Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Mil JOHN PRICE, ARWEINYDD…
News
Cite
Share
Mil JOHN PRICE, ARWEINYDD COR RHYMNI. Dygwyd cnw Mr John Price i enwogrwydd olierwydd ei gysylltiad a chor llwyddiannus Rliymni, yr hwn sydd yn anrhydedd nid yn unig i sir Fynwy, i ba un y perthyna, ond hefyd i holi Gymru. Er's mwy na banner canrif, y mae hwn gerbron y wlad fel un o'r corau sydd wedi cynnal i fyny ei emv da drwy gydol yr holl amser, ac en;llodd y llawryf yn y prif gystadleuaethau ami i droion yn erbyn en mniau eerddorol o Aberdar, Mcrthyr, Dowlais, a lleoedd ereill. Tua deugain mlyn- edd yn ol, enillodd y brif wobr yn Eistedd- fod fawr Caerfyrddin, pan o dan arweiniad Mr John 'David Thomas, yn erbyn y corau a enwyd. Ffurfi wvd y cor presennol perthyn- ol i Rhymni yn 1892, pryd y penodwyd Mr John Price yn arweinydd gyda'r bwriad o igystladlu yn Eisteddfod Caerphili Ddydd Llungwyn y flwyddyn hono. "Yr Haf" oedd y dernyn i'w ganu, ac, yn erbyn pump o gor- au ereill, enillasant y wobr o 20p, wedi cael 58 marc allan o 60 posibl. Yr ymdrechfd nesaf oedd iLlun cyntaf Awst, yr unrhyw flwyddyn, yn Eisteddfod Porth, pryd y dy- famwyd y wobr o 35p iddynt, ac y dywedodd Mr David Bowen, un o'r beirniaid, fod "an- feidroldeb o walianiaeth rhwng canu Cor Rhymni a'r lleill." Yn nesaf, cystadleuasant yn erbyn pum' cor ar ganu Yr Haf," yn Eisteddfod Treharris, pryd v rlianwyd y wobr o 30p rhyngddynt hWYllt a'r didrech Dow- lais. Ymrysonasant drachefn yn 1893, yn Eisteddfod Abergafenni, yn erbyn pump o gorau enwog ereill, pryd y dywedodd Mr Risely, arweinydd Cymdeithas Bristol Or- pheus, ar ran ei hun a'i ddau gydfeirniaid, "y wobr gyntaf (30p) yn ddios i Rhymni." Wedi y fath lwyddiant, penderfynodd y cor ymdrechu yn mhrif gystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, a rhoddodd yr ar- weinydd (Mr Price) ei hunan at wasanaeth y cwmni, ond, yn y cyfamser, mynodd y cor ymryson am wobr Eisteddfod Portli, lie y cawsant bron, am y tro cyntaf, eu gorchfygu, a hyny, fel yr addefant, yn eithaf teg. Mbdd bynag, ni wangalonwyd hwynt, ac aethant yn mlaen gyda pharatoi ar gyfer yr Eisteddfod. Genedlaethol, lie y buont fuddugoliaethus, ac y dywedodd Dr Mackenzie na chlywodcl yn ei fywyd ganu mor rhagorol a plierfform- iad Cor Rhymni. Cydnabyddai aelodau y cor a phawb arall fod y llwyddiant am y fuddugoliaeth yn ddyledus i Mr Pricey yr ar- weinydd. Fe gofir yn dda mai Cor Rliymiii a enillodd y brif wobr gerddorol (150p a tlilws aur a llyfirau cerddorol gwerth 3p i'r arwein- ydd) yn Eisteddfod Genedlaethol a Bren- hinol Caei-narfon yn 1894. Ar ol y fath lwyddiant ag enill y prif wobrwyon mewn dwy Eisteddfod Genedlaethol, penderfynodd y cor gydnabod gwasanaeth eu liarweinydd talentog, ac mewn cyfarfod yn mis Medi, cyf- lwynasant i Mr John Price bwrs llawn o aur. Deallir fod y cor ar liyn o bryd yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, y flwyddyn hon, a diau nad achoswn eiddigedd trwy eidduno i Mr John Price a Chor Rliymni ychwaneg o lawryfon.
DYWEYD NOSWAITH DDA
News
Cite
Share
DYWEYD NOSWAITH DDA Yr oedd gwr ieuanc yn sefyll ar un o'l grisiau oedd yn arwain i'r drws, y noson o'r blaen, ac ar ris arall, uwch ei ben, y safai merch ieuanc hardd. Yr oedd hi'n hwyr, a'r heolydd yn dawel. Er ei bod yn dywyll, yr oedd yn amlwg i'r sawl a elai lieibio ar ddamwain, fod llaw ddeheu, feclian, dyner, y ferch ieuanc o fewn i'w law ef, tra yr oedd ei law aswy yn gor- phwys ar gefn ei llaw, i'w hamddifIyn a'i chadw yn gynhes. Yr oedd yn amlwg fod y gwr ieuanc wedi bod yn ceisio dyweyd "Nos dawch" amryw droion, a'r ferch ieuanc, mae'n debtor, yn methu a'i glywed, oherwydd yr oedd hi yn gwyro ei plien i lawr yn glos i'w ben yntau. Safent yn y sefyllfa hono yn agos i chwarter awr, a gallasai y wawr dori arnynt yn y sef- yllfa hono onibai i rywbeth gyfryngu. Yr oedd y rhywbetli hwnw yn beth gloew a chrwn, ac yr oedd yn disgyn i lawr yn araf o'r ffenestr uwchaf oil, pedwar uchder HoEFt.' Yr oedd yn dyfod i lawr yn araf, a'r lleuad yn disgleirio ar ei wyneb arianaidd, gan ei wneyd yn amlwg. ■Cyn liir, gellid gweled ei fod yn cael ei fwrw i lawr wrth linyn, ac yn cael ei ollwng felly gan hen wraig, pen yr hon ellid weled yn awr ac eilwaitli. Pan ddaetli i lawr yn ddigoii isel i allu cyffwrdd a phen uchaf y portico, daeth rhyw byr-r-r-r-rum, swnfawr a sydyn allan o'i grombil, a gollyngodd y gwr ieuanc law yr enetli mewn ychydig o fraw. Ymaflodd y gwr ieuanc yn wrol yn y peth crwn, disglaer yma, yr hwn oedd yn parhau i brr-rian, a throdd ei wyneb i'r goleuni. Yr oedd bysedd yr alarwm ar hanner nos. Tyn- odd ei het i'r ferch ieuanc, a sibrydodd ryw air neu ddau yn ei chlust, ac yna aeth ymaith. Dirwynwyd yr alarwm i fyny yn gyflym, ond yr oedd y ferch ieuanc i fyny y grisiau uwchaf cyn iddo gyrhaedd y ffenestr, pan oedd bysedd haiarnaidd amser yn dirwyn daro hanner nos.
[No title]
News
Cite
Share
Yn China, gellir yn gyfiawn la-del lleidr pan yn dwyn pethau o fedd y liiatw.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BREAKFAST-SUPPER. BP* m B E P P S'S GRATEFUL-COMFORTING. ldploh, COCOA BOILING WATER OR MILK. E L L A. JjVLLA FOR COUGHS AND COLDS. E_~LLA FOR BRONCHITIS AND ASTHMA. Hit the mark when all else had failed." P.P• "j^LLA FOR WHOOPING COUGH. LALLA FOR SCIATICA AND LUMBAGO. n '• After fourteen days intense pain, completely relieved in four hours." M.R. i^LLA FOR INDIGESTION. I llaTfor-strain sandrIcks. lli TDLLA GIVES IMMEDIATE RELIEF. |LLA INYALIJABI7E_FOlTcONSUMPT10N IJ^LLATHE CLEANEST, MOST PLEASANT .Hi REMEDY. iALLA DOES NOT CONTAIN 1NDIARUBBER jnj ADHESIVE. Special agents throughout Wales. Depot: 30, Addle-street, London,E.C. Price, Is lgd or by post, Is 2d. 2 tl 1. 1-mommoomp- POTEL AROCLI DR MACKENZIE At yr ANWYDWST, Gwellha Oerfel yn y Pen. Gwellha Gur Gieuol yn y Pen. Diatreg symuda Haint y Gwrep, Phoen yn y Pen. Y moddion goreu at Lesgadd a Syfrdandod. Gwerthir yn mhob Ff erylldy ac Ystorfa Pris, Un Swilk. Qr GWKTHODWCH EFELYCHIADAU DIWERrH. Drwy'r Post am 15 o lythyrnodau o'r Mackenzie's Cure Depot, Reading
MR J. W. JONES, U.H., PLASYBRYN.
News
Cite
Share
yn Holloway, lie y bu yn flaenor gweitlxgar a ffyddlawn am lawer o flynyddoedd. Tua thair blynedd yn ol, oherwydd afiechyd, ym- adawodd a'r brifddinas, a daeth i fyw i Blasybryn, ger Caernarfon, un or palasdai prydferthaf yn y fro. Dewiswyd ef yn unfrydol yn flaenor yn y Bontnewydd, lie y gweinidogaetlia gyda,'r fath lwydldiant y Parch Richard Humphreys. Ni rhymer Mr Jones ond ychydig o ran mewn pethau cy- hoeddus, gwell ganddo gael llonydd i fwyn- hau seibiant ar ol y blynyddoedd o lafur caled yn Llundiain. Y mae yn Rhydd- frydAvr pybyr. Tua dwy flyneddl yn oil, oodwycl ef i'r fainc ynadol ar gynihelliad Arglwydd-Raglaw y sir. Priododd Mr Jones, y waith gyntaf, ferch i'r diweddar Barch David Jones, Treborth. Bu Mrs Jones farw er mawr ofid i gylch eang o gyfeillion. Priododd, yr ail waith, ferch i'r diweddar Mr John Lloyd Jones, Plasy- bryn, ac eiddunwn i'r ddeuddyn diedwydd: hir oes i fod o wasanaeth i grefydd.