Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GALARGAN HEN WR GWEDDW.
News
Cite
Share
GALARGAN HEN WR GWEDDW. Mae fy nghalon bron a thori, Ar hyd y nos Tra mae'm corpli i gyd yn rhewi, Ar hyd y nos Cyn i'm golli'm hail gymhares, Yn y gwely ro'wn yn gynhes, Ond vn awr 'rwyf hob un ddynes, Ar hyd y nos IV chofleidio yn fy mynwes, Ar hyd y nos. Dwys ystyriwch, fwyn enethod, Ar hyd y ncs Beth yw cyflwr dyn dibriod, Ar hyd y nos Wedi bod yn briod ddwywaith, Er na ches ond un a.r unwaith, Bu'm mewn blys priodi ganwaith, Ar hvd y nos Gan mor ddwfn oedd fy hiraeth Ar hyd y nos. Bu'm yn berchen siop fy hunan, Ar hyd y nos Am na allwn goinio arian, Fe aeth yn nos Gan nad oedd y siop yn talu, Fel dvn call, fe'i rhoes i fyny, Ei throsglwyddo wnes i gwmni, Cyn dod yn nos Gwas wvf heddyw i'r rhai hyny, Ar hyd y nos. Nid wyf hollol diawd er hyny, Ar hyd y nos Cofiweh chwithau ferclied lieini, Ar hyd y nos Cant a hanner yn ddyogel, Guddiwyd genyf ar y capel, Yn ddistaw bach yn nghlust yr awel, Cyn dod yn nos. Ond rhaicl peidio d'weyd yn uchel, Fe ddaeth yn nos. Teulu'r wraig fu yn fy helpu, Ar hyd y nos Cuddiais gannoedd gyda rheiny, Ar hyd y nos Cuddiais byrsau llawn o arian, Na pherthynenti i fy hunan, Er na fu onestach anian, Ar hyd y nos Gan berchenog siop yn unman, Ar hyd y nos. Cuddiais lonaid ty o gelfi, Ar hyd y nos Dan o offerynau canu, Ar hyd y nos Dau fachine ar gyfer gwnio, Chwech o ddresses French merino, Guddiais i gan ocheneidio, Ar hyd y nos Mewn mawr obaith cael gwraig etc, Ar hyd y nos. Ond 'rwyf 'nawr bron digaloni, Ar hyd y nos Chwant rhoi fyny ysgrifenu, Ar hyd y nos Mae'm golygon wrtli alaru Yn eu tyilau wedi pylu, A'ni meddyliau bron dyrysu, Ar hyd y nos Awydd gwraig yn dal er hyny, Ar hyd y nos. Rhyfedd iawn fod merched ffermwyr, Ar hyd y nos Mor awyddus am bregethwyr, Ar hyd y nos Pe bawn i yn cael fy amcan, Eu traddodi wnawn i Satan, Na bo un i wel'd yn unman, Ar hyd y nos Yn llygadu'r merched mwynlan, Ar hyd y nos. 'Madael wnawn a siop y cwmni, Ar hyd y nos; Pe cawn y drydedd waith briodi, Ar hyd y nos Agorwn eto, doed a ddelo, A'r arian ydwyf wedi guddio, Rhown enw'r wraig o dan v bondo, Ar hyd y nos Rhown bobpeth ar enw hono, Ar hyd y nos. Fel 'rwy'n byw yn siop y bobol, Ar hyd v nos Rhof "swvn-serch" o waith lferyllol, Ar hyd y nos Fr ferch hardd o fferm y Bargoed, Fel na all yn hwy fy ngwrthod, Mi a'i plygaf yn ddiammod, Ar hyd y nos; Er mor dyner ei chvdwybod, Ar hyd y nos. Rhoddais ddogn a swynai angel, Ar hyd v nos; I'r swyddogion yn y capel, Ar hyd v nos Glyna rhai'n yn glwm fel gelod Ynwyf beunydd yn ddiddarfod. Pa beth bynag ddoent i wybod, Ar hyd y nos Deillion serch ni welant bechod, Ar hyd y nos. Os na lwyddaf gyda hwnw, Ar hyd y nos Rhaid i'm farw yn wr gweddw, Ar hyd y nos Rhodder hyn ar lech fy meddrod "Hen wr gweddw wedi ei wrtliod Gan ugeiniau o enethod, Ar hyd y nos Marw wnes dan bwn o drallod, Ar hyd v nos." TWM WIL JACK.
NAWFED RESTR 0 WOBRWYON
News
Cite
Share
NAWFED RESTR 0 WOBRWYON BOB WYTHNOS. OiSTADLIJIUABTB Y POST CARD.—POPUT Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am y pennill penenwol (acrostic) goreu. Testyn:— Ebrill 6.—" Ffwl Ebrill." YSGRIFENU.— Gwobr gyffelyb i blant dan 14 mlwydd oed am ysgrifenu adnod neu bennill, yn addurniadol, mewn inc o wa- hanol liwiau, gydag ymylwaith cywrain. TYNU LLUN.—Hanner Coron yn wyth. nosol am dynu lluniau o anifeiliaid cyffredin- agored i blant dan 18 oed. Ebrill 6.—" Bytheuad. Pos RHIFYDDOL.—Hanner coron yn wyth. nosol (i rai dan 18) am yr atebiad goreu a chynaraf. Ebrill 6.-Aeth Bob Ffowc o Bwll- ygro ar daith, gan gerdded 2^ milldir yr 2 awr. Cychwynodd Simon Tyclai dair awr ar ol Bob, gan deithio tair milldir yr awr gyntaf, 3-L milldir yr ail awr, 4 y 2 milldir y drydedd awr, ac felly yn y blaen. Mewn pa sawl awr y darfu iddo oddiweddyd Bob ?
ARBENIG.
News
Cite
Share
ARBENIG. Cynnygir llyfr newydd, o nodwedd hanes- yddol, gwerth 5s., am y ddadl oreu, cyf- addas i'w hadrodd mewn cyfarfodydd ad- loniadol, ar gyfer y nifer a fyner o ber- fformwyr. Dim mwy na chwe' cholofn o Bapur Pawb.
TELERAU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo Papur Pawb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd. ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhooddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr- haedd ar y dydd a grybwyllir uchod gyferbyn a phob testyn. 4. Ysgrifener mewn inc tlU, ar bapyr gwyn ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5. Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnos ar olderbyn y cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu yn efelychiad o ryw waith, mewn laith frail, heb fod yn ddarostvngedig i Dik< 1> • iaa Hawl ■ ys^rif (
Y GALON AR Y TRAETH.
News
Cite
Share
Y GALON AR Y TRAETH. Uri boreu yr eisteddais Yn bruddaiad ger y don, Ac yn y tywod cerliais lun Fy nghalori gyda'm ttVn Ond ton a ddaeth a chipixkl Fy nghalon gyda hi, .L Ac er mor ddofn nid oedd yn ol Ond dagrau oer y 111.. Adgofir imi'r galon A gipiwyd o fy nRaol, Tra minnau ar drag wyddol lan Yn wylo ar ti hoi; 'Rwy'n teimlo'r avvr a'r fvnvd, 'Rwy'n awr yn toimio r saeth- Diflanodd yr un ffcrnid ron A'r galon ar y traeth