Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DADL AR Y "DDIOD"

News
Cite
Share

DADL AR Y "DDIOD" BgTfOM Pa fodd yr ydwyt heno, j$3 Fy anwyl gyfaill, John, Bial A ydyw'r wraig a'r teulu bach Yn iach y flwyddyn hon ? JOHN Wel, ydynt, diolch, anwyl Tom, Yn iach i gyd ond un, Y Ueiaf yn y teulu yw, Mae ef yn wael ci lun; Y bom sy'n blino Willie Yw magu dannedd man, Ni fydd ef fynyd lonydd Ar lin ei fami lan. Pa fodd yr ychvyt tithau, Fy anwyl Tom, fel tae, Ar ol y fordaith hirfaitih, A theulu Ty'nycae ? TOM 'Run modd t'tli. deulu dithau, John, Diolch, yn weddol iawn, Er imi ar y fordaith fod Yn afiach un prydnawn. Oes genyt rhyw newyddion gwell Am Guto, gyfaill lion, 'Nol imi fod ar fordaith bell, A allai loni'm bron? JOHN Mae genyf un, fy nghyfaill cu y Sy'n haeddu ei goffhau, Mae Dirwest wiw yn lloni'r lie, Gwna'n sicr ein gwellhau. TOM Nid ydwyf fi, o gwybydd, John, Yn hoffi'th Ddirwest di, A gallaf roddi'r fynyd hon Resymau yn ddiri' Mae'r gwirod wedi gwneyd yn siwr I mi rhyw ddirfawr les, Pan hwylio byddwn ar y dw'r Mewn oerni, gwla.w, a gwres. I Y gauaf fe wresoga'm gwaed, Yn nghanol stormydd blin, Effeithiai hwn o'm pen i'm traed, Diferyn yw ei rin A'r haf pan fyddai cawr y dydd Yn tw'nu gyda nerth, Y gwirod gwiw a oere'm gwaed, Fe'i caed o ddirfawr werth JOHN Fy anwyl gyfaill, Tom, o d'wed, Ai meddwyn ydwyt ti ? Mae meddwl hyny, nghyfaill, cred, Yn dryllio'm calon i; Nid yw dy ymresymiad frol Am werth dy wirod mad, Ond mympwy er's blynyddau 'nol A fagwyd yn ein gwlad. Y ddiod waelaf ar y tes Yw'r gwirod oil yn nghyd, Ac hefyd ni wna unrhyw les Fel diod yn ein byd A mwyaf yfi di o hon, Eangu wna dy ehwant, Ac arwain i dylodi wnei Dy wraig a'th anwyl blant. TOM Nid ydwyf fi, o gwybydd di, Yn feddwyn pena'r fro, Ond Cymedrclwr, fel pg tae, Yn yfed aimbell dro f Nid oes dim drwg all ddyfod 0 yfed gwydriad bach, Ac uefyd y mae'r wirod Yn ddiod hynod iach JOHN Os Oymedrolwr ydwyt, Tom, Yn yfed ambell dro, Yr un o ran egwyddor wyt A meddwyn pena'r fro! Yr un o ran ei natur yw Y tlysion wreichion man, Gwahaniaeth yn y graddau sydd Rhwng rhai'n a'r nerthol dan. 'Run modd y mae diferyn 0 wirod, gwrando'n awr, Yn meddu gradd o'r gwenwyn Sydd yn y faril fawr: D'wed i'm sawl mil o ddynol ryw A yrodd hon i'r bedd, I gefnu byth ar dir y byw, A ffafr Duw a'i hedd. Newidiwyd eu gwynebau Gan effaith gwenwyn hon, Ac oerwyd eu serchiadau At deulu hoff eu bron TOM Ond aros, John, am fynyd 'nawr, Mae'n gwneyd y dyn yn gryf, Ac i wrthsefyll megis cawr Yn wyneb gelyn hyf; Pan fyddaf wedi meddwi'n llwyr Yn mhell o'm cartref, clyw, Nid ofnaf unpeth yn yr hwyr, Y diafol, dyn, na Duw: JOHN Wel dyna ti, fy nghyfaill, Tom, Mewn tomen at dy drwyn Mae dy resymau yn gwanhau 0 hyd, fy nghyfaill mwyn; Pe buaset wedi meddwi, Tom, Er bod yn gryf ac iach, Dy daflu wnawn yn awr ar frys. A dim ond fy mys bach Ac os na fyddi'n ofni, Tom, Y diafol, dyn, na Duw, Hynyna fu yn fagl drom I lu o ddynolry w; Yn y sefyllfa erchyll hon Lladdasant deulu mad, A hyrddiwyd hwy o blith y byw Am dori deddfau'r wlad. Faint fyddi yn ei wario, Tom, Am yr hen wirod gwael? TOM Rhyw goron yn yr wythnos, John, Heblaw yr hyn wy'n gael. JOHN Mae hyny yn y flwyddyn, Tom, Yn dair ar ddeg 0, bunnau Pa rai a ddylet ro'i i'th wraig Yn hytrach na'r tafarnau. TOM Mae hyny'n swm ofnadwy, John, I'w gwario am y gwirod, Ond eto mae cymdeithas Ion Y dafarn yn dra hynod Bydd gwraig y ty'n fy ngalw'n ,syr A'r gwr yn siriol arw A hynod o garedig, clyw, •v Wrth bob creadur meddw .¡. JOHN Caredig, Tom, ddywedaist ti, Yw gwr a gwraig y dafarn Hawdd iawn y gallant fod, fel tae, Wrth dderbyn dy holl arian Ond creda ii, fy anwyl Tom, Pan darfod wna dy bres, Dy daflu wnant, fy machgen tlws, Drwy'r drws fel peth diles TOM: Mae hyny yn wirionedd, John, Nad allaf byth ei wadu, Fe gafodd Loli, Pen-y-Maen, Y nos o'r blaen ei daflu A rhywbryd tua hanner noe, Mewn ffos, heb ddim am dano, Y cafwyd Loli ar ei hyd, Gan ei anwylyd, Gweno JOHN Heblaw fod hon yn tlodi, Tom, Mae'n damnio eu lieneidiau Sy'n fwy o werth na phethau'r byd Yn nghyda'i holl bleserau Mae'r Crewr Mawr yn dyweyd ei Hun, Na ddaw yr un o'r meddwon, Pan wedi gadael llwyfan byd, I wynfyd y duwiolion t TOM: We1 diolch it, fy nghyfaill, John, Am ddangos fath drueni, Sy'n dyfod i gyfarfod dyn Drwy'r gwirod sydd yn meddwi; Beth by nag a ddywedo'r byd, Ai ynfyd wyf neu beidio, Mi af i roddi f'enw i lawr Cyn mynedJ wdref heno. OELYNIN.

y DEWRYN BYCHAN PERYGL

- D1 M TAL, DIM GOLEUNI