Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
ECLWYS LLANDDWYN
News
Cite
Share
ECLWYS LLANDDWYN Nid yn ami y ceir hanesion mwy dyddorol am yr hyn sydd bron wedi Ilwyr (Idi- flanu nag eglwys, monachlog, a, phlwyf Llanddwyn, neu a elwir yn briodol, Llanddwynwen. Gorynys ydyw, yn gor- wedd ar dde-orllewin Niwbwrcli, Mon, ac yn wynebu bau a thraetheil enbyd Caernarfon, heb fod nebpell o Abermenai a Belan, manau a warchodant enau Afon Menai yn ei chyfeiriad am dref Caernarfon. Dy- wedir fod hen Eglwys Llanddwyn, o'r hon nid oes ond y murcidynod uchod yn sefyll, un- waith yn adeilad hardd iawn, ac wedi ei chy- segru i Dwynwen, nawddsantes cariadon, tua'r flwyddyn 465, ac yr oedd y drysorfa. a gynnyrchid tirwy offrymau y lluaws cariadon a gyrfchent yno am nawdd y santes yn fawr iajvn ac, o'r diwedd, daetli yr eglwys yn fon- afehlog i frodyr o'r Urdd Benediciaidd, y rhai a fynegent i bersonau eu kinged, dyfodol trwy grychnaid pysgodyn ac ymddangosud dwfr rt'yimon, yr hon a elwir Ffvnnon Fair hyd heddyw. Yn amser Harri y Pedwerydd, yr oedd cyllid y crefydd-dy hwn yn fwy nag eiddo un arall yn Xgogledd Cymru, ac yn y cyfarchwyliadl a wnaed trwy orchymyn Harri yr Wythfed, yr ydoedd y brebenduriaeth gyf- oethocaf yn y Dywysogaeth, ond erbyn hyn., nid oes brin ddim o olion y fonachlog ardder- ehog hon ar gael, ac nis gwyddis i sicrwydd He y gorweddai. Priglor diweddaf plwyf Llanddwyn oedd Richard Kyffin, yr hwp. a fu wedi hyny yn Ddeon Bangor, ac a. adwaeind dan yr enw, "Y Deon Du." Dywed tra- ctdodiad y gellid ar un adeg deithio o Llan- faglan, sir Gaernarfon, ar draws lie y rhedi yn awr y Fenai d'rosodd i Landdwyn, ac fod tir- iogaeth eang a ordoir yn awr an y mur yn perthynu i blwyf Llanddwyn. Trigir y lie ar hyn o bryd gan nifer o pilots, v rhai, hefyd, syddl yn gofalu am oleudy gwerthfawr a. saif yn y fangre. Y mae dan ofal y bobl hyn warchodaeth bywydfad, yr hwn, trwy gynnorthwy pobl Niwhwrch, a achubodd lu- aws o forwyr mewn ystormydd ar far enbyd- us Caernarfon. Y mae i'r fangre lu o hanes- ion dyddorol, megis gwaith un o ferched Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, yn dianc o frenhindy ei thad yn Aberffraw i borthladd Llanddwyn er myned ymsith mewn Hong i briodi Gruffydd ab Rhys ab Tewder, Tywysog y Deheubarth, yn nechrtu y 12fed ganrif. Erbyn hyn, nid anmhriodol llefain uwchben Llanddwyn, "Ichabod, ei gogoniant a ymadawodd."
DYFYNIADAU 0 DDYDDLYFR aWRAIG…
News
Cite
Share
DYFYNIADAU 0 DDYDDLYFR aWRAIG IEUANC M _< Dydd Llun.—Crybwyll wrth Benjamin, bore,heddyw y byddai newid golygfa yn lies i ni ein dau. Yntayn ateb, ac yn dyweyd y byddai yn anmhosibl iddo ef adael y swyddfa ar hyn o bryd. Dydd Mawith.-Meiitro awgrymu mai lie iawn i dreulio'r gwyliau fyddai Llanarmon- yn-Ial. Yntau yn edrych yn anfoddog, ac yn dyweyd yn benderfynol nad oedd wiw siar- ad ar y pwnc ar hyn o bryd. Dydd Mercher.—Ysgrifenu at fy anwyl fami, i'w gwahodd i ymweled a ni, a dymuno ami anfon atebiad gyda'r telegraph. Dydd Ian.-Son dim am fyn'd i ffwrdd oddicartref, and dilyn Benjamin at ddrws y ffrynt, a rhoddi cusan serchog iddo wrth ym- adael. Dydd Gwener.—Derbyn cenadwri oddiwrth fy anwyl fami, yn dyweyd ei bod yn dyfod yr wychnos nesaf. Gadael y llythyr hwnw yn agored yn ystafell Benjamin. Dydd Sadwrn.—Benjamin yn dyweyd ei fod wedi llwyddo i drefnu pethau yn gyfleus i adael y swyddfa am yr wvthnos nesaf. Myn'd am drip i Lanarmon-yn-Ial yr wythnos nesaf.
. EISIEU EOLURHAD _.r
News
Cite
Share
EISIEU EOLURHAD _.r Yr ydym wedi cyrhaedd yma yn didyogel, wedi' taith faith a blinderus. Yr oedd y bwndeli wedi cyrhaedd o'n blaenau mewn cyflwr da ar y cyfan. Fe ddaeth y brys- negesydd hwnw a digonedd o eira, rhew, a chenllysg, mewn cyflwr da, ac mi ddaeth y storom yma dranoeth. Mae'n ddrwg genyf i'r taranau ffrwydro ar y ffordd, a gorfu i ni fras glvtio'r mellt goreu gallem. "Byddai yn wen i ti anfon y mor ar afon- ydd dros y gasinlas, oherwydd y mae yn llawer rhatach na'r rheilffyrdd; a phaid ag anghofio anfon i ni haul newydd, a chymaint o gymylau ag sydd bosibl. "Ond y peth mwyaf pwysig ydyw mor- gilfach, oherwydd y mae yr hen forgilfach wedi myn'd ar dan. Yna, mi fydd arnom eisieu ychydig latheni o fForestydd creigiog, a thua hanner can' llath o awyr las glir. Lapia,r cwbwl yn gryno hefo'u gilydd, ac anfon nhw yn ddioedi, da. di." Nage, nid wedi colli arno'i hun yr oedd anfonydd y llythyr hwn, ond arolygydd cWm- ni chwareuyddol ydyw, wedi colli rhai or golygfeydd mwyaf anhebgorol.
[No title]
News
Cite
Share
Er byw yn hir, y anae yn angeiirhekliol byw yn araf. Paid byth a siarad i dwyllo, na gwraiKlaw i fradyehu. Er gaNu byw yn dawol, fe ddylai un fod yn ddall, mud1, a byddiar. Ll,e y gwelir y cyndynrwydd penal, yno y imae yr anwybodaeth mii-yaf. Paid a, siarad am dy hapusrwydd wrth ddyn llai fi'odus na thi dy hun.