Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Ii CONaL Y BWTHYNWRj
News
Cite
Share
I CONaL Y BWTHYNWRj YN YR ARDD. Y gwyn ami, yn enwedig mewa. trefi, ydyw nad oes gan un oddigerth plwt o ardd" "ddim mwy na llawr y gegin." Ac eto gy- maint a ellir wneyd gyda hyd yn nod clwt" pe ba'i un yn deall, ystyried, a gweithredu. Hoffa bawb osod mewn trefn ddarn bach un ai yn ffrynt neu gefn y ty, pe bai ddim ond i harddu y lie. A gellir cael prydferthwch a defnydd ymborth ar yr un pryd, gydag ond yehydig drafferth a chost, Beth sydd yn dlysach na rhimyn lliwedig thvs yn tyfu oamgylch ysgwar neu gyfled o bridd mewn gardd fechan? Gellir cael hyn yn y modd hwylusaf a destlusaf gyda'r PLANIGYN BEATWS, neu beetroot, fel y'i gelwir, megis yn y dar- lun uchod. Ceir dau fath o'r planigyn, un y inae ei ddail tywyll-goch yn dlws dros ben, a gellir eu tori i fyny gyda dail ereill yn salad ar y bwrdd, ond y mae gaa y math arall ddail prydferth a ddyry wedd hardd ar y rhes YR yr ardd, tra ar yr un y ceir y gwreiddyn yn braff a Ilawn nodd parod at ei ferwi a'i bielo mewn finegr, a'i osod yn ddanteithfwyd gerbron tywysog. Y mae rhoaynau amryliw yn eithaf yn eu lie, ond pan geir tlysni sydd ar yr un pryd yn cynnyrchu ymborth rnaeth- Ion a dymunol, yna un annoeth a diog ydyw kwnw na fyn gymhlethu y prydferth a'r defnyddiol ar yr un adeg heb fwy (os yn wir cymaint) o drafferth, mwy o sicrwydd, ac ad-daliad arianol am yr hyn a wariwyd. Nid wyr oddigerth y craff a'r profiadol pa un ai beatws ai planigion addurniadol fydd y eyfryw, a phe byddai pawb yn gwybod pa waeth, oddigerth am y blys allai y beetroot gooi ar bobl nes eu gwneyd yn ymwelwyr rhy fynych a'r ardd fach i lygadu ar a chwen- ychu y dail rhuddion a'r gwreiddyn dymunol a blasus. Gwyddom am un o dlottai site Caernarfon sydd a gardd fefljaii o'i flaen, wedi ei harddu a rhesi o beetroot yn y fath fodd nes gwneyd i'r dyeithr dybio ei fod o flaen palas gwr bonheddig yn byw ar ei bwrs a'i fwyd ei hun. Un o'r ffrwythau sydd yn dyfod a mwy o alw am dano dymhor ar ol tymhor, er gwaethaf y bias braidd annymunol arno ar y cyntaf, ydyw "afal cariad," neu y tomato. Y maent yn brin a drud, ac eto gall rhai gyda'r lie cyfyngaf o gylch eu tai eu tyfu ond arfer yehydig ofal ac amynedd, a dysgu tipyn o brofiad gyda'r gwaith. Fel bron bobpeth arall, ceir gwahanol fathau o'r afal peraidd hwn, a gellir tybio ar olwg rhai ohonynt mai un cyffelyb a demtiodd yr hen Fam Efa. Beth bynag am hyny, y mae rhyw esgusawd yn y mater erbyn y deuir i ddeall yn awr pa mor lesol, dymunol, a maethlon ydyw y tomato. Am hyny gwnaer pebpeth er ei fagwraeth a'i dyfiant. Gwelir yn y darlyn hwn engraipht o CATER'S GREENGAGE. Hyd nes llwyr aeddfedu, glas ydyw y fl'rwyth, ac araf ymddadblyga i liw coch- felyn gyda gwres a llewyrch yr haul. Gyda pot o faint Rhif 1 neu 2 gellir tyfu y plan- igyn i gryn uclider. Rhodder y planigyn i lawr yn isel yn y pot, a pheidier ei lenwi ond' hyd yr hanner ar y dechreu. Wedi hyny gellir ychwanegu caenen o bridd maethlon a da. Gyra y brif gangen rai llai i'r wyneb, ac felly bydd i fywyd y planigyn gael ei hwyhau.
[No title]
News
Cite
Share
Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf casglodd Arglwydd Faerod Llundain (o bryd i bryd) ychydig dros 20,000,000p at achosion elusenol a dyugarol.
PREGETH ORPHENEDIG
News
Cite
Share
PREGETH ORPHENEDIG "Dyna beth ydw i yn alw'n bregeth orphenedig," meddai dyn wrth ddyfod adref o'r eglwys. "Ydyw, y mae hi wedi ei gorphen o'r diwedd," meddai cyfaill iddo, er i mi ddechreu ofni nad oedd dim terfyn arni hi."
CARDOTYN ANNIBYNOL
News
Cite
Share
CARDOTYN ANNIBYNOL Yr oedd cardotyn yn gofyn am gardod wrth ddrws boneddwr yn Mhwllygro y dydd o'r blaen, pan y daeth y boneddwr ei hun at y drws, ac y gofynodd iddo :— Oes arnoch chwi ddim cywilydd myned o gwmpas fel hyn i gardota, a chwithau yn alluog i weithio ? Syr," meddai'r cardotyn, yn bur annibynol, wedi dwad yma i ofyn am eich cardod yr oeddwn i, nid am eich cynghor."
[No title]
News
Cite
Share
Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf fe gariwyd ar y rheilffyrdd yn y Deyrnas Gyfunol 33,000,000 o deithwyr yn y dosparth cyntaf, 61,000,000 o deithwyr yn yr ail ddosparth, a 772,000,000 yn y trydydd dosparth.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Ddarfu i Chwi Droi yr Handle ? rll-ir, Tynlr 12 o Lun- iau llawn maintioli heb ail-lenwi. Nid oes ond eisieu troi yr handle, mae y Camera 1 11 a yn gwneyd y gweddill. 'J rwy droi yr handle dygir y plate i'r sefyllfa briodol, agorir ychwydd-wydr (lense) tynir y llun, cauir y chwydd-wydr, a cherir y plut. o'r ffordd. Y Camera hynotaf a ddyfeisiwyd erioed, Nid oes angen i chwi wybod dim am dyna lluniau, gan y gellir anfon y plates i ni i gwblhau gwaith, Nid oes angen dim ond llenwiy Camera gyda plates. cyn myned allan i rcdiana. Fan welweh rywbeth i dynu ei lun, trowch yr handle fechan ac y mae wedi ei wneyd. Mae un symudiad yn gwneyd pobpeth. CYNNYGIR 120 0 WDBRWYON AfilANOL, Hetlaw nifer mawr o Oriaduron gwertlifawr am y llun au goreu dynir gan "amateurs." Yr ydym yn cyflenwi y THEO HAND CAMERA. gyda'r celfi angenrheidiol yn gyflawn am 12s 6c Tynwch Iuniau eich cyfeillion, eich pets, manau eich ymweliadau, golygfeydd yn yr heol, rywbeth a pbob. peth. Y pleseTwaith mwyaf dengar. Anfonwch 12s 6c ar unwaith am y THEO HAND CAMERA. Breinteb wedi ymofyn am dani. Gellir cael esiampl o lun dynwyd gyda'r Camera yma a 11a n naanylio i am 1c. Nid oes yr un teulu tra ar holidays yn gyf- lawn bob un. Peidiwch rhoddi pum' gini am Cameri gyda lot o symudiadau yn nglyn ag ef tra y gellw c'1 gael un Hawn cystal gydeg un symudiad yn unig am 12s 6c. Lluniau ardderchog o'r an&awdd goreu Ar werth gan bob masnachydd mewn nwy idau tynu lluniau o'r radd flaenaf. Mynwch weled y Theo. J. THEOBALD A'I GWMNI, 19,FAIiEINGDON ROAD LLUNDAIN, E C