Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLYTHYR ANFARWOLFARDD.

LLYTHYR WIL SIORS.

SIMON JONES Y SIOP.

BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN

News
Cite
Share

BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN Yr oedd gan un o ysweiniaid Maiden, Massachusetts, hen gaethwas oedd wedi bod yn y teulu nes oedd yn ddeg a thri ugain oed. Wrth weled nad oedd rhyw lawer yn ychwa.neg o waith i'r hen ddyn wneyd, aeth yr yswain ato un diwmod, a dywedodd wrtho yn fawreddog iawn fel y canlyn: — "Yr ydych wedi bod yn was ffyddlon i mi, ac i fy nhad o fy mlaen. Yr wyf wedi bod yn meddwl llawer ar ba, fodd y gallaf eich gwobrwyo am eich gwasanaeth. Yr wyf yn rlioddi eich rhyddid i chwi. Yr ydych o hyn allan yn feistr arnoch eich liunan, ac yn ddyn i chwi eich hunan." Wrth gly-wed hyn:, ysigydwodd yr hen gaethwas ei ben, a chydag edrychiad cyfrwys, oedd yn dangos yn eglur ei fod yn gallu gweled! dlrwy ddybenion ei feistr, dywed- odd — "Na, na, massa! yr ydych wedi bwyta r cig, yrwan rhaid i chi fwyta'r esgyrh." sg £ aa

DIM LLE I GROGI CATH