Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y GLOWR.

News
Cite
Share

Y GLOWR. Yn nghwmni yr awen disgynaf yn ofnus I grombil y ddaear, lIe mae y byd-glodus A'r dewr lowr, druan, a'i chwys yn dyferu, Wrth dwrio am ymborth a dillad i'w deulu. Wrth raff mae yn disgyn i lawr mewn sir- ioldeb, Os digwydd hon dori bydd yn nhragwydd- oldeb; Ei weled yn disgyn wna nghalon i grynu, -Ac eto can lleied ca'r glowr ei barchu. Wrth oleu ei lusern yn mlaen yr ymlwybra, Trwy ddudew dywyllwch afiachus i'r eitha', I danllyd elfenau—ei fywyd fygythiant, Ac arno cilddannedd y crelgiau 'sgyrnygant; Mae'r nenfwd adawodid ef neithiwr yn dawel Yn awr wedi gollwng runelli o rwbel; Y glowr a ddywed, tra'i galon yn euro, 'Rwv'n diolch i'r nefoedd nad oeddwn o dano." 'Nol iddo gyrhaeddydl y face," neu y ''tal- cen," Mae'n diosg ei ddillad, ac ati yn llawen I dwrio a'i fandrel ddu berfedd y ddaear; I leisiau peryglon, mae'n ddall ac yn fvddar. Duw'n unig sy'n gwybod a ga ddod o'r talcen A'i fywvd bvth eto i weled yr hauhven. Chwi, feistri, sy'n hoffi gormesu'r hen lowr, A allwch heb wrido wynebu eich Barnwr ? DAFYDD DYFED.

COLLIANT Y " ROYAL CHARTER."

BOB WYTHNOS.

ARBENIG.

TELERAU.

[No title]

SWN HEN ROD Y FELIN.

MIN Y DON A GARAF FI.