Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
YCHYDIG YN RHY WYDN
News
Cite
Share
YCHYDIG YN RHY WYDN Eisteddai Brenhin y Canibalyddion ar ei orsedd bamboo, wedi ei wisgo yn rhwysg.. fawredd ofnadwy ei ogoniant a'i nerth a hen scarff sidan llwydaidd. Yr oedd ei olwg yn hoeliedig ar y ddyfodfa. i ystafell yr orsedd, fel pe ar ei ddisgwylfa. O'r diwedd agorodd, a daeth Uchel Swyddog y Llywodraeth i mewn dan ymgrymu hyd y llawr. "Y mae dirprwyaeth yn disgwyl o'r tuallan, eich Mawrhydi," meddai yr Uchel Swyddog. "Pa fath, gaethwas "Pobl wynion vdynt, eich Mawrhydi." "Ai ar fy anghenion tymhorol ynte ys- prydol y dymunent hwy weini, gi 1" "Tymhorol, eich Mawrhydi." ''Felly, rhaid mai cenadon ydynt." "N age, eich Mawrhydi." "Beth, helgi! ai nid cenadon ydynt?" "Nage, eich Mawrhydi. Mae nhw wedi dyfod yma ar neges o bwys, berthynol i'r Llywodraeth, o wladty bobl wynion. Gwleid- yddwyr ydynt." Daeth cwmwl o siomedigaeth dros wyneb y Brenhin. "Dos, helgi," meddai ef, gan amneidio a'i law. gydag agwedd ymherodrol, "a dywed wrth ysgrifenydd y dyledswyddau ceginol am roi'r taoi allan yn stof y gegin."
NEWID El MEDDWL
News
Cite
Share
NEWID El MEDDWL "Peidiwch ag eistedd i fyny heno, f'an- wylyd," meddai'r Ddynes Ryddfreiniol, fel yr edrychai i mewn i'r ystafell wnio He 'roedd ei gwr yn trwsio sana. Cyfododd ei gwr ei olwg i fyny oddiwrth ei bwythau i wrando, tra yr oedd ei wraig yn rhoi ei menyg am ei dwylaw: "Rydw i'n rhwym o wneyd fy Ilyfrau i fyny heno, ac efallai y bydd yn hwyr amaf yn cyrhaedd adref." "Arhoswch cyn hwyred ag y mynoch," meddai ei gwr hamddenol, yn addfwyn, "does dim dadi na fydd hi'n hwyr arnaf finnau heno." "Chwi I" meddai'r Ddynes liyddfreiniol, gyda syndod. "Ie." "I ba le byddwch chwi'n myn'd, sgwn i 1" iiRydw i'n mytTd i gyfarfod Cynghrair Rhyddfreiniad Gwyr." "Mewn gwirionedd! Wedi ail feddwl, rydw in meddwl mai gohirio gwneyd fy llyfrau i fyny fyddai oreu i mi hyd ryw amser eto, ac mi dreuliwn noswaith dawel gyda'n gilydd, fel yr arferem wneyd pan oeddym newydd briodi." "O'r goreu, nghariad i. Felly, nid af finnau i'r Cynghrair," ac estynodd y gwr ei wefus yn mlaen am gusan.
[No title]
News
Cite
Share
Nid diffyg yspryd ydyw amynedd, ond llywodraeth ar yr yspryd. Cyhoeddwyd almanaciau gyntaf yn Poland yn y flwyddyn 1460, a threfnwyd hwy yn eu ffurf presennol yn 1473, gan Mr John Muller, yr hwn a fu farw yn Rhufain yn 1476. Cy- inerai Owmni Llyfrwerthwyr Llundain yr holl hawl i'w cyhoeddi hyd y flwyddyn 1779. Di- lewyd treth y stampiau ar almanaciau y wlad lion yn 1834.
NEILLDUOLION CHINEAIDD
News
Cite
Share
NEILLDUOLION CHINEAIDD -'■iiajei'n ymdldlangos nadl ydyw o un gwaJhan- iaeibli i Chtinead pa mor hir yr eirys yn yr 4un Y miaei yn eisttedd i lawr i ysgrifenu drwy'r dyldd—o'ir boreal diatn.y nos, fel math o beirsiant hunlanysgogoil—yn Yl, un fan, a,c yn yr un ysitam. Os areffbwir fydd, fe erys yn yr un fan o dorieud gwawr hyd faciMud haul, gan weithdo'n dtdErvvyid fel gwelhyídd, fel asield- ydlJ, neu pH beth bynag fo ei grefft, a hyny bob dydd, heb yr un cyfnew.ddad sefyffilfa, nac amrywiae>iih ystum, na bcwM gwaa-th, ond d'uyn yn mlaen yn uiidcijiol yn yr un dlulll heb deiniJo. yn ol pob tebyg, ei fod yn ym- wybxlol o fodclaeth a:n'vwiaeth, nac angen am dano. Yn yr un modd' y mae plant, ysgod y C'hin- elruM, fiéll pe baenffc wedii eu tyngetliu i fod' yn dldletjAiild aaeltthiw'ejd! dligyfnewd'd, heb amiryw- iaiettih taiag, yr hyin fuasae yn gyffu ysgolheig- iion go'riye'wiitadl i! gyfikniaiu gwia/llgofrwydld. Hyid yn nod! balbanidd yn mreichiaiu eiu maanaiu me/u eu inlaaniaieifihiad, yn lie ymrwyfo, ym- niyldldtu, a gwdbgo, fed pllaint y wlad bon, cyn gynftied ag y genir hiwynt, y nuaent hwy yn giolrwedldl mtor lUionyldidl a diymadferth. a phe baenfc djdtulwt^u wletdii eu gwn:ejd a giai. Wedii cytrih^i-edH' otedtnaix aeildfoiach—yr oed- lian: yn mihia un y d^islgiyyfesid y buasai pilaint y willad lion, yn eyaMlM a'r miwnoi yn ei a-f- •-atltlh a'i dhiwaneugja.nwidla dtfyrus—oe:r crweled piliaiilfc Onlinai yn sie^vllll, eiislbeidd, neu gwtrcydiu yin, yr un sefyilfei yn dfdSJbaiidl am yspaid maiJtih o ainister.
[No title]
News
Cite
Share
Os ewyllysiach ochelyd tristwch yr ail waith, gwrandewch y tro cyntaf ar yr hyn a ddysga.
Y BARDD GRAY
News
Cite
Share
Y BARDD GRAY O'r holl ofnau, ofn tan oedd yr ofn mwyai a berthynai i'r bardd Gray, ac yr oedd bob amser yn cadw ysgol raffau yn ei ystafell woly. Yr oedd ychydig o'i gymrodoricn colegawl yn Cambridge wedi dyfod i ddeall hyny, ac yn llawn o ddireidi, un noson dywyll, hwy a'i dychrynasant o'i gwjsg gyda'r waedd lianner nos, "Tan, tan—y mae'r grisiau a'r dan." I fyny a'r ffenestr, ac i lawr a Gray ar ei ysgol raffau gyn gynted ag y gallai, i dwb a dwfr oedd wedi ei ddodi yn y gwaelod i'w dderbyn. Bu'r ysmaldod hwn yn foddion i feddyg- imiaethu Gray o'i ofnau disail, ond ni faddeu- odd iddynt, symudodd oddiyno i goleg arall.
BICYCLES
News
Cite
Share
BICYCLES Gwaherddir i bicyclists farchogaeth eu peiriannau drwy heolydd Berlin. Rhaid iddynt gerdded, a gwthio yr olwyuyr o'u blaen- au, neu ei dynu ar eu holan, goreu gallant. Y mae yr arwynebedd gwaharddedig yn eang, ac yn cymiwys rhodfeydd hirion lawer. Ni waherddir tricyclists o gwbl; a thar- awodd marchogwr bicycle yn ddiweddar ar gynllun i roddi prawf ar opiniwn yr awdur- dodau gyda golwg ar ba beth oedd yn gyn- nwysedig yn y tricycle, drwy ychwanegu olwyn arall wedi ei chy&ylltu ar peiriant o'r tu ol, ond heb fod o un gwasanaeth i'r peiriant na'r cerbydwr o gwbl. Xid oedd yn cynnal dim o bwysau y gyriedydd, nac o un defnydd, heblaw dilyn y ddwy olwyn an- hebgorol, fel cweh yn dilyn llong, neu ebol bach yn dilyn ei fam, and yr oedd yr awdurdodau yn vstyried y dylid edrych ar y cyfryw ymfflamychiad yn tricycle yn ol braint a defod olwynyddiaeth y bedwaretid ganrif a'r bytntheg; ac y mae heolydd Ber- lin yn agored o hyn allan i bob arighenfil- eiddiwch olwynfawr o'r cynllun hwnw.
DYCHRYNU'R DIFFVO ODDIAR YR…
News
Cite
Share
DYCHRYNU'R DIFFVO ODDIAR YR HAUL Yn Shanghai, y mae gan y trigolion ddull gwreiddiol iawn o wneyd i ffwrdd a'r diffyg ar yr haul. Ar y dydd penodedig, mae'r pendefigion yn ymgynnull oamgylch y bwrdd yn llysystafell yr ynadon, ar yr hwn y bydd fflamdbrchau wedi eu gosod. Pan fo'r haul yn dechreu tywyllu, y mae y swyddogion, yn unol a deddf ymherodrol y wlad, yn ymgrymu dair gwaith o flaen y bwrdd, gan gyffwrdd eU talceni yn y llawr naw gwaith. Yna cyfodant, ac ant i'r neuadd fawr yn y Ilys, lie mae y milwyr a'r gwasan- aethyddion wedi eu gwysio, a phawb fyddo wedi ynigynnull i wneyd cymaint o dwrw ag a allo, gydag offerynau cerdd, a phob offeiyn arall, yn gerddorol ac angherddorol, gyda ffrwydriadau tanllyd ac ergydion, a'r amcan ydyw dychrynu ac ymlid ymaith yr anghenfil nefol fydd wedi ymaflyd yn a cheisio ysglyfaethu y goleuad mawr. Y mae'r pendeligion yn llwyddo yn eu hymdrechion, olierwydd cyn bo hir, y mae yr anghenfil yn gollwng ei afael, Wr tywyllwch yn myned ymaith.
PENNOD III.—ENAID MEWN CYFYNGDER.
News
Cite
Share
Tybed fod rhywbeth yn ei rybuddio ei fod yn dynesu at dro-bwynt ei fywyd, at) awr bwysicaf ei oes 1 A oedd rhyw ddylanwad, rhyw fed anweledig, yn sibrwd wrtho nad oedd bellacli yr un cwis canolog ar ei gyfer, fod yn rhaid iddo o hyn a,llan ddewis y ffordd dda neu y ffordd ddrwg? Yr oedd" geiriau treiddiol yr esgob, ac yn benaf oil ei ym- ddygiad cyfeillgar wedi deffro yn nghalon Herbert rhywbeth fu yn hepian- am ugain mlynedd, gan beri iddb weled yn weddol cglur y ffordd lydan ar pa un yr oedd yn trafaelio. Cymysglyd oedd meddyliau Her- bert; ond yr oedd un peth yn sicr, ac nid oedd yntau mewn unrhyw amheuaeth yn nghylch hyny, sef nad oedd efe mwyach yr un dyn yn aw ar ol bod yn nhy'r esgob ag oedd efe cyn hyny. Teamlai fod rhyw gyfnewidiad mawr wedi cymeryd He ynddo, ac nid oedd ei waith yn lladratta s'wllt y bachgen ond megis ymdrech olaf y dylan- wadau drwg i gadw ei enaid mewn caethiwed. Yn hwyr y noson bono, tra yr oedd garddwr yr esgob yn pasio drws y palas, gwelai rywun yn penlinio ar y grisiau a ar- weinient i'r drws, a phan safodd i wrandaw clywodd eiriau gweddi yn dyrchafu oddiwrth y rhywun hwnw, yr hwn, fel yr oedd yn eglur, oedd mewn cyfyngder ac ing meddwl. Y gweddiwr hwnw oedd Herbert Hum- phreys. (I'w barhau.)