Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Jeroboam Jones neu' BABI'R…

News
Cite
Share

ys Griffith Jones am y rheswm nad oedd wedi cael ei gwneyd yn deg a chyfiawn, ac hefyd fod gwall dinystriol ynddi. Aeth William Jones i lawr yn ddiatreg i Borthmadog at y twrnai oedd wedi gwneyd yr ewyllys, a dy- wedodd y ewbl wrtho. Synodd hwnw yn aruthr pan welodd rybudd swyddogol twrnai Mrs Jones, yn yr liwn y dywedid mai un o'r rhesymau dros ddod a'r cais yma yn mlaen i'r frawdlys oedd fod yr ewyllys yn cynnwys "gwall dinystriol." Methai yn glir a dirnad ystyr hyn, ac yr oedd ei wybodaeth a'i fedrus- rwydd ef fel cyfreithiwr yn y cwestiwn, ac, o ganlyniad, yr oedd yn teimlo i'r byw, a phenderfynodd amddiffyn yr ewyllys hyd ei eithaf, pe ond er mwyn ei gymeriad ef ei hun fel y twrnai a'i tynodd hi allan. Creadur od anarferol oedd yr hen flaenor, ac fel yr ydym wedi dyweyd eisoes, unwaith neu ddwy, efallai, yr oedd yn dangos ei hynod- iwydd i raddau mwy nag arfer pan yn ym- wneyd a'i fachgen. Yr oedd yr hen frawd o'r cychwyn wedi bwriadu Jerry i fod yn bregeohwr, ac, hwyrach, yn bregethwr "mawr." Dyn yn cashau ymddygiadau ym- ffrostgar ac arddangosiadau o falchder oedd yr hen flaenor, ac yr oedd am ddwyn Jerry i fyny i fod yr un fath ag ef ei hun yn hyny o beth, os gallai, ond yr oedd mam Jerry gryn dipyn yn wahanol, ac y mae dylanwad mam bob amser yn fwy nag eiddo y tad. Mae'n rhaid gwneyd rhywbeth er gwar- eiddio yr hogyn yma," ebai William, y noson hono wrth Betsy; "wnaiff mo'r tro gadel iddo fynd yn mlaen yn y dull yma, weldi Betsy. Mae o yn mynd yn fwy pengaled ac anufudd bob dvdd, a mi dyfith i fyny yn hogyn penrydd a drwg iawn, mae arnaf ofn." "Neno'r tad, bedi'r mater, William ? Tydi o ddim gwaeth na, rhiw hogia erill o'r urloed a fo. Mi fuoch chithe'n hogyn, rywdro, debig." Do, ond c.awn i ddim ymddwyn fel hyn. Fase mam byth yn gadel i mi gael cymint o fy ffordd fy hun ag rwyt ti yn adel i Jerry. A 'blaw hyny, mae arnaf ofn dy fod yn arwain yr hogyn i ddysgu bod yn falch, ac y bydd iddo, pan dyath o i. fyny, fod yn ddyn ifanc coegfalch, yn caru ffolinebau'r byd ormod; a rhedeg ar ol y syniadau newyddion yna sy'n dwad i fia,wn yn llifeiriant pechadurus i fyd ac eglwys. Yn wir, mae arna, i ofn am ei ddyfodol o." "Fasech chi'n leicio ei, weld o yn cael ei garcharu a'i rwmo yn y ty. peidio gneyd na deud dim ar hyd yr wsnos blaw byta a chysgu, a pheidio gneyd dim ddydd Sul ond dysgu Rhodd Mam" ? Mi wn i am blant sy wedi cael eu dwyn i fyny felna gin eu rhieni- fyddai wiw iddyn nhw chwerthin na gneyd dim ond tynu gwep ac edrach fel tase nhw wedi llyncu pocer. Yr oedd gorfodi'r plant druen i ymddwyn felna yn groes i natur plant, a wyddoch chi, William, dyna'r plant sy'n troi allan waethaf o bawb rol mynd oddi- cartre ydi'r plant rheini sy wedi cael eu cadw danodd ormod pan adre. Y mynyd y mae nhw'n cael eu traed yn rhyddion maent fel pethe gwylltfon, ac yn rhedeg i bob math o ddrygioni." "Wnaiff yr un plentyn fydd wedi cael dyg- iad priodol i fyny, a chael esiampl dda gan ei rieni, byth droi allan yn ddrwg iawn. Mae genon ni yn y Beibil hanes llawer o blant yn dal dan demtasiyna ac yn eu concro, ond os edsychi di i hanes y plant rheini, roedd y rhan fwya ohonyn nhw yn blant pobol dduwiol." Pw! I Plant pobol ddiwiol ydi'r rhei gwaetha bob amser, yn y marn i. Dyna Cain hwnw fwrdrodd ei gefnder-toedd gyno fo ddim rieni da, sgwn i ? A dyna i chi'r llancia rheini. fuo'n tendio ffwrn ne rwbeth, yn rhwle 'ramser hono y buo nhw yn ffau'r llewod; a dyna i chi hen chap drwg arall oedd Solomon —-hen gena oedd o, a mi fasa yn y jel am ei oes tasa fo yn Nghymru yma rwan." "Rwyt ti yn cymysgu dy engreiphtiau Ys- grythyrol, Betsy, fel byddi di yn gneyd bob amser, ac rydw i'n methu'n lan a deall be wyt ti yn dreio brofi nag at be rwyt ti'n cyf- eirio." WeIa! Treio dangos i chi rydw i fod plant sy'n cael eu dwyn i fyny yn rhy strict yn troi allan yn rhei drwg bob amser. Tase tad Solomon wedi peidio bod yn rhy strict efo fo, a heb wrthod iddo gael ei gariad yn wraig, y ddynes ifanc hono o'r Aipht ne rwle o'r cwmpasoedd hyny, fase'r llanc druan ddim yn gwlltio fel y daru o, a diengyd oddicartre a dechre priodi merched yn mhob man, nes roedd gyno fo gannoedd o wragedd." Yr oedd yr engraiphx yma yn ormod i'r hen fla.enor-gwelai mai oferedd oedd siarad am ddim efo Betsy ond am rywbeth cartrefol, rywbeth oedd wrth law ac i'w weled bob dydd, oblegid nid oedd ei gwybodaeth, Ys- grythyrol hi ond niwliog iawn. Felly, cadw- odd yr hen frawd yn digon clir oddiwrth engreiphtiau Ysgrythyrol yn ystod y gweddill o'r ymddyddan rhag tynu Betsy yn ddyfnach i ddyryswch gyda duwinyddiaeth, ac aeth yn mlaen i geisio dangos iddi unwaieh yn rhagor ei bod hi drwy ei balchder yn rhoddi esiampl ddrwg iawn i Jerry. Byddai Betsy yn clywed y bregeth hon mor ami fel yr oedd wedi ei dysgu allan bron air yn air, a phan fyddai'r hen flaenor yn petruso ar ganol brawddeg, fel pe yn ofni bod yn rhy hallt, elai Betsy yn mlaen mewn dull lied wawdlyd i'w gynnorthwyo trwy adrodd wrtho weddill tyb- iedig y frawddeg, fel y byddys yn gwneyd gyda phlentyn fydd yn anghofio. ei adnod. Ond er mor ami y traddodai yr hen flaenor ei bregeth ar falchder ac uchder yspryd wrth Betsy, ychydig, os dim, effaith a gaffai-yr un oedd Betsy, wedi'r cwbl. Diwrnod gwrandawiad cynghaws yr ewyll- ys a ddaeth, ac aeth William Jones a Betsy i Ddolgellau, gan adael Jerry yn ngofal un o'r cymydogion am y diwrnod. Yn y llys, gwel- id Mrs Jones, Maeshyfryd, a'i merch, Jini, ac hefyd y brawd eyfoethog o'r America. Yr oeddynt yn ymddyddan yn ddystaw efo'u twmai pan ddaeth William a Betsy i fewn, ond oanfu Jini hwy yn dod, a thaflodd ed- rychiad herfeiddiol ar Betsy, a dychwelodd yr olaf yr edrychiad gyda llog. Fel bob amser yn hanes hen sir dawel, heddychlon Meiiionydd, ychydig iawn o drosedidau oedd i gael ymchwilio iddynt yn y frawdlys hon, a deuwyd yn fuan at y cynghawsau ereill, a chynghaws yr ewyllys oedd y cyntaf. Cyn iddo gael ei alw yn mlaen, galwodd twrnai William Jones ar yr hen flaenor o'r neilldu er cael yr ymgynghor- iad terfynol, a dywedodd ei fod yn methu'n lan a deall beth allasai fod prif sail y blaid arall dros haeru nad oedd grym yn yr ewyllys. "Mae arnaf ofn, oddiwrth ddull twmai Mrs Jones, fod ganddo rywbeth o'r golwg yn cael ei gadw hyd y foment olaf," ebai v eyf. reithiwr, "beth ydyw, nis gallaf ddyfalu, ac wrth gwrs nid oes genyf hawl i fyny cael ei wybod yn mlaen llaw. Os nad oes ganddo rywbeth heblaw y pethau wyf fi eisoes yn eu gwybod ni chawn y drafferth leiaf i'w goncro, a. bydd y gwrandawiad drosodd cyn pen yr awr a chwithau wedi gorchfygu." Ar hyn clywsant y cynghaws yn cael ei alw allan, ac aethant i'w lleoedd priodol yn y llys. Cyfododd dadleuydd Mrs Jones, ac mewn araeth nodedig o fer aeth yn gyflym drwy hanes yr ewyllys. Dangosodd fel yr oedd Griffith Jones, ar ol ymadawiad ei wraig oddiwrtho, wedi eael gwahoddiad i Dy'nclwt, ac yno, med'dlai'r dactleuydd, bu William Jones, ei frawd, yn pwyso arno i wneyd yr ewyllys yn hollol fel y cafodd ei gwneyd, sef gadael y ewbl or arian a'r eiddo iddo ef a Jeroboam ei fachgen. "Gallaf brofi," meddai, "fod dylanwad anheg wedi cael ei arfer er mwyn cael gan Griffith: Jones lwyr anwybyddu ei wraig, er ei fod wedi addaw wrthi pan briododd hi y gadawai efe iddi o'r hyn lleiaf gyfran ddligon helaeth o!'r eiddo i'w chadw yn gysurus am ei hoes pe buasai ef yn marw o'i blaen." Yna, aeth yn, iiilaen i alw Mrs Jones, Jini, ac ereill, yn dystion, y rhai a adrodd- asant yr holl hanes o'r dechreu i'r diwedd, gydag ami ychwanegiad anwireddus er ceisio dangos fod Griffith Jones bron o'i bwyll pan yrodd efe ei wraig o Maeshyfryd, ac fod William a Betsy yr adeg hono wedi dylan- wadu arno i wneyd yr ewyllys a g-idael pob- peth iddynt hwy a'u bachgen. vV ed eael tystiolaethau i'r perwyl uchod dywedodd dadleuydd Mrs Jones, "mae genyf un tyst eto. Gelwch William Jones," meddai wrth swyddogion y llys. Synwyd pawb wrrh weled dadl. uydd Mrs Griffith Jones yn galw ar yr hen flaenor i dystio o'i phlaid hi, a methid deall beth allasai ef ddyweyd o'i phlaid ac yn erbyn ei fachgen ei hun. Wrth gwrs yr oedd William wedi cael rhybudd gan dwrnai Mrs Jones y gelwid arno fel tyst, ond ni thybiiodd efe na'i dlwrnai am foment fod dim yn hyny. "Dyma'r tyst pAvysicaf o'r oil," ebai dad- leuydd Mrsi Jones wrth v barnwr ac aeth yn mlaen holi yr hen flaenor. "Yn awr, William Jones, y chwi yw tad y bachgen yma sydd, yn ol yr ewyllys, i gael holl arian eicli diweddar frawd, onide 1" Cofiodd iiiii-vw yn y llys, pan glywsant y dadleuydd yn dechreu holi yr hen flaenor i'r cyfeiriad yma, am y chwedl yn nghylch cyfatlirach honedig Betsy a Griffith Jones, ac edrychent ar eu gilydd yn awgrymiadol. "Ie, syr," atebai yr hen flaenor, "y fi yw ei dad." "Faint cedd oed y plentyn pan fedvid- iwyd ef ?" "Yr oedd yn fAvy na clave' mis." "Beth y galwasoch chwi ef ?" "Jeroboam, syr." "Nage, nage—deallwch fy nghwestiwn. Beth y gahvasoch chwi ef. Dyna wyf yn ofvn, ac nid beth v galwodd eich gwraig ef II" "Wel, syr," ebai'r hen flaenor, "yr oedd yno dipyn bach o gamgymeriad. Jehosaphat Jones oedd yr enw gafodd genym ar y cyntaf, ond y foment yr oedd yn cael ei fedyddio newidiodd fy ngwraig ei mheddwl yn nghylch 11