Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Mil JOHN PRICE, ARWEINYDD…

DYWEYD NOSWAITH DDA

News
Cite
Share

DYWEYD NOSWAITH DDA Yr oedd gwr ieuanc yn sefyll ar un o'l grisiau oedd yn arwain i'r drws, y noson o'r blaen, ac ar ris arall, uwch ei ben, y safai merch ieuanc hardd. Yr oedd hi'n hwyr, a'r heolydd yn dawel. Er ei bod yn dywyll, yr oedd yn amlwg i'r sawl a elai lieibio ar ddamwain, fod llaw ddeheu, feclian, dyner, y ferch ieuanc o fewn i'w law ef, tra yr oedd ei law aswy yn gor- phwys ar gefn ei llaw, i'w hamddifIyn a'i chadw yn gynhes. Yr oedd yn amlwg fod y gwr ieuanc wedi bod yn ceisio dyweyd "Nos dawch" amryw droion, a'r ferch ieuanc, mae'n debtor, yn methu a'i glywed, oherwydd yr oedd hi yn gwyro ei plien i lawr yn glos i'w ben yntau. Safent yn y sefyllfa hono yn agos i chwarter awr, a gallasai y wawr dori arnynt yn y sef- yllfa hono onibai i rywbeth gyfryngu. Yr oedd y rhywbetli hwnw yn beth gloew a chrwn, ac yr oedd yn disgyn i lawr yn araf o'r ffenestr uwchaf oil, pedwar uchder HoEFt.' Yr oedd yn dyfod i lawr yn araf, a'r lleuad yn disgleirio ar ei wyneb arianaidd, gan ei wneyd yn amlwg. ■Cyn liir, gellid gweled ei fod yn cael ei fwrw i lawr wrth linyn, ac yn cael ei ollwng felly gan hen wraig, pen yr hon ellid weled yn awr ac eilwaitli. Pan ddaetli i lawr yn ddigoii isel i allu cyffwrdd a phen uchaf y portico, daeth rhyw byr-r-r-r-rum, swnfawr a sydyn allan o'i grombil, a gollyngodd y gwr ieuanc law yr enetli mewn ychydig o fraw. Ymaflodd y gwr ieuanc yn wrol yn y peth crwn, disglaer yma, yr hwn oedd yn parhau i brr-rian, a throdd ei wyneb i'r goleuni. Yr oedd bysedd yr alarwm ar hanner nos. Tyn- odd ei het i'r ferch ieuanc, a sibrydodd ryw air neu ddau yn ei chlust, ac yna aeth ymaith. Dirwynwyd yr alarwm i fyny yn gyflym, ond yr oedd y ferch ieuanc i fyny y grisiau uwchaf cyn iddo gyrhaedd y ffenestr, pan oedd bysedd haiarnaidd amser yn dirwyn daro hanner nos.

[No title]

Advertising

MR J. W. JONES, U.H., PLASYBRYN.