Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PROFIAD RHYFEDD

News
Cite
Share

PROFIAD RHYFEDD AF AELIWR masnachol ydwyf wrth Ml fy ngalwedigaeth, a phan y byddaf EMI yn trafaelio llawer gyda'r tren, y mae genyf gryn dipyn o amser hamddenol heb genyf ddim i wneyd ond dar- ilen. Yoliyaig ddyddiau yn ol, pan yr oeddwn yn trafaelio o Gaerdydd i Gaergybi, yr oeddwn yn darllen papur newydd neillduol, a digwvddais sylwi ar yr hysbysiad oanlynol "At Ysgrifenwyr. Telir gini y golofn am gyfansoddiadau gwreiddiol." Yr oeddwn wedi svlwi ar yr hysbysiad lawer gwaith o'r blaen ond y tro hvai tarawyd fi gan svniad newydd. "Pahani nas gallwn wrth drafaelu fel hyn pan y mae genyf gymaint o amser air fy llaw ddefnyddio fy amser i ysg- rifenu 'ystoriau' i'r papur hwn 1" Tynais fy llyfryn ysgrifenu o'm Hog el], a dechreuais feddwl o ddifrif am destvn neu hancsyn y gallwn seilio ystori ddyddorol 2 arno. O'r diwedd cefais fy moddloni yn y testyn, a chredais fod genyf ddigon o ddefn- yddiau colofn neu cldwy, felly dechreuais ysgrifenu. Ar ol ysgrifenu yn liwylus am oriau, a phan ar orphen y bennod olaf o'r ystori, deallais fy mod wedi cyrhaedd gorsaf Caergybi. Felly cauais fy llyfr, a theimlwn yn sicr fy mod ar vr iawn ffordd i enill ych- ydig arian yn ystod fy oriau hamddenol. Gan fy mod yn bwriadu aros am ychydig ddiwrnodau yn Nghaergybi, aethum ar fy union i edrych am lety. Nid aethum yn mhell cyn i mi weled cerdvn mewn ffenes tr yn hysbysu fod lie i letya vno. Aethum i fewn a dangoswyd yr vstafclloedd i mi gan wraig y ty. Gan fod y pris yn rhesymol a'r ystafelloedd yn gyaurus, cytunais am lety yno am bythefnos. Meddyliais fod y wraig yn edrych amaf gyda, cliryn dipyn o amheu- aeth, ac ymdrechais brofi fy nghywirdeb a'm gonestrwydd trwy ddyweyd mai trafaeliwr masnachol oeddwn. Ond er y cyfan edrychai yn amheus a gofynodd yn dawel, "Syr, nid oes genych fawr o luggage." "Gadewais yr ychydig fyddaf yn gario genyf yn yr orsaf," meddwn, "ac yn awr, os gwelwch fod yn dda, Mrs Hughes, cymeraf de genych." Pan yr oedd hi yn paratoi y bwrdd, tynais fy llyfr allan a dechreuais edrych dros fy ystori, prydJ y gofynodd yn sydyn i mi, "Gyda Haw, syr, maddeuwch fy eofndra, earwn gael gwybod eich enw." "0," meddwn mewn haimer cellwair, gan gvmeryd yr enw ag yr oeddwn wedi ei rodcli ,i' arwr fy ystori, "Edwards ydyw fy enw." Ychydig a feddyliais wrth ddyweyd hyny y fath drafferth a achosai hyny i mi yn y dyfodol. Wedi gorphen te, aethum allan am dro trwy y dref. Digwyddais weled hysbysiad mewn man amlwg i'r perwyl fod agerlong neillduol yn hwvlio i Belfast. Yr oeddwn wedi awvddu lawer gwaith i weled Belfast, fellv gan nad oeddwn yn brysur iawn yr wvthnos hvnv, peaderfynais i fyned gycla'r agerlong i Belfast y dydd Mawrth canlynol. Yn y cvfamser gwnawn fy musnes yn y dydd a threuliwn y nosweithiau i ysgrifenu fy "chwedl" allan yn drefnus ar amryw ddal- enau o bapur er ei gwneyd yn barod i'w hanfon i'r golygydd. Dydd Mawrth, y diwrnod penodedig i'r siwrnai a ddaeth. Daethum i ben a'm busnes mewn amser priodol i gychwyn, ond gan nad I oedd yr agerlong i gychwyn hyd chwech o'r gloch y nos, aethum. i mewn i westy gerllaw i aros yr amser. Digwyddais gwrdd ac am- ryw gyfeillion yno; a phasiodd yr amser braidd heb yn wybod i mi. Cofiais yn sydyn nad oeddwn wedi hysbysu fy lletywraig o'm bwriad i fyned gyd'a'r agerlong. Edrychais ar fy oriawrr, a gwelais fod genyf oddeutu deng mynyd 0 amser. Prysurais i'm Uety i ymofyn fy mhapurau ac i hysbysu Mrs Hughes o'm bwriad. Aethum i mewn i'r ty yn wyllt a chrynhoais y papurau ag oeddwn wedi eu hysgrifenu yn frysiog, a dywedais wrth Mrs Hughes, "Yr wyf yn myned i Belfast, rhaid i mi frysio—deuaf yn ol dydd Gwener. Dydd da." Pan aethum yn ol, yr oedd yr agerlong ar gychwyn, ond aethum i'r bwrdd, ac yn fuan yr oedd tref Caergybi yn ymddangos yn mhellach bellach, nes yr aeth Jyn hir o'm golwg yn llwyr. dyrhaeddais Belfast oddetutu saith ofr gloch boreu MercheT. Cymieraîs ystafell mewn ty dirwestol, a gv/naethum baratoadau i fyned i weled y dref. Yr oeddwn wedi dycliAvelvd i gael te ]>iydnawnol, pan y curodd rhywun y drws. Dywedodd, y gweinyddwr wrthyf fod dau foneddwr yn ewyllysio fy ngweled. Felly, dywedais wrtho am eu dangos i mewn. n uniongvrchol daeth dau foneddwr golyg- us i mewn. Gan nad oeddwn yn eu hadnabod, ceisiais ganddynt i eistedd, pan y dywedodd un ohonynt, "Mr Edwards ydyw eich enw, onide ?" Safais yn fud aan foment gan nas gwyddwn beth i wneyd. "Wel, ie," meddwn pan y eoliais am fy "ystori." "Yr wyf yn cael fy adnabod wrth yr enw yna, ond nid oes genyf v pleser o'ch adnabod ehwi. Pa reswm sydd genych dros fy an- rhydeddu a'r ymweliad hwn?" Mewn atebiad, cstynodd un ohonynt ger- dyn i mi, ar yr hwn yr oedd yn argraphedig, "S. F. B., Heddgeidwad Dirgelaidd, Dublin, Werddbn." "Nid wyf yn deall natur eich ymweliad hyd yn nod eto," meddwn. "0, wrth gwrs, nid oeddwn yn disgwyl hyny, ond nid gwiw i ohwi dreio ein twyllo. Carwn ofyn ychydig o gwestiynau i ehwi." "Ewch yn mlaen," meddwn. "Edwards yw eich enw, onide ?" "Wei—ie—dyna yr enw a arferais un- waith." "Gadawsoch Caergybi lips Fawrth di- weddaf." "Do." "Pan vii aros yno, onid oeddyeh yn lletya gydag un Mrs Hughes ?" "Oeddwn yn sicr." "Wel, ynte, chwi ydyw y dyn ag yr ydym yn chwilio am ùallo, ac yn awr cyn i mi eich hysbysu am natur1 y cyhuddiad a ddygir yn eich erbyn, byddweh ar eich gwyliadwriaeth pa beth a ddvwedwoh, oblegid bydd hyny yn cael ei ddwyn yn eich erbyn eto." GaD ryfeddu yn fawr beth oedd yn bod, ac yn berwi o ddigofainti, gwaeddais allan, "Yn enw pob rheswm paham na. ddeuwch at y pwynt yn lie ymdroi fel hyn. Pa beth yw yr ensyniadau hyn a doflwah attaf ? Mewn vmchwil am danaf yr ydych yn fy rhybuddio, a soniweh am drosedd—am gy- huddiad—ac am dystiolaeth. Pa beth yw ystyr hyn oil ?" "Yn awr, Mr Edwards," meddai, "peid- iwch a gwvlltio. Darllenaf v cyhuddiad i chwi; a dotth fydd i chwi ddyfod gyda. ni yn dawel. Yr ydych yn cael eich cyhuddo ar eich evfaddefiadeich hun o lofruddiaeth. Dyna yr unig eglurhad a allaf ei roddi i chwi yn awr. Fy nyledswydd ydyw eich cymeryd i fyny. Felly, cystal i ni i gychwyn ar un- waith i orsaf yr heddgeidwaid." Yin ofer jyr ymdreohais berswadiio y swyddog ei fod wedi gwneyd caingymeriad mawr, ac na wyddwn i ddim am y mater. Pan ddaethum yn llii cynhyrfus, gwelais mai y ffordd oreu oedd i mi i fyned gyda hwynt yn dawel, a threio egluro pethau yn yr orsaf. Huriwyd cerbyd, a phan yr oeddym yn gyru ymaith ymdrechais sylweddoli fy sefvllfa. Ai tybed mai breuddwydio yr oeddwn? Pa beth a olygai hyn oil ? Yn sicr yr oedd rhyw .11 gamgymeriad arswydus yn rhywle. Nid oeddwn yn adnabod un enaid bvw yn yr holl wlad a allai ddwyn tystiola.eth gyda golwg ar fy nghymeriad. Ymdreohais feddwl a medd- wl, hyd nes y dygwyd fi yn ol i'm synwyrau gan lais v gwyddog yn gorchymyn i'r cerbyd- wr sefvll, ac yna arweiniwyd fi i mewn i'r swvddfa a chlcwyd fi mewn cell. Boddlonais yn dawel i'm tynghed. Gwelais nad gwiw oedd gwrthwynebu. Ar ol bod yn y gell am rai oriau, meddyl- iais aim yr "ystori" a ysgrifenais, a thynais allan y papur-leni ysgrifeinedig o'm llogell. Nid oedd genyf ddigon o oleu i ddarllen yn mlaen. Gan benderfynu gwneyd rhywTbeth i dreulio yr amser, dechreuais gyfrif v lleni, a deallais nad oedd genyf ond naw lien ar hugain. pari y dylasai fod genyf ddeg ar hugain. Cyfrifais hwynt eilwaith, ond eto yr oedd un yn eisieu. Yr oeddwn wedi meddwl postio yr "ystori" mor fuan ag y cyrhaeddwn Belfast, ond pa yr oedd' y lien arall ? Methwn'yn deg 'er pob ymdrech a chael allan pa ran o'r "ystori" oedd ar goll, oblegid fod fy nghell yn bur dywyll. ChAviliais fy Ilogellau i gyd, nid unwaith, ond oddeutu dwsin o weithiau, ond gan i mi fethu ei chael deuais i'r penderfyniad fy mod wedi ei gadael yn fy llety yn Nghaergybi pan brysurais ymaith i ddal yr agerlong. Pan ddechreuodd dywyllu, goleuwyd y nwy yn y fynedfa, a. daeth pelydr o oleuni i fewn trwy dwll bychan oedd yn nrws fy nghell Tynais v papurau allan eilwaith a dechreuais ddarllen yn awyddus, ond yr oedd v rhan fwvaf dvddorol o'r "ystori" yn eisieu, sef cvfaddefiad y dyhiryn Edwards. "Beth? Gwelaf y cyfan yn eglur yn awr," meddwn yn gynhyrfus. Bloeddiais ar v gwyliwr. 'Ai ni ellweh gadw llai o dwrw yna 1" meddai hwnw yn wyllt, gan agor y drws. "Byddweh mor garedig a. hysbysu y ddau foneddwr a'm cymerasant i'r ddalfa fy mod am gael eu gweled ar unwaith." Yn mhen ychydig amser daeth y ddau heddgeidwad a'm cymerasant i'r ddalfa i fewn i'm cell. "A ydych yn myned i gyffesu 1" meddai un ohonynt.