Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
BEECHAM'S PILLS For all Bilious and Newous Disoi?ders, such as Sick Headache, Constipation, Waak Stomach, Impaired Digestion, Disovdeved Ll, and Female Ailments. Prepared only by the Proprietor, THOMAS BEECHAM, St. Helens, Lancashire. Sold by all Druggists and Patent Medicine Dealers everywhere, in Boxes 9 £ d., Is. lid., and 2s. 9d. each, with Full Directions. The 1.. 1id. Box; contains Fifty-mix Pills* THE SALE IS NOW S I. X MIL L ION BOXES PER ANNUM.
AMYNEDD JOB
News
Cite
Share
AMYNEDD JOB Mrs Fadladeen (wrth un yn delio mewn ewn) "Rydw i'n byw mewn ty unig yn y wlad, ac y mae arnaf eisieu ci cadw ty." "Ie, mum." "Ond nid ci i nghadw i yn effro drwy'r nos wrth gyfarth ar y gwynt." "Nage, mum." "Rhaid iddo fo fod yn gryf ac yn ffyrnig, eto mor ddiniwed a'r oen wrtho ni, cofiwch." "Ie, mum." "A rhaid iddo fo fod1 yn gi wneiff ruthro i, ac ymlid pob crwydrvn i ffwrdd yn ddigon pell." "Ie, mum." "Ond dydi o ddim i ymyryd a'r un dyn gonest fydd yn dwad at y ty." "Nag ydi, mum. Rhwbath yn chwaneg f "Ond, os daw acw leidr, mae y ci i rufchro iddo fo ar unwaith." "Ie, mum." "Ond, dydi o ^dim i larpio neb ddaw acw i alw arna i mewn --uodd cyfeillgar unrhyw aroser." "Nac ydyw, mum." "Ac wrth gwrs, rhaid iddo fo beidio ym- yryd o gwbl a'r rhai fydd yn dwad acir i weled fy meistar, oherwydd mae o'n ddoctor, ac y mae llawer iawn yn galvr acw." "Na raid, mum. Yr ydw i'n gweld beth sydd arnoch chi eisie, mum; mae ainoch chi eisieu ci sydd yn fardd, yn athronydd, yn ddarllenwr meddyliau pohl, ac yn archwiliwr calonau a chymeriadau a bwmdau y natur ddynol." 'Dyna fo. Ellwch chi anfon un acw V "Mae'n reit ddvwg genyf, mam. Yr yda ni allan o stoc o'r cwn hyny yrwan."
-"-'" OWERSI BUDDIANNOL MEWN…
News
Cite
Share
OWERSI BUDDIANNOL MEWN CERDDORIAETH rad: "Ydych chwi'n meddwl y bydd fy merch i rywdro yn alluog i ganu ?" Athraw Italaidd: Byth, yn oes oesoedd, dragywydd." Tad Os felly, pa les ydyw rhoddi ych- waneg o wersi mewn canu iddi ?" Athraw. 0, Ilawer iawn o les, mewn pob rhyw fodd, Monsieur. Mi ro i wersi ddau- dri mis eto, ac o dipyn i beth mi fedraf fi ddysgu iddi wybod na fedr hi ddim canu. Mi fydd hyny yn addysg gerddorol ddiguro i'r foneddiges ieuanc." Y Tad: "Yr ydych yn berffaith yn eich lie Os na all hi ganu, ac i chwichau allu ei hargyhoeddi o'i hamddifadrwydd o'r dalent hono, fydd y gwersi ddim yn ofer."
, DYN CROES
News
Cite
Share
DYN CROES Mewn ymrafael yn nghylch ewyllys, a gy- merodd le yn ddiweddar yn Llangwerylon, yr oedd un o'r tystion yn cael ei holi yn nghylch tueddiadau, anian, a chynneddf dymherawl y cymunroddwr. "Oedd o'n ddyn addfwyn a charedig 1" meddai v iwrne. Nid bob amser," oedd yr atebiad. "Oedd o'n ddyn croes, ynte ?" "Wel, oedd, braidd felly, ambell dro." "Oedd o'n ddyn hynod o groes ?" "Oedd, ofnadwy." "Pa mor groes oedd o ? Rhoddwch i ni engraipht o'i groesineb." Wel, syr, yr oedd on ddyn mor groes, fel, pan fyddai yn galw adre'r buchod i gael eu godro'r prydnawn, y byddai y llaeth wedi suro," "Dyna ddigon, gallwch eistedd i lawr."
mi n-^a . OS NA BYDDI GRYF…
News
Cite
Share
mi n-^a OS NA BYDDI GRYF BYDD OYFRWYS Y mae dyn yn Waenbedolau, a chanddo wraig a chanddi eil ffordd ei hun i fyned o gwmpas pethau, ac yn cael ei dal yn ei phranciau ambell dro. "Fy anwylyd," meddai ef, y boreu o'r blaen, wrth wisgo am dano, "yr ydw i'n meddwl mai chwi oedd yn eich lie pan oedd- ych yn dyweyd wrthyf neithiwr fod yma lad- ron yn dwad i'r ty yma." "Pa beth 1" meddai hi yn gyffrous. Oherwydd y mae hyny o arian oedd yn fy mhocedi i pan oeddwn i'n myn'd i'r gwely wedi myn'd." "Wel," meddai hithau, gyda gosgedd ffroen- uchel ;mi--ddw, edais i chwi, pe buasech yn ddyn dewr ac yn neidio i fyny o'r gwely, ac yn saethu y dyhiryn yn farw, mi fasa, eich arian genych y boreu yma." Mae'n bosibl, fy anwylyd, mae hyny'n ddigon posibl," meddai yntau, yn bwyllog, ond mi fuaswn yn wr gweddw." Chwarddodd hithau yn serchog, a rhoddodd hanner yr arian yn ol iddo.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAEG (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 18&9,1865 1878,1887,1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GOREU o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHRED1AD. 64 o GOLOFNAV HIRION. BOB DYDD MAWRiH CEINIOG. Yn Eisiau: Dosparthwyr a Gohibwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES, Carnarvon. The I Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Papei. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Accuracy, Neatness, Despatct Note the Addre3s:- HERALD STEAM PRINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON.