Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU BERWI PYTAB§P"!s>.—A oes rhywbeth yn mhlith llysiau yr 4.d a'r maes i'w gymharu a phytaten flawdiojf wedi ei choginio yn dda, neu rhywbeth sala4 na phytaten wleb wedi ei chamferwi ? Ac eto, mor anfynych, hyd yn nod yn mhlith teuluoedd sydd yn byw yn dda yr ydym yn gweled dysglaid 0 bytatws wedi eu coginio yn iawn. Pytaten sych wedi ei berwi a'i choginio yn dda ydyw y ilysieuyn mwyaf deniadol as y bwrdd ciniaw. Pan ddygir hwy i'r bwrdd yn boeth yn eu mwg, gyda'u siacedi am danynt, wedi byrstio i ddango,4 lliw iachum eu tufewn, y maent yn tynu gwen i wyneb sarug y dyn mwyaf an- niolchgar. Er mwyn gallu eu coginio yn dda, gadawer iddynt aros am chwe' awr o leiaf cyn eu berwi (deuddeng awr os ydynt yn hen datws). Yna, doder hwy mewn dwfr berwedig gyda mymryn o halen, a dylai y dwfr ferwi yn gymedrol nes y byddant wedi gwneyd digon, yr hyn ellir wybod drwy eu cyffwrddia fforc; yna, gadawer iddynt yn y crochan (wedi eu gloewi) nes y byddant yn hollol sych. Dylid bod yn ofalus am beidio gadael iddynt ferwi mynyd yn hwy nag y byddant wedi gwneyd digon, rhag iddynt yfed dwfr. Cynllun da gyda hen datws, i'w gwneyd, yn flawdiog, ydyw eu tywftllt i liain, a'u hysgwyd yn dda. Dylai y pytatws mwyaf gael eu dodi yn y berw o flaen y rhai llai, er mwyn iddynt wneyd yn gyfartal. Cymer o ddeugain i hanner cant 01 fynydau. Os yn newydd, hanner yr amser hwnw. LLENWI'R TEGE,LL;-Un rheswm dros lenwi'r tegell dros nos ydyw fod y dwfr cynt- af o'r tap yn anghymhwys i'w ddefnyddio, yn oer nac yn boeth,, a dylid gadael dwfr y tap redeg hyd nes na bo yn ddichonadwy i wen- wyn oddiwrth blwm fod ynddo, ac y mae hyny yn myned ag amser yn y boreu cyn brecwast. Byddwch yn ofalus iawn am hyn, gan mai o'r dwfr-bibau yn gyffredin y mae y gwenwyn hwn yn dyfod. TAN YN YR YSTAFELL WELY.—Y mae rhai pobl ddeallus yn tybied fod cysgu mewn ystafell oer yn anhebgorol i iechyd. Camgymeriad yw hyny. Gwell ydyw cael tan yn yr ystafell wely. Nid yn unig gellir drwy hyn, gael mwy o newid awyr, ond gyda than gellir cael y ffenestr yn agored, yr hyn a ychwanega yn fawr at awyriad yr ystafell, ac ni fydd eisieu cymaint o ddillad ar y gwely, yr hyn sydd yn enill, gan fod pentwr anferth o blancedi yn rhwystr i ddiangfa y nwyau hyny y mae y croen yn daflu allan yn wastadol. Y mae gwres ffwrnes fechan neu stove gyda ffenestr agored yn well nag ys- tafell fechan oer a chauedig. PLANT A'U PRYDIAU BWYD.—Iechyd ydyw y fendith fwyaf a all mam ei dymuno i'w phlant, ac er dyogelu hwnw, rhaid iddi fod yn ofalus am iawn drefnu eu prydiau bwyd, eu horiau cwsg, a'u hymolchiadau, a phobpeth a berthyn i'w lies corphorol. Dylai bywyd dyddiol y plentyn gael ei barthlenu fel map, a'i ddHy. yn fanwl o'r dechreuacL Dylai y prydiau bwyd fod yn gyson a rheol- aidd; y mae hyny yn bwysig, oherwydd y mae yr ystumog yn ofyn gorphwysdra. Heblaw hyny, os bydd plentyn wedi arfer: cael ei brydiau bwyd ar adegau penodol, ni bydd arno angen bwyd cyn y delo'r adegau hyny, a gall y fam ddyweyd faint o amser a all fod yn absennol.

aWERTH EU aWYBOD

[No title]

[No title]