Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLEFARYDD TY'R CYFFREDIN.

News
Cite
Share

LLEFARYDD TY'R CYFFREDIN. Oherwydd ei fwriad i ymneillduo o'r swydd bwysig o Lefarydd Ty'r Cyffredin, y mae cryn lawer o siarad y dyddiau, hyn am y Gwir Anrhydedclus Arthur Wellesley Peel. Efe oedd fab ieuengaf y diweddar Syr Robert Peel, Barwnig, y gwladweinydd a'r Prif- Weinidog enwog. Ganwyd Mr A. Wellesley Peel yn 1829, a derbyniodd ei addysg yn Eton a Oholeg Balliol, Rhydychain. Ethol- wyd ef yn aelod Seneddol dros Warwick yn 1865, aa pharhaodd i gynnrychioli y lie hwnw hyd ad-drefniad eisteddleoedd, pryd yr ethol- wyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros Leaming- ton. Llanwodd amryw swyddau o dan y Llywodraeth, ao yn 1884 dewiswyd ef yn LK-f-irydd, yr hon swydd anhawdd a lanwodd gyda diysgogrwydd a gallu amlwg. Y mae iddo olwg urddasol, a bu ei ymddygiad ar adegau mwyaf profedig yn deilwng o dradd- odiadau ei swydd aruchel, tra y darfu ei aimhueddrwydd arwain iddo (koi yn llwyddiant cyflawn. Bydd i'r dref a gyn- nrychiola, ma,e'n sicr, deimlo oolled ar ei ol, gan y gwyliai fuddiannau Leamington gyda manylrwydd yn y Ty, tra yr oedd ar yr un pryd yn fynych ymwelwr a'r dref, yn gefn- ogydd ei sefydliadau, ac yn boblogaidd iawn yno gan bob dosparth o'r trigolion. Yr hen arferiadl ar ymneillduad Llefarydd o'r swydd ydyw cynnyg sedd iddo yn IN hy'r1 Arglwyddi, ac y mae'n debyg y gwneir hyny i Mr Peel, end ni wydais eto pa un a dderbynia hyny. Dyry y swydd i fyny oherwydd gwaeledd cynr.yddol, canys y mae pryder a meithder oriau yn y gadair wedi anmharu ei gyfan. soddiad mawr a chadarn. Dynion enwog a fu bron yr oil o Lefarwyr Ty'r Cyffredin, a gellir gosod Mr Llefarydd Peel ar flaenres y rhai hyny. Awgrymir ei fod erbyn hyn o dueddion Undebol er yn Rhyddfrydwr. MR J. W. JONES, U.H., PLASYBRYN.

MR J. W. JONES, U.H., PLASYBRYN.