Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Gormes Gwareiddiad: neu "CALED…

News
Cite
Share

Gormes Gwareiddiad: neu "CALED YW FFORDD TROSEDD- WYR." PENNOD II.—Y TROSEDD CYNTAF. M sir Fon, hen Fon fam Cymru, yr oedd Her. bert Humphreys yn cyfeirio ei gamrau pan y gwelsom ef gyntaf y diwrnod y glaniodd yn Penfro ar ol dod o'r transport. Mon oedd ei sir enedigol. Yno y treuliodd ei fabandod yn ddedwydd ddigon er ei fod yn hanu o deulu tlawd. Llafurwr cynredm ar ffermydd oedd ei dad, ac felly yntau ar y cyntaf. Nid oedd ganddo yr un brawd, dim ond un chwaer, o'r hon yr oedd yn naturiol yn bur hoff. Yn wir, yr oedd hi fel canwyll ei lygaid, ac ni fu brawd a ohwaer erioed yn fwy ymlynol i'w gilydd na Herbert Hum- phreys a'i unig chwaer, er mor anilythyrenog a diwybodaeth oeddynt. Bu farw eu imam pan nad oeddynt hwy ond ieuanc iawn, a llwyddodd y chwaer, Betsy, i gadw ty ei thad yn weddol gysurus i'r hen wr a'i brawd liyd nes y bu y cyntaf farw yn 1818. Yna bu am ychydig fisoedd yn cadw y cartref yn lighyd i'w brawd a hithau, ond yn ol hen ddrwg-arferiad merched er dyddiau Efa gynt, fe biiododd hi cyn diwedd y flwyddyn uchod, ac yn lie tori y cartref i fyny daeth y gwr i fyw ati i hen gartref ei rhieni a thalai ei brawd am lety yno. Cyn diwedd 1819 fe ddaeth un arall yno i fyw. Bachgen oedd efe, heb grys am ti gefn. Betsy oedd ei fam, a'i gwr, wrth gwrs, oedd ei dad. Cyn diwedd v flwyddyn ddilynol yr oedd Betsy ;i gwr wedi syithio i'r un amryfusedd o ychwanegu at deulu oedd eisoes, er mor fychan, yn rhy fawr i gael ei iawn ddiwallu a holl angenrheidiau bywyd gan y cyflog "tywysogaidd" delid y pryd hyny i weision ffernnvyr-fe anwyd bachgen arall i helpu bwyta'r ymborth prin. Ond cyn duvedd 1821 wele efeilliaid yn cyrhaedd y cartref llwm, a chyn pen yr wythncs wed'yn fe gymerwyd gwr Betsy yn waal o glefyd oedd i farwolaeth. Fe fedyddiwyd y gefeill- iaid—dwv eneth facl-L-yr un diwrnod a chladdedigaeth eu tad. Yr oedd Herbert Humphreys yn parhau i letya gyda'i chwaer o hyd, ac yn gymhorth mawr a sylweddol yn y cyfyngder oedd bellach yn ddibrin yn hanes Betsy. Wedi marw gwr ei chwaer efe oedd asgwrn cefn y teulu, ac er nad oedd efe yn derbyn mwy nag ychydig sylltau yr wythnos, a'i fwyd', fel cyflog am lafurio o ohwech o bore hyd wyth y nos drwy'r flwyddyn, eto yr oedd yr ychydig sylltau hyny yn cael eu hestyn gan- ddo i helpu ei chwaer i gadw ei hun a'i rhai bychain rhag newynu i farwolaeth. Drwy y cwbl bu Herbert Humphreys, yn gefn da i'w chwaer a'i rhai bach. Ond yn gynar yn y flwyddyn 1822 daeth gwaith yn brinach nag arfer yn Mon, a'r cyflog yn is, os yn bosibl, nag o'r blaen. Yr oedd merched ereill heblaw Betsy yn cael eu "bendithio" a gefeilliaid, a thra pery y cyflenwad o blant yn fwy na'r gwaith a'r ymborth ar eu eyfer beth ond tlodi a chyni ellir ddisgwyl? Un nos Sadwrn, ddechreu 1822, noson oer, rewllyd ac ystormus, nidi oedd yr un crystyn o fara heb son am enllyn yn nghwp- bwrdd Betsy. Yr oedd ei rhai bach yn galw am damaid, a hithau heb yr un tamaid i'w estyn iddynt, ond disgwyliai y byddai gan ei brawd ychydig sylltau pan ddeuai efe adref o'r fferm lie yr oedd yn gweithio fel labrwr cyffredin. Fodd bynag, digwyddodd fod yr wythnos hono ryw ddamwain wedi digwydd ar y fferm am ganlyniadau yr hon yr oedd y fferrnwr yn dal Herbert yn gyfrifol, ac er nad oedd ganddo hawl gyfreithiol i wneyd y fath beth eto cadwodd oddiwrth Herbert y nos Sadwrn hwn bob dimeu enillwyrd ganddo ar hyd yr wythnasi. Felly pan gyrhaeddodd Herbert dy ei ohwaer nidi oedd ganddo gy- maint a dimai yn ei boced i'w rhoddi iddi. Pan glywodd ei chwaer hyn gwelwodd, eisteddodd ar gadair gerllaw a thorodd allan i wylo. "Beth ydymj wedi wneyd, Herbert bach," meddai, "pan yr ydym yn gorfod dioddef fel hyn 1 Mae Duw yn ddig wrthym am rywbeth, onide ni fuasai Efe yn ein newynu i farwolaeth fel hyn fesul y fodfedd." "Oes genyt ti rywfaint o fwyd yn y cwp- bwrdd yna 1" gofynai Herbert. "Dim tamaid, a dyma'r plant yn crio eisio rhywbeth a. chenyf ddim i'w roddi iddynt ond dwfr oer. 0 beth a wnaf," a thoroddl Betsy allan i wylo yn fwy fyth. Nid oedd hi yn cofioi, efallai, y fath ogoniant mil- wrol bwrcaswyd i Brydain saiith mlynedd cyn hyny gan yr arian ddylasai yn awr fod yn myn'd i borthi neiwynog: Prydain. Ond meibion y "bobl fawr" gafodd y gogoniant; y bobl gyffredin fu'n dioddef i dalu am hyny. Fodd bynag, nis gallai Herbert ymgynnal yn ngwyneb y dioddefaint yma yn nheulu ei chwaer. Aetli allan-ac ni welwyd mohono byth mwyach yn nhy ei chwaer, Ymddengys iddo fyned i gwningaer rhyw un o "wyr mawr Mon" i geisio dal cwningen, a phan wrth y gorchwyl hwnw dyma geidwad helwriaeth ar ei warthaf heb yn wybodi iddo, gan ei daraw ar ei ben efo ffon gyda'r fath nerth nes ei syfrdanu am foment. Buan yr adenillodd ei breisennoldeb meddwl, fodd bynag, ac wedi ei gynddeiriogi fel hyn rhuthrodd ar y cipar gan roddi iddo y fath gurfa nes y bu hwnw, oherwydd ei niweidiau ac hefyd oherwydd ciyn lawer o foeithusrwydd, yn cadw i'w wely am dros wythnos. Oherwydd yr "ymosodiad llofruddiog" yma a,r y cipar, ac yn enwedig oherwydd yr ymgais i lofruddio rhai o'r cwningod er eu cael i-gadw teulu ei chwaer rhag marw o newvn, anfonwyd Herbert Humphreys i'r transport am bum' mlynedd. Yno daeth i gydnabyddiaeth a chymer- iadau drwg. Nid) oedd efe, yn gymeriad "drwg" yn yr ystyr hwnw pan aeth yno, er fod herwhela yn cael ei ystyried y pryd hyny yn Nghymru, fel yn awr, y pechod mwyaf, y pechod gwreiddiol, y pechod hwnw nad oes maddeuant i'w gael byth o'i herwydd ac er fod Herbert yn euog o'r pechod dychrynllyd yma, eto meiddiwn ddyweyd fod ei gymeriad1 gerbron Duw mor lan y foment yr anfonwyd ef i'r transport ag ydoedd cymeriad y bonedd- igion a'u hanfoiaasant. Ond wedi mynedl yno, i blith pob math o gymeriadau, caledodd ei galon yn erbyn gwareiddiad a Christionog- aeth y ganrif hon. Yn mhen peth amser gwnaeth ynigais i ddianc, ac am hyny der- byniodd flynyddoedd yn ychwaneg o gosp. Gwnaeth ymgais arall, gyda chyffelyb gan- lyniadau, ac yn awr yr ydym yn ei gael wedi bod yn y transport am bedair blynedd ar bymtheg, ac wedi cael ticket of leave i ddyfod adref, hyny yw, caniatad yr awdur- dodau i fyn'd yn rhydd cyn ei aiiis,er ar ammodau neillduol. Un ohonynt oedct mynegu ei symudiadau yn mhobman i'r heddgeidwaid lie bynag y byddai. Wele Herbert, ynte," yn myned adref i sir Fon. Diau fod alltudiaeth wedi gwasgu pob barddoniaeth allan ohono, onide priodol iawn y gallai ganu— "Wedi bod ar hyd y wlad, Heb wel'd na thad na theidie, Weithie ar for ac weithie ar dir, Ac felly am hir flynydde Er hyny d'wedir yn ddi nych, Teg edrych tuag adre." 11

PENNOD III.—ENAID MEWN CYFYNGDER.