Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Gormes Gwareiddiad:
News
Cite
Share
Gormes Gwareiddiad: neu "CALED YW FFORDD TROSEDD- WYR." PENNOD III.-P ARHAD. E T H fu ffawd Her- bert Humphreys y noson hono, wedi dod yn ol at ddrws yr esgob nid oes neb yn gwybod hyd sicrwydd. Fodd bynag, gwelwyd ef y bore dilynol yn dod o dy yr esgob, a chanddo fwndel lied fawr dan ei fraich. Yr oedd yr esgob gydag ef ac fel pe yn dangos y ffordd iddo at y gwestv gyferbyn a'r hwn v byddai y cerbydau pedwar ceffyl, yn aros. Y csrbydau hyn oeddynt unig foddion teithiol canol y wlad i fyny i'r adeg hon, oblegid ni cheid rhei jfyrdd ond mewn ychydig iawn o fanau. Gwelid yr esgob yn prynu tocyn ac yn ei roddi i Herbert, gan ddyweyd wrt-ho cyn i'r olaf esgyn i'r cerbyd cyhoeddus, "0 hyn allan, yr wyf yn disgwyl y bydd i chwi fyw yn onest, uniawn, a da. Credaf y gwnewii credaf mai nid ffug oedd yr arwyddion o edifeirwch welais ynoeh neith- iwr. Gwertihwch y llestri arian yna a chyimerweh yr hyn gewch am danynt at ddechreu eyohwyn gyrfa dda, yr hon ond i chwi barhau ynddi hyd y diwedd, ach ar- wain i lawer gwell byd na. hwn. Da y bo'ch, fy nghyfaili." Gwelid deigryn yn llygaid Herbert tra yn ysgwvd llaw a'r esgob. Yna, cychwynodd y cerbyd ymaitih—a dyna'r try) olaf y gwel- wyd Herbert yn Abergwili na'r cylch.
PENNOD IV.-Y "DYN DYEITHR."
News
Cite
Share
PENNOD IV.-Y "DYN DYEITHR." Tua diwedd 1841 daeth tro rhyfedd ar ffawd tref fechan o'r enw Centrewich, heb fod yn mhell o Sheffield, yn Lloegr. Yr oedd yn y lie, i fyny i'r adeg hono, amryw weithfeydd lllafIlau pladuriau, oyllill i beir- iannau main gwair a gwellt, &c., y rhai a Wneid o ryw fath o haiarn neu ddur lied feddal, ae a gollent eu min TO fuan iawn wrth wneyd eu gwaith. Llawer gwr goludog aeth yn dlawd wrth wario ei arian er ceisio allan y ffordd oreu i ga,lediu y llafnau metel hyn, ond hyd yma yr oedd pob dyfais- wedi troi yn fethiant, ac o'r herwydd nid oedd masnach na llafur Centrewich wedi dadblygu nemawr, os dim, yil. ystod yr ugain mlynedd cyn hyn. Yn wir yr oedd cyflwr pethau yno yn myn'd yn waeth tua'r adeg y mae yr hanes yn ein harwain yno. Ond daeth "haul ar fryn" i Centrewich daeth tro ar fyd gwenodd ffawd ar y dref. Tua diwedd y flwyddyn 1841 fe gyrhaeddodd i'r dref ryw ddyn,clyeithr hollol i bawb yn y 11e, mor ddyeithr fel na wyddai neb yno o pa gyfeiriad y daeth—ac wedi cael gwaith yn 1Jn o'r man-weithfeydd lIe y gwneid llafnau dur darfu iddo y11, lied fuan wneyd dargan- fvddiad fu yn foddion i newid holl gwrs pethau yn y dref hono,—darganfyddodd y ffordd i galedu y llafnau yn y fath fodd fel na chollent eu min hanrer mor fuan ag o'r blaen. Damweiniol hollol oedd ei ddargan- fyddiad, fel llawer darganfyddiad pwtysig arall. Nis gallai fod ond felly, oblegid dyn hollol diddysg oedd efe, mor ddiddysg ac anllythyrenog fel yr oeddi ar fedr cael ei wrthod o waith yn y gweithdy, ac felly y cawsai onibai fodi angen arbenig am lafurwyr yno ar y pryd, ac yntau yn digwydd bod yn ddyn mawr, ilodedio o gryf o ran corph. Er mai dyn diddysg oedd efe, eto' pan wnaeth y duganfyddiad yma yr oedd yn dd'igon call i'w gadw iddo ei hun. Buasai ambell un yn ddigon o ffwl i redeg at ei feistr ac egluro y cwbl iddo, yn y disgwyliad am ychydig godiad yn ei gyflog a sicrhad lIe parhaus yn y gwaith. Ond nid felly y dyn dyeithr yma; cadwodd y cwbl iddo ei hun, gan nad oedd am i ereill fanteisio yn anonest ar ei ffawd dda; yn cgymaint a bod Bhaglun- iaeth, neu ddamwain, ffawd, neu lwc dda, neu rywbeth wedi ei osod ef fel hyn yn sydyn yn y meddiant o'r dirgelwch y gwairiwyd llawer ffortiwn er ei ddarganfod, nid oedd yn gweled mai ei ddyledswydd oedd dadlenu ei gyfrinach werthfawr heb gael tal priodol am wneyd. Wedi bodi yn y gwaith am ychydig wyth- nosau ar ol dod at draws y darganfyddiad yma, gofynodd un prydnawn Sadwrn a gaffai efe aros yn y gwaith ar ol i'r oil o'r gweith- wyr ereill noswyllio am un o'r gloch, gan y buasai yn holfi gwneyd arbrawf neillduol, meddai ef. Chwarddodd y rheolydd am ei ben, ond ar yr un pryd caniataodd ei gais, gan ddy- weyd, "O'r gore; dymai i ti ganiatiad i aros hyd bedwar o'r gloah y prydnawn; ac os oes arnat eisio enwogi dy hun gwell i ti dreio cael allan ryw ffordd o galedu y bwndel llafnau yna sydd newydd gael eu dychwelyd od.diwrth gwsmeriaid fel rhai Ay feddal i dori ymenyn heb son am dori gwair." Er syndod i'r rheolydd atebwyd ef gan y dyn dyeithr, "0'1' gore, syr; gwnaf yr hyn ydych, yn ddyweydL Ond byddwoh ohwi eystal a rhoddi rhyw fare ar bob un o'r llafnau medd'al yna fel y gellwch eu hadnabod: eto bore Llun." Mewn ysmaldod yn fwy na dim arall rhoddodd y rheolyddi fare ar bob un oedd yn y bwndel, ac yna aeth ymaith gan ada-el; y "dyn dyeithr" wrtho ei hun heb neb ar ei gyfyl yn y gwaith. Y "dyn dyeithr" y gelwid ef gan ei gydweithwyr, a hyny am na wyddent o ba le y daeth, pa le y bu cyn dod yno, beth oedd ei waith arferol, ac am- heuent hefyd a oedd efe wedi rhoddi ei enw priodol i swyddogion y gwaith. Bore Llun wele y rheolydd, wrth roddi ei dro arferol drwy'r gwaith er gweled fod pob peth yn iawn, yn cofio yn sydyn am y dyn dyeithr a'i gaisl y prydnawn Sadwrn blae,n-orol; a phan ddiaetih ato gofynodd dall wenu, "Wel, a gefaist di allan ryw ffordd o galedu y bwndel llafnau hyny prydnawn echdoe?" "Dyma liwy—gwelwoh dirosoch eich hun," ebai'r dyn dyeithr, gan estyn y llafnau i'r rheolydd. Cyfododd y gweithwyr ereill eu penau ar ol clywed hyn a. chyda gwen o ddiys- tyrwch ac anghrediniaeth, gwylient y rheol- ydd yn cymeryd y bwndel llafnau, yn cyffwrdd y min a'i fys, yn ohwythu arnynt, yn edrych gyda graddi o syndod ar y dyn dyeithr, ac yna yn cymeryd y llafnau gydag ef i'w swyddfa, breifat ei hun gan ddyweyd "Wel, y mae'r dyn dyeithr yma wedi eu gwella, 'does dim amheuaeth." Wedi eu cymeryd o'r cwr hwnw o'r gwaith rhocldodd y rheolydd brawf llym ar bob un o'r llafnau, ac er ei ddirfawr syndod cafodd fod pob un ohonynt gan galeted ddwywaith a'r llafnau goreu d'rowyd allan oddiyno yn ei oes ef. Anfonodd rai ohonynt i ffermwyr allan yn y wlad gyda chaiB ar iddynt roddi y prawf llymaf oedd bosibl ar y llafnau, a ohyn y nos yr oedd wedi clywed oddiwrth y rhan fwyaf ohonynt i'r perwyl na welsant y fath la-fnau rhagorol erioed o'r blaen. Erbyn hyn yr oedd y rheolydd wedi ei lwyr argy- hoeddi fod dyfais oedd yn werth ffortiwn yn meddiant y dyn dyeithr, a galwodd amo i'w swyddfa ei hun. Bu pob ymdrech gyfrwys i gael allan o'r dyn dyeithr ddirgelwch ei ddarganfyddiad yn hollol ofer, a buasai wedi ymadael o'r gwaith a'i ddyfais yn ddyogel gydag ef oni- bai i'r perchenog ddod i delerau ag ef. I dori yr hanes yn fyr, daeth hanner y gwaith hwnw yn eiddo iddo ef cyn hir, ac yn mhen ychydig wed'yn bu farw ei bartner; a,c ar ol hyny efe yn unig oedd perchen y gwaith. Eangwyi y gwaith yn gyflym, a chauwyd bron yr oil o'r gweithfeydd ereill, drwy fod hwn yn troi allan lafnau oeddynt yn well o'r hanner nag a. wneid yn yr un ohonynt. 0 dipyn i beth, daeth y gwaith hwn yn asgwrn cefn Centrewich yr oedd yno gan- noedd o ddynion yn gweithio, ac ugeiniau o ferched hefyd yn enill eu bara beunyddiol; ac yr oedd y "dyn dyeithr" erbyn hyn wedi dod y dyn pwysicaf yn y dref. Ond pwy oedd efe '? 0 ba 10 y daethai Ysgotyn wedi dod yno ar dramp oedd efe ebai llawer. "Nage," meddai ereill, "Cymro yw efe, oblegid y mae ei lefeiydcl yn ei frad- ychu." Mewn llai na thair blynedd er ei ddyfodiad yno yr oedd y dyn hwn wedi dod yn gyfoeth- og. Dyna beth da. Yr oedd wedi gwella amgylchiadau a masnach y dref. Dyna beth gwell. Ac yr oedd yn llafurio er gwella cyflwr y tlodion, yn ymegnio o blaid moes a chrefydd. Dyna'r peth goreu. Pwy oedd efe ? Ah wel-pa wahaniaeth, cvhyd ag ei fod yn gwneyd ei ddyledswydd i raddau anghyffredin. Ond eto i gyd po uchaf yr ymddyrchafai mwyaf oil y cynnyddai awydd pobl am wybod pwy neu beth oedd, Dyna fel y mae pobl bob amserr, o ran hyny. Dywedai rhai nad oedd ganddo fawr o arian pan ddaeth i'r dref gyntaf. Yr oedd pawb yn cymeryd amynt fod) yn gwybod hyny eisoes, ac yn wir yr oedd ganddynt le i gredu hyny gan mai fel paciwr, neu lafurwr cyffredin, y gweitihiai ar y cyntaf yn y gwaith mawr oedd erbyn hyn yn eiddo iddo ef bob modfedd ohono. "Dyn anllythyrenog, anwybodus, a thlawd oedd efe pan ddaeth, ymdl gyntaf," ebai ereill, "ac ni fedrai air ar lyfr." Hwyradi hyny, ond pa wahaniaeth iddynt hwy, onide, cyhyd