Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

El MAWRHYDI Y FRENHINES ,I

News
Cite
Share

El MAWRHYDI Y FRENHINES I KteayELE uchod ddarlun pur dda o WMB Victoria Alexandrina, Brenhines IBM Prydain Fawr a'r Werddon ac Ymherodres India. Ganwyd hi yn Mhalas Kensington Mai 24ain, 1819. Hi ydyw unig blentyn y diweddar Ddue Kent, trydydd mab Sior III. Pan fu farw ei thad, nid ydoedd ond naw mis oed. Dygwyd hi i fyny gau ei mam a'r Duces Northumberland. Ar farwolaeth ei hewythr, William IV., esgyn- cdd i'r orsedd, achoronwydhiynMynachlog Westminster, Mehefin 28ain, 1838. Yn Chwefror, 1840, priododd y Tywysog Albert; a buont yn ol pob, hanes. yn bur ddedwydd hyd ei farwolaeth ef yn 1861. Yn 1877, cyhoedd-fynegwyd gyda rhwysg yn Dinas Delhi ei bod wedi mabwysiadu y teitl o Ymherodres India. Cyn ei phriodas, gwnaed mwy nag un cais beiddgar i'w brad-lofruddio gan edmygwyr gwallgof. Yn 1869, cyhoedd. odd ddyfyniadau o'i dyddiadur yn gosod allan hanes am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Balmoral yn nghwmni ei phriod a' phlant. Er's blynyddau maith bellach, y mae'r Frenhines wedi byw mewn neillduedd cymhariaethol; ond ar ol dathliad ei jiwbili boddlonodd i wynebu mwy o gyhoeddus- rwydd. Ymwelodd a Chymru yn 1889, gan wnoyd ei chartref yn Pale, Edeyrnion. Nid oedd wedi bod yn Ngwlad y Bryniau o'r blaen er's pan yr ymwel- odd tra yn eneth ieuanc ag Eisteddfod Beaumaris.