Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TRIOEPP DOETHINEB

News
Cite
Share

TRIOEPP DOETHINEB Tri pheth ni fawr brisier am danynt onid elo yn rhy hwyr cynghor car, rhybudd oed- ran, a barn cydwybod. Tri pheth hardd ar ddyn yn mhob lie, ac ar bob amser, ac yn mhob gradd a chyflwr, ac a enillant barch ar anrbydedd iddo car- edigrwydd, diwydrwydd, a gwybodau molian- nus. Tri argae doethineb gwirionedd, cariad, a phwyll. Tri pheth a gau yn erbyn doethineb celwydd, llid', a rhodres. Tri argae awen: gwybodau, haelioni, a diwydrwydd. Tri peth a gau yn erbyn awen diawgswrth o gamp, cybydd-dod, ac aaiwybodaeth. Tri chyfrwym gwybodaeth llythyr, dos- parth cvfiawn, a lies gwlad a chenedl. Tri ymglywed^doeth a deddfol: ymglywed a'r gwirionedd, ymglywed a'i serch, ac ym- glywed a'i nerth. Trii pheth a lanwant wagder: dadwrdd anghall yn mhen gwag, chwerthin anghall o galon wag, a llaid budreddus mewn ffynnon wag set doethineb a yr i maes y dadwrdd, a syberwyd cynneddfol a yr i maes iY chweirtbin, a dwfr gloywffrwd a yr i maes y llaid. Tri pheth a gaiff dyn trugarog cariad ei gymydogion, parch doethioii, a thrugaredd Duw. T'ri pheth a geir o hir ddilyn drwg cosp cyfraith ei wlad, ei gashau gan bawb, a digofaint Duw. Tri dyn y mae Duw yn eu caru cadarn cyflawn, dewr trugarog, a hael, diedifar. Tri dyn a fyddant naturiol i dri pheth inelinydd i ladrata, eglwyswr i ragrithio, a chlerwr i gelwyddu. Tri pheth a gaiff dyn dioddefus1: cariad a'i adnapo, ffyniant yn ei drafodion, a rhad Duw ar a wnelo. Tair dedwyddgamp gwr bod yn llawen yn ei dy, yn ddiwyd wrth ei orchwyl, ac yn ddyddiwr rhwng ei gymydogion. Tri pheth sy'n difetha'r byd: brenhin ffol heb gynghor, barnwr heb gyfiawnder, a gwas heb ufudd'-dod.

BEIBL MWY DYDDOROL

, GWERTHFAWREPP CEFFYL PREN…

ffALOGIAD NATUR.

TY STi OL AETH ODDIWRTH YR…

Advertising

WIL BACH O'R ,LLECHWEDD