Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EISTEDDFOD CAERNARFON, 1821

News
Cite
Share

EISTEDDFOD CAERNARFON, 1821 AWDL AGORIAD DAFYDD DDU. Gymreigyddion lion yn Uu,—yn wiwlan, A welaf o'm deutu; Gofynaf a gaf yn gu, Genad yn awr i ganu. Eich annog, heb gas na chynen,-yr ydwyf, Wyr odiaeth, yn llawen I ddwyn ein iaith, hirfaith, hen, O'r anialwch a'r niwlen. Dal gwrol genedlgarwch—mae'n weddus, Mwyneiddiaf hyfrydwch, Dwyn trysawr, o'r llawr a'r llwch, I'r goleu o'r dirgelwch. Diau iawn-vyaith dywenydd Sydd yn agor dor y dydd, Cawsom, a gwelsom mewn gwir, Ber adeg yn ein brodir. Chwi oreugwyr, a iach rywogion, Coleddwch, noddwch, yr Awenyddion; A gweler, da argoelion,-ymgeisiau, Doniau a swyddau, ein cyd-oesyddion. Trwy ddyfal goledd rhinwedd yr heniaith, Llesol fawrddysg, iach hirddysg a cherdd- waith Goleuo'r genedl a gloyw wir ganwaith, Lledaenu-cu-ranu pob cywreinwaith Pob dyn yn derbyn ar daith-fuddioldeb, A da yr undeb ar ei dirion-daith. Ar fin dwr yn Arfon deg, Y cu nodwyd cain adeg. Golygwch, nodwch fawr nerth, Gaerau uchelfrig Iorwerth; Gelyn oedd, blin galon wr, Neu oesol gymwynaswr; Lies ac afles i gyflwr Ein gwlad oedd-neu galed wr; Canfyddwch, gwelwch, deg wyr, Ei dyrau is traed eryr. Ceir hanes, medd cywreinion, Alaethus, arswydus son; Dygodd, er galar digon, Nos i feirdd yn Ynys Fon, Diweddwyd y Prydyddion, Pob gwr mewn twr, y'min ton; Gresynus, dnvy groes anian, Gwel'd llyfrau'n bentyrau tan, Echrydus, och o'r adeg, Mawr fu tan y Morfa Teg; Du aethus oedd dwthwn, Blin yw cofio heno hwn. Llyw diglod mewn trafod trwch Oedd Iorwerth a'i ddyhirwch, (Niferoedd o hen furiau A gaiff o hyd ei goffhau) Tra cofir y Coeshir call Cofir esgar cyfrwysgall, Mewn cell yn ein castell cu, Ac yn hwn, er cynenu, Y ganwyd (e sygenir) Ei fab anarab, mae'n wir;- Ysigwyd tywysogion Hen Gymru oleugu Ion Cawsom les, er gormes gau, Gwareiddiodd hyn bob graddau; Ond er profi culni caeth Deuai i'n elw dynoliaeth. Os trwm a rhydrwm hir oedd Maleiswaith drwy ami oesoedd, Tirion trwy'r Seithfed Harri Y daeth yn hawdd nawdd i ni, 0 hil Owain, hael lywydd, Q Fon deg-cofiwn y dydd; Galwyd hwn yn hyglod hydd, Cawr-Paun Mon--Carw Penmynydd. Yn ei oes, 'nol garwloes gur, Y cawsom fwynhau cysur; Gwnaeth unblaid o ddwyblaid ddig, Bro'r tadau'n fwy breintiedig; A gwawriodd, drwy gywirwaith, Ryddid-heb newid ein Iaith Amlwg i'n golwg gwelwn Nod hardd y cyfnewid hwn, Ystyriwn na allwn ni Ragor na'i werthfawrogi. Dyg ein tad ein gwlad o galedi-hir, Herwydd ei ddaioni, Diau nad oes yn ein hoes ni, Mawrion yn gwneyd camwri. Ein car anwyl coronawg Llwydded—rheoled yrhawg, Poed war Sior y Pedwerydd, A thirion ddigon i'w ddydd, Yn uniawn dan eneiniad, Yn ol dydd ei anwyl dad; Ymwelodd ag ymylon Gwlad glodus ddifyrus Fon; Cerddodd, pan ddifyrodd Fon, Dir o eiddo'r Derwyddon, A bu yn rhwydd, lwydd dilys, Llawenydd drwy'r holl ynys E fu'r ynys fawr ennyd Braidd yn gerth goelcerth i gyd, Allor mawl a fu llawr Mon, Bro gwirfawl fu brig Arfon Boed ddiddiwedd hedd dda hwyl I'n brenhin a'n bro anwyl, Hir barhad o rad yr Ion I'n Sioriaid, yn oes wyrion; Nodded Nef i'n Seneddwyr, A'n Lluyddog enwog wyr A'r Eglwys fo'n arogli Yn ber yn ein hamser ni; Daioni ar hyd einioes In' a ddel, a newydd oes; Bellach pa'nd cywirach can, Na fo lesg un felusgan, Difyrus yw adferiad Hen arferion glewion gwlad. Hir amser 'nol bore'r byd Y gwawriodd oes Blegwryd, Hwn a alwyd anwylwych Ben y Gerdd, bu enwog wych Neud mad adnoddiad i ni, A ddodwyd oesoedd wedi, Diwygiad y flodeugerdd, Trefn mesurau, cangau cerdd; Diwegi fu'r diwygiad Gan glodydd lywydd ei wlad Ond prudd ro'i Gruffydd mewn gro, Cynan oedd,-canwn iddo, A. chanwn yn wych unwaith Glod yn hyf i'n gwlad a'n iaith. Aed adlais ysgafn-llais dros gefnlli, Drwodd i Fon—bro'r Derwydd feini, Treiddied, cyrhaedded, bob cwr iddi, Croyw Beroriaeth uwch crib Eryri, Nes agor rhagor a rhywiogi Trem oer Idris—er tra mawrhydri. Dwysfrydedd, rhinwedd fo'n gorhoeni Gwellineb, gloywineb, a goleuni, Pob rhvw foesol dynol ddaioni Fyddo'n goresgyn gwyn drygioni, Tro ofer yn ein trefi-na weler, Yn fwy diwygier anfad wegi. Lie bo gwen a llawenydd Mwynach cyfeillach a fydd, Tymhor dibech ac iechyd, Heddychlon ar foddlon fyd; Clybuwyd—synwyd wrth son, Gelwydd ac ofergoelion, I'r decaf Eurydeccen, Oedd anwylferch wiwferch wan, Gael ei dwyn, goleu doniol, 0 gethern uff ern yn ol, Trwy waith cerddor rhagorawl, Pan ganodd-diengodd diawl; Tybir, medd rhai'n atebawl, Y dichon emvnion mawl Dynu cenad o wiwnef, Neu ddenu'n uwch ddyn i nef, Codi'r meddwl dwl, diles, At nefoedd—nefoedd yn nes; Neud troi naws ein natur ni Yn felus, a'i nefoli, Tori enllib taranllyd Allan yn gyfan i gyd, 'Nol agor gogleisio'r glust, Cyffroi a di gloi dwyglust; Persain, feinsain gyfansawdd Y galon dirion a dawdd; Ceir ystwyth sain y crasdant A'r lleddf fal y dileddf dant, Cydgerdd, anghydgerdd ynghyd, A foddia'r ber gelfyddyd; Mae'n ymuno mewn mwyniant Bob iaith hen—ami bib a thant, Tafod, dull hynod, a llaw, Ac anadl yn meginaw, Deilliodd pur fesur o fawl 0 Iro anian wiw freiniawl, Chwaer Awen wych oreuwaith Yw plethedig Fiwsig faith, Traidd trwyddi yn rhedli rhydd Amryw win-mer awenydd. Ami odidog yw mel wawdiadau, Cysonedig, syw eu seiniadau Plethedig—donedig dyniadau Purant a chodant ein serchiadau, Enynant fywiol, nodol nwydau, Newidiant oeraidd, marwaidd dymherau. Pob rhyw fwynber offeryn At dynu-denu serch dyn, Y tawlgorn a'r bibgorn ber, Nabyl, a thelyn wiwber, Pob eurgerdd bibau organ Sy'n llenwi rhagori'r gan, Cawn addysg, dawn cynnyddawl, Athrawon mwynion y mawl, Ceir Handel mewn cywreindeb, Mwynach enwocacli na neb Pursel oedd awdur persain, Wrth reol cysonol sain Cerddor per yw'r aderyn Wrth ganu mae'n dysgu dyn, I foli'n iawn o flaen neb Yr un Duw llawn tiriondeb. Wel bellach mewn lioywach hwyl, Dirionwyoh frodyr anwyl, Cenwch eich gwaith mewn cynnydd, A mwynlan diddan fo'r dydd; Minnau'n hen mewn anhunedd, Yma'n byw yn min y bedd, Gwyro mae fy moel goryn At lawr gallt dan y gwallt gwyn Daw ereill Feirdd awdurol Yn fuan—fuan ar f'ol: Delom uwch cur, lafur loes, I'r lan anfarwol einioes, I gyhoeddi'n dragywyddawl Glod lor o fewn goror gwawl; Trwy ffydd gre'—bid lie llawen X chwi ac i mi, Amen.