Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
I FYNY A'R AMGYLCHIAD
News
Cite
Share
I FYNY A'R AMGYLCHIAD Yr oedd dyn gyda thrweh o wallt crych yn sefyll i fyny yn ei drol, ac yn areithio yn hyawdl am rinweddau ei "wallt-adferydd uniongyrchol" i dorf o bobl. "Dydw i ddim yn credu fod y gwallt yna yn wallt naturiol, Die," meddai y naill wrth y Hall, gan gyfeirio at wallt tewdrweh yr areithydd. "Dydw inna ddim chwaith, Twm," meddai'r Hall, "ond fydda i ddim yn hir iawn cyn cael gwybod." I Ac aeth Twm, y siarcwiwr diweddaf, o'r tu ol i'r gwallt-adferydd enwog yn gelgar ac yn gyfrwys, a chan gyffwrdd yn araf deg a'r cudynau trwchus a blaen ei ffon, a roes blwc sydyn, ac i lawr a'r berwig, gan ddwyn i'r amlwg un o'r penau mwyaf moel- ddisgleiriol a welwyd erioed. Cydgan nerthol o wawd a dirmyg y dorf a ddilynodd yr olygfa hon. "Ha, pan na iwsia ti dy wallt-adferydd dy hunan 1" meddai un. "Tydi o'n werth dim meddai'r llall. "Dos adre, twyllwr wyt ti!" meddai'r trydydd. "Trochfa iawn iddo!" meddai'r lluaws; ac nid oedd i'w glywed am beth amser ond rhyw ymadroddion caredig a hawddgar fel yna. Cyfododd y dyn ei law i ofyn am heddwch, ac yna dywedodd gyda llais hyglyAV — "Foneddigesau a boneddigion,—Yr oeddwn i'n foel am flynyddoedd cyn i mi ddarganfod y ddarpariaeth ryfeddol hon i adiferu y gwallt; a phe buaswn i yn ewyllysio gwneyd defnydd ohoni, gallaswn, mewn tri mis, gael cystal enwd o wallt a'r dyn, dynes, neu blentyn yn y byd." "Pa'm na wnaech chi ?" meddai rhywun. "Paham na wnawn i, ffrindia bach? Wel, mi ddywedaf i chwi paharn. Y mae gwerth- iant fy 'ngwallt-adferydd uniongyrchol' i yn cynnyddu mor ddirfawr nes yn mhen ycliydig iawn o amser fydd yma. yn Ngliymru, Lloegr, na Llanrwst ddim cynnifer ag un pen moel ond fy mhen i fy hun, yr hwn wyf yn fwrjadu gadw felly er mwyn masnach. Yr ydw i'n bwriadu parhau yn foel, mewn trefn i ddangos i'r genedl sydd yn codi y fath anaf anaele ydyw moelni, a chymaint sydd ganddo i wneyd ag anurddo golwg dyn. Yna, on byddant yn gall, byddant yn sier o gefnogi y ddyfais newydd ryfeddol hon, y 'gwallt- adfeaydd uniongyrchol' bydlenwog-yr hwii sydd yn llawn mor effeithiol fel l'hagflaenydcl -i attal moelni, ag ydyw fel adferydd rhwbiweh ycliydig ohono yn achlysurol i wraidd y gwallt, a gallwcli herfeiddio moelni. Fy nghyfeillion i, yn mhen blynyddoedd eto,, hydd wylofain a rhincian dannedd yn mhlith. y gwybed, oblegid bydd1 y penau moelion wedi Iiwyr ddiflanu o'r tir "Yn awr, foneddigesau a boneddigion, does, genyf ond yehydig boteli. ohono gxvda mi heddyw, ac yr wyf yn eu gwerthu am y pris ffwlbriaidd o isel a chw e'-cheiniog y botel, Pwy sy am y gyntan"
Advertising
Advertising
Cite
Share
iiiL.au.nil.niKiiii..oil.in.in..ni>v 3 I "D P"I\/r"M A "NTT'Ci -&igantic Clearance Sale C i JAiijlVllNillN lO, of SERGE REMNANTS.- f Bundles of splendid Dress Serge (perfect in dye, g £ weave and finish), Carriage Paid to any address, for r J 5/- each. The remnants are in long lengths, suitable a 3 for &irls' Dresses. Ladies' Skirts, &c. When ordering C i please state if all black, all blue, or mixed colours are 9 f required.-LUTAS LEATHLEY AND CO., | i Remnant Dept. 31, Armley, Leeds. tip"
ICY MAE YN CYFFWRDD A'R LLECYN."
News
Cite
Share
ICY MAE YN CYFFWRDD A'R LLECYN." Ie! dyna y mae HOMOCEA yn wneyd. Ac yn fuan liefyd-pa nn ai y ddannodd ai y neuralgia, gyda'u holl boenau enbyd, neu eczema, gyda'r lioll boonau annioddefol—neu y piles, sydd yn gwneyd milocdd o fywydau yn druenus. Y mae y crydcymalau yn y cymalau neu'r cyhyrau wedi cael ei wella er iddo fod ar ddyn am flyiiyddoedd-tra at doriadau, llosgiadau, &c., y mae ddigon o flaen pob enaint sydd wedi bod erioed o flaen y wlad. Dywed ARGLWYDD CARRICK fod HOMOCEA wedi ei wella ef o biles gwaedlyd pan yr oedd pobpeth arall wedi methu ei fod wedi rlioi peth i lafurwr, yr hwn oedd yn gloff o achosi gareg gwympo arno, ac iddo ei wella. Yr oedd gan ddynes boen yn ei plien- elin, ac nis gallai ei blygu am flwyddyn, a gwellhaodd hi; a defnyddiodd un arall ef at scurvy ar ei choes ac yr oedd yn gwneyd lies iddi. Y mae un llythyr oddiwrtlio yn terfynu gada'r geiiiau—" Dyma'r peth goreu y daethum erioed ar ei draws." Dywed ARGLWYDD COMBERMERE fod HOMOCEA wedi gwneyd mwy o les iddo na dim arall mae wedi lei ddefnyddio at grydcymalau.
TYSTIOLAETH ODDIWRTH Y DARGANFYDDWR…
News
Cite
Share
TYSTIOLAETH ODDIWRTH Y DARGANFYDDWR AFFRI- CANAIDD ENWOG, HENRY M. STANLEY. Whitehall, Llundain Anwyl Syr,-Cafwyd eich enaint a elwir HoMe,- UEA, y feddyginiaeth fwyaf esmwythaol ac effeithiol a allwn gael byth at fy aelod drylliedig, am ei fod yn ymddangos yn cadw yn hirach na dim arall, y 'sylwedd olewaidd nior angenrheidiol at hyny. Y bai ar dwymwlychiadau, yn gyffredin, yw eu bod yn caledu ac fod arnynt ei.sieu cynhesrwydd tra y mae eich un chwi, heblaw bod yn aroglhau, mor esmwyth ag olew, ac ar unwaith yn meddalhau mown achosion o enyniad difrifol.- Y r eiddoch yn ffyddlawn HENRY M. STANLEY." Cofiwch fod HOMOCEA yn gostwng enyniad ac yn esmwythau 11-id mor fuan bron ac y cymhwysir ef, canys y mae "YN CYFFWRDD A'R LLECYN." Mae pob tai cyfanwerthol yn ystorio HOMOCKA. Gellir ei gael gan fferyllwyr ac ereill am Is 11 c neu 2 2s 9c y bocs, neu anfonir ef drwy'r llythyrdy am Is 3c a 3s oddiwrth y goruchwyliwr cyfanwerthol, i! I, Hamilton Square, Birkenhead.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday 2d. Receives the Official Advertisements of f. r counties; also Government, Legal, a d Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lcr « ing paper in the northern half of e Principality." The Manchester Examiner also Btf tfg that it is the leading Liberal organ f 1 North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales.Liverpool Evening Express. Publisher—DANIEL REES, Carnarvon.
RHY GYFRWYS IDDYNT
News
Cite
Share
RHY GYFRWYS IDDYNT "Gadeweh i mi gael fy ngwynt," meddai hi. Gwr a gwraig oeddynt, wedi dyfod i weled y Tywysog ar ei ymweliad a Gogledd Cymru yr haf diweddaf, ae wedi cael eu gwasgu a'u llethu o'r bron gan y dorf. Yr oeddynt wedi dvfod i weled yr orymdaith, ac fel yr oedd yn digwydd, nisi gallent weled dim. Ond yr oedd gan y gwr gynllun. "Pan ro'i allan y gair, Maria," meddai ef, "rhaid i ti vsgreehian a myn'd i lewyg." Arhosodd Maria am yr adeg. Fe roddwyd y gair allan, a syrthiodd hithau i freichiau ei gwr, gan ddyheu am ei hanadl, "Gadewch i mi gael fy ngwynt. "Gwynt iddi, gwynt iddi meddai ei gwr. Ciliodd y dorf yn ol, ac aeth y, dyn a'r ddynes i'r ffrynt. Daeth y ddynes ati ei hun, ac arhosodd y ddau yno yn barod i gael golwg ar yr orymdaith. Ond yr oedd yno rywun arall wedi cyn- llunio, ac yn barod i gyfarfod a'r amgylchiad, wedi galw am gludai (stretcher). Daeth y bechgyn a'r gludai yn mlaen. "Allwch chi ddim bod yn rhy ofalus gyda'r cholera yma," meddai y meddyg ieuanc oedd yn digwydd bod wrth law, gan amneidio ar ei gymdeithion. "Byddai yn well i mi eicli cymeryd ar un- waith i gael eich arcliwilio." Ac ni chafodd yr un o'r ddau weled yr orymdaith.
PRIODAS YSTORMUS
News
Cite
Share
PRIODAS YSTORMUS Mewn plwyf byclian ar gyffiniau Clawdd Off a, cafodd y curad newydd brofiad cyifrous ar yr achlysur o weinyddu ei briodas gvntaf. Yr oedd y rheithor wedi dyweyd wrtho am fed yn ofalus am lenwi y coflyfr gydag enwau ac oedran v briodferch a'r priodfab yn gywir. Wedi myned drwy y seremoni, aeth y par dedwydd, y rhai oeddynt mewn llawn addfed- rwydcl oedran, i mewn i'r festri i arwyddnodi y gofrestr. Pan ofynwyd i'r priodfab am ei oed, dy- wedodd ar unwaith ei fod yn driugain oed, und y briodferch, gyda'r gwylder nodwedd- iadol o'i rliyw, a ddywedai ei bod mewn cyf- Iawn oed, a dim ond hyny a phan oedd y curad yn dyweyd na wnai hyny mo'r tro, fod eisieu yr oedran yn gywir ac yn lilawn, dy- wedwld wrtho mai nid dyna'r tro cyntaf iddi hi fyned elIrwy y seremoni, a'i bod yn benderfvnol o gadw ei chyfrinach iddi ei hun. O'r diwedd, wrth weled y briodferch yn parhau yn ystyfnig, daetli y priodfab yn mlaen, er mwyn cyflawni pob peth yn iawn, ac a ddywedodd ei hoedran wrth y curad. Pell oddiwrth roddi olew ar y dyfroedd cvtliryblus oedd hyny, nid oedd ond gwneyd petliau yn waeth, oherwydd aeth y briodferch yn nwydwyllt a ffromgar, a mynai gael gwybod yn mha le yr oedd ef wedi dod o liyd i'w hoedran hi. "Mi fu'm i'n edrych dros eich Beibl teulu- aidd, fanwylyd," oedd yr atebiad tawel. "A ulia hawl oedd genych chwi, mi faswn 1 n leicio gwybod, gymeryd' eich hyfdra i ediych dros y Beibl teuluaidd cyn i ni l>riodi ?" Ac yna v ddau, y rhai ddaethant i mewn i'r eglwys fel par o durtur golomenod, a ymad- awsant yn ddigofus. Y mae y curad, yr hwn oedd gyfrifol am gyflawniad y seremoni, yn ceisio dyfalu beth a ddaeth o'r ddau, a pha beth fu canlyniadau y digwyddiad anffortunus.