ac edrychodd oamgylch. Yna, aeth yn ol eilwaith, ond yr oedd y 'dyn hysbys' wedi ei weled, a chydiodd yn y pocer, a dod- odd ef yn y tan. Ond ni ddeuai yr anghenfil allan eilwaith, ac wrth weled hyn, cydiodd yn y ferch a symudodd hi yn nes i'r tan, nes yr oedd ei breichiau yn cyffwrdd a'r barauyn mron. (Bu raid rhoddi plaster ami ar ol hyn, a chafodd y tan iddwf yn ddrwg iawn.) Gwelodd y 'dyn hysbys' ben y 'gwddfwch' yr dod allan eilwaith, ac ymguddiodd wrth gefn cadair. Ymbalfalai y gwddfwch allan o dipyn i dipyn-anghenfil mawr, tebyg i ly- ffant, gyda clnvech o grafangau fel dwylaw, a chorph chwyddedig. Yr oedd oddeutu hyd braich, ac yr oedd ganddo lygaid coch, gwaed- lyd. Cripiai i lawr dros ei bron; a chyn fod ei gyiiffon wedi dod allan, yr oedd ei ben ar ei haiffed. O'r diwedd, tynodd ei gynfFon ate, ac ynidroellodd fel pelen. Gydag un llaw yn cydio yn y pocer a r Haw arall ar enau y ferch, dechreuodd y 'dyn hysbys' losgi y 'gwddfwch' i farwolaeth." Yr oedd y cariadfab yn crynu drwyddo. Crogai ei ddwylaw i lawr gydag ochr ei gad- air, ac ymddangosai fel pe buasai wedi colli nerth ei ewynau. Dyn cato pawb ebe fe, gan ocheneidio fel pe ar lewygu. Ysgydwai (Mrs Roderick ei phen. Yr oedd wedi dymuno o'i chalon ar fod i George ddy- fod allan yn fuddugol o'r prawf tanllyd hwn ar ei ffydd. Eto, nid gwraig i suddo o dan siomedigaeth ydoedd Mrs Roderick. "Pan gyffyrddodd y 'dyn hysbys' a'r gwddfwch, meddai hi, yn mhellach, "yr oedd yn nydd-droi fel edafedd, ac yna safai yn syth, gan ymdrechu myned yn ol eilwaith drwy safn y lodes druan, ond yr oedd llaw y dyn hysbys' (yr hon a gnodd y gwddfwch' yn arswydus) ar ei ffordd, ac yna cwympodd i lawr ar yr aelwyd. Dododd y dyn y pocer arno gyda nerth braich. Dechreuai ysgrech- ian, fel plentyn; ond, chwap fach, 'doedd dim i'w weled ond colsyn du." Dilynodd distawrwydd hirfaith, a thorodd George ar y distawrwydd trwy ofyn A ddarfu i'r lodes wella, ma'am 1" Yr oedd y dyn oedd yn adrodd yr hanes wedi ei phriodi ar ol hyn." "Ni chlywais i fath hanes dychrynllyd er- ioed. Buasai yn well genyf farw," meddai Mr Morgan. Oododd Mrs Roderick o'i chadair.