Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CORNEST SYR HYWEL AP RHYS

News
Cite
Share

CORNEST SYR HYWEL AP RHYS jK^BEiN Nghors y Wlad, yn mhlwyf PbbPI Fawr yn Arfon, yn nydd- iau Siarl y Cyntaf, pan oedd gwrthryfel yn ei rwysg, bywyd a medd- annau mewn enbydrwydd beunydd, a'r gyfraith yn edrych gyda gradd o ddibrisdod arnynt; yr oedd yn trigo hen farwn o'r enw Syr Hywel ap ltliys. Hen wr plaen, di- rodres, tawel, caredig, ond eto hynod ben- derfynol yn ei ffordd. Edrychai ar yr olwg allanol na fuasai dim bvth yn ei gynhyrfu i beri niwed i neb, ond i'r rhai oedd yn gyn- nefin ag ef gwyddant mai gwae i'r neb a elai dros ben terfynau ei dyniher. Yr oedd gan Syr Hywel ferch hynod o brydferth o'r enw Morfudd, yr hon oher- wydd ei phrydferthwch a'r ffaith ei bod yn unig blentyn ag aeres Syr Hywel, yr hwn oedd yn berchen eiddo gryn dipyn, oedd yn wrthddrvcli edmygedd amryw o wyr ieuaine yn y fro, a dyfal oedd y ceisiadau am ei Haw. Un o'r rhai mwvaf dyfal oedd un or enw Harry Jeffries, gwr ieuanc o Sais a ddaerthai" i'r gymydogaeth gyda'i dad rai blynyddoedd yn flaenorol, ac a brynasai Brodawel, palas- dy a thiroedd eang v pryd hyny yn y gymyd- ogaeth. Xis gwyddai neb ddim o'i hanes oddigcrth ei enw, a'i fod yn Babydd selog ao yn wrthwynebydd anghymmodlawn i Senedd Cromwell, a thybid yn gyffredin ei fod yn berchen cryn dipyn o eiddo. Un noswaith oddeutu gwyliau Nadolig, yr oedd Syr Hywel a Morfudd yn eistedd gar- tref o flaen tan coed mewn ystafell eang, yr hon a addurnid a hen gleddyfau ac amrywiol arfau rhyfel ereill perthynol i'r oesoedd blaenorol, yn nghydag ambell i ben carw wedi ei stwflio a gwellt. Yn sydvn daeth Harry Jeffries i mewn, a hyny heb neb yn ei ddisgwyl. Ond nid oedd ei groesaw yn llai er hyny; yr oedd Syr Hywel a'i ferch yn nodedig am eu llety- garwch, a byddai creosaw bob amser i bwy bynag a droai i mewn, pa un bynag ai car ai cas fyddai yr ymwelydd. Ac er nad oedd Harry Jeffries yn ymwelydd derbyniol iawn gan Syr Hywel na'i ferch, eto caffai yntau groesaw. Amcan ei ddyfodiad i'r Gors y tro hwn oedd ceisio atebiad terfynol i'w gais am law Morfudd; yr oedd yn meddwl ei bod yn hen bryd iddo bellach gael gwraig. Yr oedd ganddo un neu dwy mewn golwg, ond rhyw- fodd yr oedd prvdferthwch a chyfoeth Mor- fudd yn peri iddo edrych heibio i'r rhai hyny a myned i Gors y Wlad. Ond yr oedd wedi gwneyd IIw nad elai yno ar ol y tro hwn, yr oedd yn blino cael ei wrthod bob tro, heblaw y gallai golli ei siawns am leoedd ereill. Gwyddai Syr Hywel a Morfudd amcan ei ymweliad, yr oeddynt yn hen gynnefin ag ef bellach, ac nid oeddynt yn synu dim at ei ymweliad nosawl. Ond er iddo gael croesaw teilwng o Gors y Wlad, eto derbyniad lied oeraidd a gaffai bob tro y llwyddai i godi y cwestiwn o garwriaeth i fyny, megis ar ddamwain. Ond o'r diwedd wedi blino curo twmpathau, troes ei ymddyddan i gyfeiriad mwy uniongyrchol: a gofynodd yn bur hyf a oedd i gael atebiad ffurfiol i'w gais am law Morfudd ai peidio, gan roddi ar ddeall i Syr Hywel a'i ferch y byddai yn ystyried y tro hwn yn derfynol. Ond ateb cryf a phen- derfynol Morfudd, yn cael ei chefnogi gan Syr Hywel, oedd na fyddai dim a wnelai hi ag ef ar gyfrif yn y byd, a'u bod hwythau yn ystyried yr ateb hwn yn derfynol i bob cais o'i eiddo. No case, abuse your rival's attorney," medd yr hen air. Felly yn uniawn y teimlai Harry Jeffries yn awr. Wedi gweled fod ei achos wedi darfod, trodd i ddifrio Morfudd yn y modd mwyaf sarhaus, gan roddi iddi bob enwau, a dod a phob edliwiadau bryntach na'u gilydd yn ei herbyn, i ba rai nid oedd ganddo y sail leiaf. Yr oedd Syr Hywel wedi dangos ei groesaw a'i sirioldeb arferol i Harry Jeffries hyd yn hyn; ond pan aeth y gwr hwnw i sarhau ei unig ferch, yr oedd yn cyffwrdd a man gwanaf ei dyniher, ac nid gwr i ysmalio ag cl ef oedd Syr Hywel wedi hyny. Cododd yn sydyn ac agorodd y drws, a gorchymynodd i Harry Jeffries adael y ty y foment hono, a pheidio rhoddi ei droed yno hyth wedi hyny. Yntau yn gweled ei bod wedi darfod arno bellach yn y Gors, a gododd ac a aeth allan ond pan yn pasio Syr Hywel tvnodd ei faneg o'i logell, tynodd hi ar draws gwyneb Syr Hywel, ac yna taflodd hi at ei draed, gan ddywedyd, Cawn gyfarfod eto, Syr Hywel, i setlo y mater yma." O'r goreu," ebai Syr Hywel, gwnewch eich trefniadau;" a chododd y faneg i fyny a dododd hi yn ei boced. Gwyddai Syr Hywel, a gwyddai Morfudd ystyr hyn. Gwyddai y ddau yn eithaf da mor gynnefin oedd Harry Jeffries ag ymladd gornest&u. Yr oedd wedi herio dau fywyd yn flaenorol, ac wedi dod allan yn fuddugol- iaethus. Teimlai Morfudd yn bur gyffrous wrth feddwl am ei thad fyned i gyfarfod y fath un i ymladd am ei fywyd; rhuthrai ei meddwl i bob cyfeiriad heb reol na threfn, weithiau i'r gorphenol, y dyfodol, a'r pre, sennol, ond lie bynag yr elont ystor o anghysur oedd ynddynt ar ei chyfer. Ond am Syr Hywel, yr oedd ef yn ber- ffaith dawel. Siaradai yn rliydd a siriol gyda'i ferch, heb ymddangos o gwbl yn teimlo nac yn meddwl dim am yr hyn oedd i gymeryd lie. Yn gynnar boreu dranoeth yr oedd Dafydd Rhydderch, hen hwsmon Syr Hywel, yn Brodawel, a'i neges oedd hysbysu Harry Jeffries y byddai Syr Hywel yn barod i'w gyfarfod y boreu dilynol am bump o'r gloch, mewn llecyn neillduedig yn nghoed- wig y Mynachdy, gyda dau gleddyf, ac am iddo yntau drefnu ei eilydd i fod gydag ef yno erbyn yr amser penodol. Gofalai Syr Hywel am drefniadau ei fferm fel arfer y diwrnod hwnw, heb fradychu yr un gradd o gyffro gyda golwg ar yr hyn oedd i gymeryd lie boreu dranoeth; yr oedd ganddo allu naturiol i gelu ei deimladau iddo ef ei hun, ac yn sicr gwnai hyny y diwrnod hwnw. Yr oedd myned i ymladd gomest am y tro cyntaf yn ei hen ddyddiau yn ormod gor- chwyl hyd yn nod i Syr Hywel ei ddal, heb fod rhyw deimladau cyffrous yn ei feddiannu. Am Morfudd, er nas gwyddai y trefniadau, eto yr oedd yn sicr y byddai i'r ornest gy- meryd lie, ac yr oedd y syniad yn mron a'i llethu. Nid oedd wiw iddi geisio gan ei thad roddi y bwriad heibio, yr oedd yn gwybod yn rhy dda am ei benderfyniad di- ildio gyda phobpeth. Teimlai yn foddlawn i briodi Harry Jeffries os gallai mewn modd yn y byd osgoi yr amgylchiad yma; ond yr oedd atgasedd Syr Hywel at Jeffries yn ormod iddi allu awgrymu y fath beth i'w thad, a gwyddai yn eithaf da nad oedd yr atgasedd hwnw wedi lliniaru dim trwy yr hyn oedd wedi eymeryd lie y noswaith gynt. Ac mor awyddus oedd i osgoi yr hyn oedd ar gymeryd lie, eto nis gallai wneuthur dim ond gadael i bethau gymeryd eu cwrs, a gobeithio y goreu o'r hyn a allai ddigwydd. Boreu tranoeth ddaeth, boreu tawel, clir, y lleuad yn tywynu nes ei gwneyd bron mor oleu a hanner dydd, natur mor farw fel nad oedd yr un cyffro i'w glywed yn unman, oddigerth swn y gornant fechan elai ar ei thaith heibio i Ynys yr Arch; y ddaear wedi ei gwisgo a mantell deneu o farug gan law natur, mor brydferth yr edrychai pob- petli. er mai cefn gauaf oer ydoedd, mae rhyw harddweh yn perthyn i hwnw, pa mor ysgythrog bynag yr ymddengys. Dyma y boreu yr oedd Syr Hywel a Harry Jeffries yn myned i ymladd gornest; byddai un o'r ddau, os nad y ddau, yn cael eu gadael yn gorph i'r llwynogod a'r cigfrain i ymborthi ar eu cnawd. Am bed war i'r mynyd y boreu hwnw yr oedd Syr Hywel a Dafydd Rhydderch yn cychwyn o Gors y Wlad am goedwig y Myn- achdy, carito Dafydd gleddyf Syr Hywel wedi ei lapio mewn hen glog, a chyrhaedd-