Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOGYN

News
Cite
Share

ni'n dwad allan ac roedd hyny'n ddigon gen i." Mi dreis ei gysuro fo dipin efo'r breudd- wyd yma, drw ddangos mai arwydd oedd o y caem ni'n gwaredu o'r hen ogo hono yn reit fuan. Ond run pryd ro'n i'n cofio clowad modryb yn deud mai croes fydda petha yn dwad rol breuddwyd bob amser, a toeddwn i ddim yn leicio fod Bob wedi gweld drain a mieri yn ei freuddwyd chwaith, achos mi glowis modryb yn deud mai peth anlwcus ofnadwy ydi breuddwydio gweld drain. "Weldi, Bob," ebrwn wrtho, rydan ni'n siwr o gael ein gwaredu o'r trap yma rydan ni wedi ayrthio iddo fo." Trap oedd o hefyd, ynte, ac aur fel abwyd. Mae modryb yn credu'n ofnadwy miawn breuddwydion," ebra Bob; mae hi'n meddwl ei bod hi'n fwy crefyddol ne rhw- bath wrth gredu petha felna. Mi fydd yn breuddwydio rhwbath bob nos dest iawn, a wedyn, yn y bora, dyna lie bydd hi'n mynd o gwmpas i'r tai nesa i ddeud yr hanas, ac i ddeongli y breuddwydion. Weithia mi fydd wedi breuddwydio gweld cynhebrwng rhwun no gilidd, ac yn y bora mi fydd yn ei heglu i dai y rheini—nenwedig os hen ferchaid ne wragedd gweddwon eisio gwyr fyddan nhw- i ddeud ei bod hi wedi breuddwydio y noson gynt eu gweld nhw yn cael eu claddu, a thrw mai croes i betha ydi breuddwyd, dyna lie bydd yno spri fawr—te a thost a phetha felly -ar gorn breuddwyd modryb, achos y bydd breuddwyd am gynhebrwng yn arwyddo pri- iodas, wyddost, a phob un o'r merchaidrheini eisio priodi. Peth rhyfadd iawn mai gweld cynhebrwng y bydd modryb miawn naw o bob deg o'i breuddwydion, a fydd hi bythyn gweld cynhebrwng dynas y bydd ei gwr hi'n fyw—dim ond cynhebrwng gwragedd gwedd- won a hen ferchaid, fel hi ei hun, sy'n barod i reibio rhw fath o gradur dynol yn gwisgo clos. Mae modryb wedi dwad yn boblogedd ddychrynllyd efo'i breuddwydion yn Mhwll- heli: os bydd ar rwun eisio rhwba-th ofnad- wy las, raid iddyn nhw ddim ond deud hyny wrtli modryb, a wedyn mi fydd hitha'n gicir o freuddwydio yn nghylch y peth-a dyna fo wedyn, mae o yn sicir o ddigwdd rol i modryb ei weld o miawn breuddwyd." "Peth rhyfadd na fasa pobol Pwllheli yn cadw dy fodryb miawn rhw fath o blasdy a-r ei phen ei hmo. i neyd dim byd ond breu- ddwydio petha. da i ddigwdd iddyn nhw. Mi fasa'n talu yn iawn i'r Town Council neyd trtth er mwyn ei chadw hi i fod yn Ben IBreuddwydiwr y dre, run fath a Josaff yn Jerico ne'r Aipht ne rwla." la, ond mae modryb yn codi treth go dda arnyn nhw yn barod; hyny ydi, ar yr hen ferchaid a'r gwragedd gweddwon sy eisio rfwvr drw ei bod hi'n cael boliad o de ar eu o cost nhw bob tro y bydd hi wedi breudd- wydio, ac mae hi'n gyfalu breuddwydio bob nos, weithia ddwywaith ne daii run noson." "Fydd hi'n gweld llawar o wragadd gweddwon yn cael eu claddu yn ei breudd- wydion ?" "Yr argen fawr, bydd! Rhei ofnadwy ydi gwragadd gweddwon am garu, wyddost. Mae nhw'n waeth, os yr un, na hen ferchaid, achos mae nhw wedi cael bias ar y busnes, a toes dim byd neiff eu rhwstro nhw rhag bachu rhw gradur o ddyn ein pen chydig wedi i'w gwyr cynta nhw gael eu planu yn y ddeuar. Mi fydd rhei ohonyn nhw wedi gneyd cytundeb i gyfarfod rhw wr gweddw ne lane ifanc yn y fan a'r fan y noson a'r noson, a hyny cin dwad o'r fonwent o gynhebrwng eu gwr cynta." Bob," ebrwn wrtho, mae rhwbath yn deud wrtha i mai nid croes y mae deongli dy freuddwyd di, weldi, fel rhei dy fodryb, ond yn inion fel rwyt ti wedi ei freuddwydio fo. Felly, rydan ni i gael mynd o'r hen ogo yma yn fyw, wedi'r cwbwl. Ond ffordd yr awn ni ? Dyna'r cwestiwn." "la, dyna'r cwestiwn." "Wel, tyrd i ni chwilio'r ogo yma yn iawn. Tydan ni ddim wedi gneyd hyny eto, wydd- ost, achos pan ddaru ni ffendio y bocsiad aur yna mi ddaru ti a fina anghofio pobpeth arall blaw yr aur." Felly, roedd hi hefyd. Roedd yr aur wedi tynu gormod o'n sylw ni fel na ddaru Bob na fina ddim sylwi fod twll miawn un gornel o'r ogo, a hwnw'n ddigon mawr i ddyn fedru mynd drwyddo fo. Toedd y twll ddim i'w weld chwaith heb fynd reit i'w ymyl o, achos toedd canwll ddima ddim yn ddigon i leuo yr holl ogo fawr hono fel y gallsech chi weld pob oomal olioni hi ar un olwg. Ond rol mynd o gwmpas ei hochra a spio yn reit ofalus mi ddeuthon ar draws y twll rydw i'n son am dano fo, a mi benderfynodd Bob a fina fynd ar hyd-ddo cin belled ag roedd o yn mynd. Job ofnadwy oedd hi. Roedd rhen dwll, ne'r twnel, hwnw, mor gul miawn amball i gwr fel roedd yn rhaid i Bob a fina wyro ein pena wrth fynd drwodd, ac roedd ogle clos drewllyd yno fo, ogle pridd, run fath ogle ag fydd miawn bedd faswn i yn meddwl. Rol cerdded am wn i ddim faint o amsar— nes roeddan ni wedi blino, drw'n bod ni yn gorfod mynd mor slo,—dyma'r twll yn mynd yn llai a nina yn gorfod cerddad ar ein traed a'n dwylo, ond toe dyma ni'n gweld gole dydd Diolch am hyny. "Rhyddid i'r carcharorion caeth," fel bydda modryb yn deud wrth son am y diwigiad ys talwm. "Dyma ni'n ,mhen draw y twll, Bob," ebrwn wrth fy lifftenant yn y mynyd. Sgwn i lie rydan ni rwan. Yn mhwy barfc o'r byd y glania ni, tybad, os yn y byd yma rydan ni o gwbwl. Hwrach bod ni wedi mynd drw ganol y ddeuar reit i China," ebra Bob yn ddiniwed. Taw, ffwl; nid yn Aberdaron rydan ni rwan, cofia." Gida hyny dyma ni'n cripio allan i'r awyr agored. Roedd ceg y twll yn fychan ofnad- wy, dest ddigon i hogyn o fy maint i lusgo drwyddo fo. Ac roedd ceg y twll yn agor i le pantiog yn nghanol tipin o goed; toedd dim posib gweld ceg y twll oddiallan, achos fod drain a mieri wedi tyfu yn dew o'i gwm- pas, a mi gafodd Bob a fina grafu ein dwylo a'n gwneba wrth wthio allan drwyddyn nhw. "Weldi, Bob,' ebrwn wrtho, dyma'r drain a'r mieri welis di yn dy freuddwyd." Rol mynd allan i'r awyr iach, a dringo o'r pant dreiniog hwnw i'r cae oedd o'i gwmpas, y peth cynta neuthon ni oedd ei heglu am dy ffarm oedd gwmpas lied pedwar ne bump a geua oddyno, a gofyn am fwyd. "0 ble deuthoch chi, hogia ?" ebra gwraig y ty, "ble cawsoch chi'r holl bridd yna ar eich dillad 1" "Dau hogyn o Borthmadog ydan ni," ebrwn i wrthi. "Dau frawd ydan ni, yn mynd i Bwllheli i chwilio am nhad." Mi gawson bryd iawn o fwyd yn y ty hwnw, ac rol mynd allan dyma Bob a fina yn penderfynu iddo fo fynd i Bwllheli y noson hono. Roedd o i beidio dangos ei hun i neb yn y dre dim ond mynd yno ar y slei i dreio gwbod be oedd pobol yn ddeud yn ein cyleh ni, a gwrando lie roeddan nhw'n meddwl ei fod o a fina wedi mynd. Wedyn roedd o i ddwad yn ei ol. Tra bydda Bob yn Mhwllheli ro'n in a i fynd i Griccieth i brynu stoc o fwyd, a dwad a fo i'r ogo erbyn y bydda Bob wedi dwad yn ei ol o Bwllheli. Felly fuo. Ron i wedi cyredd yr ogo yn f'ol yn mhell o flaen Bob, a digon o stoc o fwyd a diod gen i dan y Sadwin ne'r Sul. Yn mhen oria wedi i mi ddwad o Griccieth i'r ogo dyma Bob yno, wedi blino. "Be mae nhw'n ddeud yn Mhwllheli, Bob V ebrwn wrtho. Deud Mae y lie yn ferw gwyllt. Dau hogyn ar goll Y ddau wedi boddi. Dim siawns dwad o hyd i'w cyrph nhw byth Dyna'r stori sy'n cael ei deud yno. Mae'r criw hogia oedd efo ni wedi gneyd y stori yno eu bod nhw wedi dy weld di a fina yn mynd allan yn rhy bell i'r mor i dreio tynu casgen rum i'r lan, a'u bod nhw wedi'n gweld ni'n dau yn cael ein sgubo allan gin y Ilanw ac yn boddi reit yn eu golwg nhw i gid, a reit siwr fod ein cyrph ni bellach tia glana sir Benfro. Mae yma griwia o bobol yn dwad i chwilio y glana yma o Bwll- heli i Borthmadog foru i edrach fedra nhw