Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOGYN

News
Cite
Share

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr hyn fu llawer ohonom. PENNOD XXX. DEOHREU'R DIWEDD. DARUM mi rioed ddy- chryn cymint a phan welis i Bob wedi syrthio ar lawr yr ogo mewn fat. Toeddwn i ddim wedi gweld neb rioed o'r blaen miawn flit, a felly wyddwn i ddim ar y ddeuar be oedd y matar ar yr hogyn. Mi ddechris ofni fod tipin o wir yn fy rnreudd- wydi, wedi'r cwbwl, acmai nid breuddwyd oedd o i gid, ond fod yn rhaid fod rhwun wedi seuthu Bob yn ddistaw bach heb i mi wbod. Ond wrtli studio uwch ei ben o mi gofis nad o'n i ddim wedi clowad twrw ergid, a felly rhaid nad oedd Bob ddim wedi cael ei seuthu, beth bynag. "Diawst i," ebrwn wrthaf f'hun, yn fy ffwdan yn metliu gwbod be ora i'w neyd, tybad mai wedi cael ei sticio mae o yn slei heb i mi wel'd ?" Rhag ofn mai felly roedd hi mi ddechris dynu ei ddillad oddam dano gael i mi weld a oedd olion cyllell ne gledda yn rhwle ar ei groen o. Ond fedrwn i weld olion dim blaw tipin o gleisia tia'r pen gorllewinol iddo fo, lie roedd gwialen fedw rhen ferch, ei fodryb wedi cael effaith. Wyr hen ferchaid ddim sut i drin plant, nenwedig hogia goleuedig run fath a Bob. Hen dacla melldigedig ydi hen ferchaid; tydyn nhw'n dda i ddim ond i'w bwrw miawn tan a'u llosgi fel man us yr hwn a chwal y gwynt ymeth. Hen grancs syspisios, drwg, pigog, croes ydyn nhw; fedar neb eu plesio a mae'n bechod gadel i blant neb fynd o dan ddwylo hen ferchaid-be wyddan nhw am blant. Mae ambell hen ferch yn ymddwyn at blant run fath a thasa arthes wyllt o'r coed yn treio magu ciw iar. Ond fehia roedd hi—toedd dim olion twca na chledda ar Bob, dim ond olion gwialen fedw yr hen arthas oedd gyno fo yn fodryb. Wrth ddaffod ei ddillad mi gafodd yr awal OCr ne rhwbath effaith arno fo, a tlioc mi ddaeth o'r Hit, a mi fendiodd yn no lew, yli ddigon da i godi ar ei eista, rhwbio ei lygid ac edrach o'i gwmpas gan ddechra crio hyny fedra fo. "Bob bach," ebrwn wrtho, "taw crio felna, nid dy fodryb ydw i; toes gen i ddim gwial- an fedw i dy guro di, a faswn i ddim yn dy guro tasa gen i un. Cod, was, mi ddaw rhwun i chwilio am danon ni toe, hwrach, rol iddyn nhw yn Mhwllheli ffendio'n bod ni ar goll." "Pwy ff enditli ein colli ni, Wil?" ebra fo, "toes neb neiff ffendio ngholli fi, beth bynag. Hwracli y basa'n dda gin modryb taswn i wedi colli am byth. Ond am danat ti, mae gen ti berthnasa ddaw i chwilio am danat ti i bob cwr o'r byd pan ffendia nhw dy fod di wedi mynd ar goll. Pwy ydw i-tydw i yn neb, dim ond ar fFordd pobol, a mi fasa'il dda gynynnhw taswn i wedi marw a. mynd oddar eu ffordd nhw am byth." A dyma Bob druan yn ail ddechra crio wed'yn, ond mi steddis i yn ei ymyl o, ar lawr yr ogo, a mi rois ei ben i bwyso ar fy mrest. Taw, Bob bach," ebrwn wrtho, os nad oes neb yn malio dim ynot ti rydw i, weldi, a mi sticia i wrthat ti o hyd; cheiff neb neyd dim harm i ti tra bydda i a'r bocs- iad aur yna yn rhwle ar dir y rhai byw, fel bydda modryb yn deyd." Toe mi fedris berswadio Bob i beidio crio. Hon i yn teimlo yn nes ato fo o'r hanar rwsut rol iddo ddechra crio felna, a deud ei gwyn wrtha i; roedd yn well gin i am dano fo nag am Bob hogyn modryb Llanfarfechan-hen lo dwl, gwirion oedd hwnw. Ond chawn ni byth fynd o'r hen ogo yma, Wil ?" ebra fo. 0 cawn, rwsut ne gilidd," ebrwn ina, er na wyddwn i ar y ddeuar ffordd y basa ni'n medru myn'd; achos, os ydach chi'n cofio, roedd y bobol fuo yn y lie yn cario'r gwds o'r mor i fyny i geg yr ogo tra roedd Bob a fina yn cysgu y tu fiawii wedi cau i fyny geg yr ogo fel nad oedd dim posib i neb fynd allan nes basa'r gwds rheini wedi cael eu symud, ac roedd y plismon hwnw wedi deud wrth y llall yn nrws yr ogo mai tia dydd Sadwrn y basa trolia yn dwad yno i nol y gwds. A toedd hi radag yma yn ddim ond dydd Mawrth. Lwc owt wael oedd i ni fedru mynd o'r ogo felly, ynte, nes basa ni wedi llwgu i farwolaeth, a dyna fasa ni yn neyd liefyd yn reit siwr os na basa rhwun yn dwad yno i chwilio am dano ni cin hyny ne i symud y gwds oddar y plancia oedd yn cau drws yr, ogo i fyny. Toedd gynon ni ddim bwyd efo ni yn yr ogo, na dim diod; dim ond pedair ne bump o ganwylle ar gyfar y lanter oeddan ni wedi ddwad yno efo ni. Ond yn reit siwr mi fasa'r hogia erill, y rhei oedd wedi mynd yn eu hola i Bwllheli, yn siwr o ddeud ein lianas ni, or, rol i mi gofio, toedd run sowl ohonyn nhw yn gwbod dim am yr ogo du- fewnol yma lie roedd Bob a fina wedi cael ein cau i fiawn yn ddanlweiniol-toedd neb oedd yn fyw yn y byd yma yn gwbod am dani blaw Bob a fina, ne fasa'r bocsiad aur hwnw ddim wedi ei adel yni, gellwch fod yn sicir. Blaw hyny—a dyna beth arall oedd yn gneyd i mi ddychryn yn ofnadwy—welodd run o'r hogia mo Bob na fina yn mynd i'r ogo, a fedra run ohonyn nhw byth roid yr eidia leia i neb yn Bwllheli i ble roeddan ni'n dau wedi mynd, achos sut y medran nhw, ynte ? a nhwtha heb ein gweld ni yn slipio i fiawn i'r ogo bella, na'r un ohonyn nhw hyd yn nod yn gwbod fod y fath ogo miawn bod, hyny ydi yn ddim pellach na'r plancia rheini, achos at y plancia y deuthon nhw bella a wydda'r run ohonyn nhw ddim fod yr ogo yn cyredd yn mhellach na hyny. Felly, pan fydda pobol Pwllheli yn eu holi nhw pie roedd Bob a fina y cwbwl fedran nhw ddeud fydda eu bod nhw wedi'n gweld ni yn y twll hwnw dan dorlan glan y mor, ao mai dyna'r tro ola iddyn nhw'u gweld ni. Wrth gwrs, roedd rhwun wedi bod yn peilio tair neu bedair tunell o gwds o'r mor i fyny yn y twll o dan y dorian yn erbyn y plancia oedd yn cau ceg yr ogo, ond fasa dim posib i'r sawl wnaeth hyny weld y plancia achos ei bod yn rhy dywyll yn y fan hono. Y cwbwl oeddan nhw'n feddwl oedd mai twll o dan y dorian oedd o, a dim arall, a fedra neb ohonyn nhw feddwl fod yno ogo yn cyredd reit i berfedd y ddeuar, a bod Bob a fina y tu fiawn iddi hi. Toedd meddylia fel hyn ddim yn blesant o gwbwl i mi, achos ron i yn gweld nad oedd dim posib i neb ddwad o hyd i ni tan y Sad1 wrn o leia, os byth, ac mi fydda Bob a fina wedi llwgu i farwolaeth ein hyny. Mi fasa'r bobol, rol clowad stori'r hogia, yn meddwl yn naturiol mai wedi boddi y basa Bob a fina, a felly fasa neb yn meddwl dwad o hyd i ddim blaw ein cyrph ni yn cnocio yn erbyn glana bau Aberteifi yn rhwle. Ond er fod petha cas fel hyn yn dwad i fy meddwl, toeddwn i ddim am ddangos hyny i Bob rhag iddo fo dori ei galon fwy nag o'r blaen. Felly mi dreis chwertkin tipin pan orphenodd o grio, a'i alw fo yn fabi mawr yn crio am ddim, er nad o'n ina ddim yn bell iawn o grio hefyd.; Bob," ebrwn wrtho, "cod dy galon, was; ini gawn fynd o'r hen ogo yma toe." "Wyddost ti be, Wil," ebra fo, "rydw i wedi gweld rhwbeth od ofnadwy miawn breuddwyd ne rhwbath tra ron i yn y ffit yna. Ron i'n d'weld di a fina yn dwad allan o'r hen ogo yma ond nid drw'r un ffordd ag y deuthon ni i fiawn. Roeddan ni'n dwad allan drw rw ffordd arall, drw ganol drain a mieri, os ydw i'n cofio yn iawn tydw i ddim wedi deffro'n iawn o'r flit yna eto, rwsut, a fedra i ddim deud wrthat ti yn gysact sut Ie ul ii i yn ei weld o; ond sut bynag roeddan