Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Mil JOHN PRICE, ARWEINYDD…

News
Cite
Share

Mil JOHN PRICE, ARWEINYDD COR RHYMNI. Dygwyd cnw Mr John Price i enwogrwydd olierwydd ei gysylltiad a chor llwyddiannus Rliymni, yr hwn sydd yn anrhydedd nid yn unig i sir Fynwy, i ba un y perthyna, ond hefyd i holi Gymru. Er's mwy na banner canrif, y mae hwn gerbron y wlad fel un o'r corau sydd wedi cynnal i fyny ei emv da drwy gydol yr holl amser, ac en;llodd y llawryf yn y prif gystadleuaethau ami i droion yn erbyn en mniau eerddorol o Aberdar, Mcrthyr, Dowlais, a lleoedd ereill. Tua deugain mlyn- edd yn ol, enillodd y brif wobr yn Eistedd- fod fawr Caerfyrddin, pan o dan arweiniad Mr John 'David Thomas, yn erbyn y corau a enwyd. Ffurfi wvd y cor presennol perthyn- ol i Rhymni yn 1892, pryd y penodwyd Mr John Price yn arweinydd gyda'r bwriad o igystladlu yn Eisteddfod Caerphili Ddydd Llungwyn y flwyddyn hono. "Yr Haf" oedd y dernyn i'w ganu, ac, yn erbyn pump o gor- au ereill, enillasant y wobr o 20p, wedi cael 58 marc allan o 60 posibl. Yr ymdrechfd nesaf oedd iLlun cyntaf Awst, yr unrhyw flwyddyn, yn Eisteddfod Porth, pryd y dy- famwyd y wobr o 35p iddynt, ac y dywedodd Mr David Bowen, un o'r beirniaid, fod "an- feidroldeb o walianiaeth rhwng canu Cor Rhymni a'r lleill." Yn nesaf, cystadleuasant yn erbyn pum' cor ar ganu Yr Haf," yn Eisteddfod Treharris, pryd v rlianwyd y wobr o 30p rhyngddynt hWYllt a'r didrech Dow- lais. Ymrysonasant drachefn yn 1893, yn Eisteddfod Abergafenni, yn erbyn pump o gorau enwog ereill, pryd y dywedodd Mr Risely, arweinydd Cymdeithas Bristol Or- pheus, ar ran ei hun a'i ddau gydfeirniaid, "y wobr gyntaf (30p) yn ddios i Rhymni." Wedi y fath lwyddiant, penderfynodd y cor ymdrechu yn mhrif gystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, a rhoddodd yr ar- weinydd (Mr Price) ei hunan at wasanaeth y cwmni, ond, yn y cyfamser, mynodd y cor ymryson am wobr Eisteddfod Portli, lie y cawsant bron, am y tro cyntaf, eu gorchfygu, a hyny, fel yr addefant, yn eithaf teg. Mbdd bynag, ni wangalonwyd hwynt, ac aethant yn mlaen gyda pharatoi ar gyfer yr Eisteddfod. Genedlaethol, lie y buont fuddugoliaethus, ac y dywedodd Dr Mackenzie na chlywodcl yn ei fywyd ganu mor rhagorol a plierfform- iad Cor Rhymni. Cydnabyddai aelodau y cor a phawb arall fod y llwyddiant am y fuddugoliaeth yn ddyledus i Mr Pricey yr ar- weinydd. Fe gofir yn dda mai Cor Rliymiii a enillodd y brif wobr gerddorol (150p a tlilws aur a llyfirau cerddorol gwerth 3p i'r arwein- ydd) yn Eisteddfod Genedlaethol a Bren- hinol Caei-narfon yn 1894. Ar ol y fath lwyddiant ag enill y prif wobrwyon mewn dwy Eisteddfod Genedlaethol, penderfynodd y cor gydnabod gwasanaeth eu liarweinydd talentog, ac mewn cyfarfod yn mis Medi, cyf- lwynasant i Mr John Price bwrs llawn o aur. Deallir fod y cor ar liyn o bryd yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, y flwyddyn hon, a diau nad achoswn eiddigedd trwy eidduno i Mr John Price a Chor Rliymni ychwaneg o lawryfon.

DYWEYD NOSWAITH DDA

[No title]

Advertising

MR J. W. JONES, U.H., PLASYBRYN.