Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

PENNOD III.—ENAID MEWN CYFYNGDER.

News
Cite
Share

dynol gael eu cigyddio a,r faes Waterloo, a hyny heb fod yr un gallu yn galw y rhai cyfrdfol am hyny i gyfrif. Deuai meddyliau caledion odiaethol iddo fel y tramwyai yn mlaen nis gallai ddirnad o pa le y deuent; nis gallai gyfrif ychwaith am y ffaith ei fod yn meddwl ac yn cofio mwy am ddigwydd- iadau boreu ei oes, pan oedd yn llencyn di- niwed yn Mon, y bore hyfryd yma nag a feddyliodd er's llawer blwyddyn ond drwy'r cwbl rhoddai y bai am ei gyflwr presennol a chaledrwydd ei galon ar Ragluniaeth. Rhagluniaeth oedd wedi trefnu pethau fel hyn, a rhaid ei bod yn yr arfaeth i'w sarnu ef, i'w ddarostwng yn anghyfiawn, i'w wneyd yn raddol mor ddrwg ag ellyll, ac, i'w anfon yn y diwedd i drigfod dragwyddol yr ellyllon. A hyny am beth ? Am ei fod yn un o deulu syrthiedig Ad&,? Nid oedd ganddo mo'r help am hyny. Ai am ei fod yn meddu teimladau brawd ac felly wedii meiddio gwneyd ymgais—anghyfreithlon yn ol deddfau dyn—i gadw ei chwaer a'i theulu rhag newynu i farwolaeth ? Beth Gael ei ddarostwng i lefel ellyllon oherwydd iddo arddangost un o deimladau goreu y natur ddynol ? Wel, ar Ragluniaeth yr oedd y bai i gyd, yn ol ei Earn ef; Duw caled oedd Duw y Cristionogion hyny oeddynt yn rheoli Prydain y prycl hwnw, yn ol fel y tybiai Herbe,rt-o,s oedd y fath Dduw yn bod o gwbl! Hwyrach wir nad oedd Gallasai ddygymod ari sefyllfa yn well pe llwyddasai i lwyr argyhoeddi ei hun nad oedd yr un Duw mewn bod, ond rywsut methai wneyd hyny, ac yn holl galedrwydd ei galon yr oedd yn inethu gweled y ffaith mai nid ar Raglitniaeth yr oedd y bai, ond ar ddeddfau o ddyfeisiad dynol. Darfu i'r Meistr, un tro, adgofio Ei ddilynwyr fod bywyd un o'i bobl Ef yn werth llawer mwy nag eiddo adar y to, a chofiodd Herbert am hyny yn awr a methai gymodi hyn a'r ffaith fod y rhai a broffesent fod yn Gristionogion gloewon yn rhoddi mwy o bwys ar fywyd un wiling en nag ar einioes a dedwyddwch teulu cyfan heb son dim am ei yrfa ef yn y byd, yr lion, fel y tybiai yn awr, oedd wedi ei uifetha am bytli gan yr hyn a ystyriai efe yn Ormes Gwareiddiad. Bu yn pendroni fel hyn am oriau, gan fyn'd yn ei flaen yn araf, nis gwyddai o gwbl i ba Ie. Rywbryd yn ystod y pryd- nawn clywodd fachgenyn bychan yn canu fel y deuai i'w gyfarfod ar y ffordd. Yr oedd Herbert y pryd hyn wedi myn'd i eistedd i ochr y wal ac wedi tynu ei esgidiau er rhoddi gorphwysdra i'w draed lluddedig a llychlyd. Yr oedd yr elfen ddrygionus yn ei natur wedi cael y llaw uchaf arno erbyn hyn, er ei holl ymdrech i gadw mewn cof ddaioni yr esgob tuagato, a bellach dywedai yn hyf a herfeiddiol, ynddo ei hun, nad oedd yn bosibl fod yr un Duw yn bod onide ni chandatasad Efe y fath gamwri yn y byd. A chan ei fod wedi gwneyd ei feddwl i fyny ar y pwnc oll-bwysig hwnw tybiai bellach mai yr athrawiaetli oreu i ddyn ei choleddu oedd—"pawb drosto ei hun," yn ogymaint a'i fod yn gweled mai athrawiaeth benaf y byd oedd "trechaf treisied, gwanaf gwaedded." r. Tra yn dynesu ato yr oedd y bachgen yn chwareu ag ychydig arian oedd ganddo yn ei law. Taflai hwy i fyny gan eu dal eil- waith ar gefn ei law yna lluohiai hwy oddi- ar gefn ei law gan eu dala gyda'r llaw arall. Pan gyferbyn a Herbert digwyddodd i swllt, y pisyn mwyaf gwertlifawr oedd ganddo, syrthio o law y bachgen a rowlio i ymyl y crwydryn ar ochr y ffordd. Mewn eiliad, heb y cynhwrf lleiaf, rhoddodd Herbert ei droed ar y swllt, gan ymddangos yn ifaith hunan-feddiannol fel pe heb wybod ar ochr y ffordd, ac aeth ato. Ond yr oedd y bachgen gyda'i lygaid wedi dilyn y swllt ac wedi gweled i pa le yr aeth. Nid oedd arno yr un mymryn o ofn y tramp ar ochr y ffordd, ac aeth ato, "Os gwelwch yn dda, rhowch i mi fy swllt," meddai, gyda'r ymddiriedaech liono sydd yn deilliaw o anwybodaeth a diniweid- rwydd. "Bedi dy enw di?" gofynai iEIerbert. "Huw, syr, Huw—gwas bach v plas; myn'd i Gaerfyrddin yr odw i gyda'l' arian i mofyn neges." "Pa arian 1" "Wel, y rhain—a'r swllt yna sy da-n eich troed chi. Rhowch ef yma." "Dos i ffwrdd," ebai Herbert mewn llais bygythiol. "Ond rhowch fy swllt i mi." Plygodd Herbert ei ben rhwng ei ddwylaw, heb ateb dim. "Fy swllt, syr, fy swllt, rhaid i mi ei gael," ebai'r bachgen, gan,, ddechreu llefain. "Weldi," meddai Herbert, "byddai'n well i ti gymryd gofal ohonot dy hun. Dos Cychwvn oddiyma," gan godi ei ffon. Syllodd y bachgen arno mewn syndod ar y cyntaf, yna mewn rlychryn, ac yn ddioed wed'yn trodd ymaith a rhedodd yn ei ol gynted gallai. Erbyn hyn yr oedd y prydnawn yn cyilym ymdodldii i/r hwyr. Ymestynai cysgodau'r coedydd fwy-fwy, gan brofi fod yr haul yn tynu tua'r gorwel gorllewinol. Cododd Herbert ar ol rlioddi ei esgidiau am ei draed, safodd yn synfyfyriol uwchben y swllt "Dyma fi wedi dechreu cymeryd gofal ohonof fy hun," meddai. "Peth bawaidd iawn y gehvidl hyn gan bobl ereill, mae'n debyg; ond pa fain.t mwy bawaidd yw i mi, nad oes genyf arian o'm heiddo fy hun, gymeryd swllt fel hyn nag ydyw i'r bobl hyny sydd1 ganddynt fwy o sylltau a phun- noedd nag a wyddent beth i'w wneyd a hwy ladrata arian y tiliodion fel y maent yn gwneyd a hyny dan nodded deddfau y wlad ac yn cael eu parchu am wneyd ? P'le mae'r gwahaniaetli It Os oes gwahaniaeth, yn fy ffafr i y mae." Ond ar ol iddo gycliwyn cerdded daetli teimlad arall drosto. "Yr oedd y bachgen yn dyweyd mai arian rhyw bias neu gilydd oedd y swllt yma. Hwyrach y bydd i bobl y plas hwnw ddal dau swllt o gyflog yr hogyn am iddo golli y swllt hwn—dyna fel y bydd pobl palasau yn gwneyd, fel rheol. Cymerant ddigon o ofal ohonynt eu liunain yn gyntaf, ac ni waeth ganddynt beth ddaw o'r truain tlodion sydd 711 eu gwasanaethu. Yn wir, efallai na ddylaswn gymeryd y swllt o gwbl." A dechreuodd Herbert red eg i'r cyfeiriad yr oedd efe wedi gweled y bachgen yn myned. Wedn cyflymu yn mlaen am gryn chwarter awr dechreuodd Herbert floeddio enw y bachgen. "Huw Huw, aros gael i ti gael dy swllt." Neb yn ateb. Nid oedd yr un ty o fewn hanner milldir i'r llei hwnw, na neb yn y golwg ychwaith er fod y ffordd wen, lychlyd, flinderus, yn ymestlyn am dros fill- dir yn unionsyth o flaen y tramp. Cyn bo hir dechreuodd yr awel oeri. Gvda brig yr hwyr fe deimlodd ewinedd y barug, yr hwn oedd erbyn hyn yn dechreu gordoi y gwastadedd oddiamgylch fel tawch gwyn, treiddiolL Yn mlaen yr elad Herbert, gan alw enw'r bachgen yn awr ac yn y man. Too wele offeiiria,d brasderog a boldew yn dod heibio ar ferlyn, ac aeth Herbert ato, "A welsoch chi fachgen bychan yn eich cvfarfod ar y ffordd, syr ?" gofynai. "Nad do." "Huw oedd ei enw, ac. y mae yn gweini fel gwas bach yn y plas, meddai ef, lie bynag y mae y plas." Tybiodd yr offeiriad, yr hwn oedd yn un o garedigion penaf "cyfraith a threfn" yn ol fel yr oeddynt mewn grym y pryd hyny, fod y tramp dirmygus a thlodaidd yma wedi peidio dodi y pwyslais priodol ar "y plas" —a'i fod drwy hyny yn bradychu y ffaith ei fod yn berffaith amddifad o'r parchedig ofn hwnw ddylai nodweddu pawb tlawd pan yn son am "y plas." Gan hyny atebodd ef yn bur swta, "Life bynag mae y plas, yn wir! Oni wyddoch chwi mai y gwr sy'n byw yn y plas biai yr holl wlad yma o'n cwmpas ni am filldiroedd ?" "Efallai hyny ond wn i ddim byd o hanes y dyn, a waeth gen i pwy 118< be ydi o. Y cwbl sy arnaf eisio wybod yw lie mae'r bachgen wedi myn'd." "Wn innau ddim am y bachgen, ond yn wir, gyfaill, rhaid i mi roddi cerydd i chwi am siiarad mor ysgafn ac anmharchus am ysgweiar y plwy yma. Mae e'n ddyn dylanwadol, ac yn ddyn da ———" "Oh twt! Lol i gyd. Da, yn wir! Da ato ei hun, debyg gen i, fel pob rhai ohonyn nhw. Os na wyddoch chi yn lnli'le mae'r hogyn, ewch yn eich blaen lieb chwaneg o sgwrs," ebai Herbert mewn llais eras, hanner bygythiol. "Oh, ie, arhoswch fynyd," ychwanegai, fel yr oedd yr offeiriad yn cychwyn oddiwrtho, "yr vdwyf wedi blino ar lyddid, y fath ryddid ag wyf yn gael. Yspeiliwr vdwyf, un o'r rha.i penaf yn y wlad neithiwr cefais lety gan eich esgob, ac y mae ef yn gwybod bellach dipyn o fy hanes. Gwell i chwi anfon plismon i fy nghyrchu i'r carchar gynted y cyrhaeddwch y pentref." Ond cyn iddo allu gorphen ei ystori yr oedd yr offeiriad wedi yspardynu ei ferlyn, mewn cryn ddychryii, a gyru ymaith gynted gallai gan nad oedd yn lioffi v syniad o fod wyneb yn wyneb a lleidr pen ffordd. Yr oedd Herbert wedi llwyr luddcdu erbyn hyn, ond yn benaf oil yr oedd) ei lioen meddwl, a'r frwydr fewnol oedd yn cael ei chario yn uilaen rhwng y da a'r drwg yn enaid y dyn druan, bron wedi ei haiinar wallgofi "Ys truan o ddyn wyf fi," oedd y lief olaf ddaeth dros ei wefusau cvn iddb suddo ar y ffordd gan dywallt llifeiriant o ddagrau, y dagrau cyntaf welwyd yn treiglo dros ei ruddiau ur's ugain mlynedd.