Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YSTRYW Y MILWR

News
Cite
Share

YSTRYW Y MILWR Y mae yn drosedd difrifol i filwr Almaen- aidd ymddangos yn gyhoeddus heb ei wisg filwrol am dano. Yr oedd yr Is-gapten Dalberg, yr hwn oedd wedi ymgymeryd a chyflawni rhyw anturiaeth neu gilydd, wedi ymwisgo mewn gwisg gyffredin, ac yn myned oamgylch felly i fwynhau ei hun yn iawn am beth amser, ond wrth fyned heibio i gongl, yn annisgwyliadwy cyfarfyddodd a'i gapten. Ond ni chollodd yr is-gapten ei bresennoldeb meddwl. Yr oedd yn cymeryd arno na welodd erioed ei gapten o'r blaen, a chan newid ychydig ar ei lais, gofynodd, A allwch chwi, syr, ddyweyd wrthyf pa le mae yr Is-gapten Dalberg yn byw ? Yr ydw i yn frawd iddo wedi dyfod o'r wlad, ac yn myned i dalu ymweliad ag ef." Rhoddodd y capten iddo y cyfarwyddiadau angenrheidiol, a pbrysurodd yr isgapten adref i'w dy, a dododd ei wisg filwrol am dano yn ddioedi. Yr oedd ef yn meddwl ei fod wedi twyllo ei swyddog uwchraddol. Ond pan gwrddodd â'i gapten wedi hyny, dywed- odd yr olaf wrtho:— "Isgapten Dalberg, os digwydd i'ch brawd o'r wlad ddyfod yma i edrych am danoch eto, mi a'i rhoddaf mewn carchar caeth am ddeng Diwrnod ar hugain."

B»i r _EUlASBGamdbmm BARNWR…

Y BARDDONOL A'R YMARFEROL

ATEB PAROD YN ATEB Y DYBEN

Advertising