Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

DR JOSEPH PARRY (PENCERDD…

News
Cite
Share

DR JOSEPH PARRY (PENCERDD AMERICA). Mab ydyw Dr Joseph Parry i Daniel ao Elizabeth Parry, gynt o Ferthyr Tydfil. Yr oedd ei dad yn fab i John Parry, ffermwr parchus o sir Benfro. Symudodd Daniel yn ieuanc i Forgan wg, a bu yn refiner yn y Gyfarthfa (Merthyr) am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymfudo i America. Yr oedd I y Elizabeth, mam y cerddor, yn enedigol o'r Graig, yn ymyl Cydweli sir Gaerfyrddin—un o deulu Richards o'r Graig, ac yn berthynas pell i'r diweddar Henry Richards, Ysw., A. S. Wedi tyfu i fyny, symudodd i Merthyr, ac ym- sefydlodd yn nheulu yr hen weinidog parchus Methusalem Jones, Bethesda, ac oddiyno y priododd a Daniel Parry. Mae Joseph Parry yn ieuengaf ond dau, dybiem, o wyth o blant. Gamvvd ef yn y ty isaf ond un, pen deheuol, o Dai yr Hen Gapel," Merthyr, Mai 21ain, 1841. Cafodd Joseph, fel y rhan fwyaf o ddynion nodedig pob gwlad, fam ragorol i'w fagu; gwraig gall, grefyddol, a'i henaid yn llawn cerddor- iaeth. Bydclai hi yn ami, pan na byddai neb i ddechreu canu yn y capel yn taro y don, ao nid oedd neb fedrai wneyd yn well. Oddi- wrthi hi, mae'n debyg, y cafodd y plant eu doniau cerddorol; oblegid y maent oil yn gantorion nodedig—ond daeth Joseph yn deyrn arnynt i gyd. Mae Merthyr yn enwog am fagu cerddor- ion, chafodd Joseph Parry ei ddwyn i fyny yn blentyn yn y llecyn mwyaf cerddorol yn y lie. Yr oedd rhes Tai yr Hen Gapel" yn JUwn cantorion, ac yn gorwedd i ^mfwynhau yn wastad mewn cwmwl o seiniau cerddorol. Y n yr ymy I y byddai seindorf bres y Gyfarthfa yn ymarfer, ac nid oedd hwnw yn dysgu yr un don na byddai Joseph bach wedi dysgu ei chwibianu yn llawn mor gynted a'r band. Wedi iddo gyrhaedd saith mlwydd oed, dysgai don ar unwaith, ac yr oedd yn gyn- northwy o bwys i'r athraw yn yr ysgol ganu. Erbyn ei fod yn ddeg oed, yr oedd alto rhanau helaeth o oratorios Handel, Mendel- sshon, Mozart, a Haydn, a ddysgid yn Mer- thyr ar y pryd, i gyd ar ei gof. Ond gorfu iddo ef ddechreu gweithio pan yn blentyn naw oed, heb fawr ddim manteision addysg. Symudodd gyda'r teulu i America yn 1854, pan yn dair ar ddeg oed. Wedi symud i America, ni chododd un wawr am fanteision addysg i Joseph Parry am flynyddoedd. Dysgwyd ef i ddarllen cerddoriaeth gan Mr John Abel Jones, gwr deallgar mewn cerdd- oriaeth, yntau yn frodor o Merthyr, a dysg- wyd cynghanneddu iddo gan Mr J. M. Price, gynt o Rymni. Hwy a'i cymhellodd ef gyntaf i gystadlu am wobrwyon mewn Eis- teddfodau. A'r cyimyg cyntaf a wnaeth mewn Eisteddfod, Xadolig, 1860, llwyddodd i enill y gamp. Yr un cyfeillion liefyd a hwylusodd ei ffordd, yn 1861, i fyned am derm i sefydliad Normalaidd yn Genesee, New York, lie byddai proffeswyr o'r ddinas yn rhoddi gwersi dros dymhor yr haf. Cafodd yma wersi mewn lleisio gan Bassini- athraw rhagorol, a ohyfaill i Rossini; yno hefyd yr oedd P. P. Bliss, ac yr oeddynt yn gyfeillion cynhes. Daliodd yn mlaen hefyd i gystadlu ac enill yn Eisteddfodau America. Yn 1863, cymhellodd y cyfeillion hyn ef i gynnyg am y gwobrwyon am gyfansoddiadau. cerddorol yn Eisteddfod Genedlaethol Aber-, tawy; a llwyddodd i enill pedair o'r gwobrau —wyth gini, dau bum' gini, a hanner dau gini. Y flwyddyn ganlynol, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, ysgubodd yr holl wobrwyon ymaith yn llwyr—goreu ac ail oreu—un deg punt, dau bum' gini, a phum' punt. Cyfansoddodd ar bedwar testyn yn 1865 eilwaith i Eisteddfod Aberystwyth, a daeth ei hun drosodd i'r Eisteddfod hono gyda'i frawd-yn-nghyfraith, Mr Robert James, a'i ddau gyfaill, Mri Jones a Price; ond, er ei fawr siomedigaeth, nid oedd yr un o'i gyfansoddiadau wedi cyrhaedd, ac ni chlywyd son am danynt hyd y dydd hwn. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caer, enillodd ugain punt a medal am "Cantata y Mab Afradlon." Gyda'r gantata hon terfynodd ei fywyd cystadleuol. Yn ninas New York, wrth ddyfod drosodd i Eisteddfod Aberystwyth, cyfarfu Mr Parry am y waith gyntaf a'r "Gohebydd." Trwy help y Gohebydd a chyfeillion Eisteddfodol ereill, gallodd fforddio yn 1868 i adael ei gartref a'i deulu a dyfod drosodd i'r Royal Academy, yn Llundain. Yn niwedd ei flwyddyn gyntaf enillodd wobr yn yr Aca- demy, a chan iddo gael cyfres o gyngherddau yn Nghymru, galluogwyd ef i aros yn hwy yn Llundain na'i fwriad cyntaf; ac yn Mai, 1869, daeth Mrs Parry a'i dau fab drosodd i Lundain ato, a phenderfynodd aros blwydd- yn arall. Ar ddiwedd ei ail flwyddyn, enill- odd y bronze medal, a phenderfynodd aros y drydedd flwyddyn, yn yr hon yr eiunodd y silver medal, a chyflwynwyd ef iddo gan Mra Gladstone. Yn 1871, aeth i Cambridge i eefyll arholiad am J gradd o Musical Bachelor, a llwyddodd yn hyn hefyd. Yn Medi dychwelodd i America, yn llawn calon ac yspryd, a'i gryman wedi ei hogi at waiith. Aeth ar daith gerddorol i ymweled a'i gy- feillion, a chadwodd dros gant o gyngherddau yn un llinyn cyn gorphwys. Sefydlodd ysgol gerddorol yn Danville, Pa. Penodwyd ef yn athraw cerddorol yn Athrofa Genedlaethol Aberystwyth yn 1874, a bu yn llwyddiannus iawn yno eyhyd ag yr arhosodd. Yn 1877, enillodd y radd o Doctor of Music yn Mhrifysgol Caergrawnt. Efe, mae'n debyg, oedd y Cymro cyntaf i enill y radd anrhydeddus hon. Ar ol gadael Aberystwyth sefydlodd Dr Parry ysgol gerddorol yn Abertawe, ac ar yr un pryd deil v swydd o ddarlithiwr ar gerddoriaeth yji Athrofa Genedlaethol Caerdydd. Mae ei athrylith yn hynod o gynnyrchiol; a phallai gofod hyd yn nod i son am ei brif weithiau. Ond rhaid crybwyll "Blodwen," ei opera Gymreig swynol. Diau y gellir disgwyl llawer gwaitli gorchestol oddiwitho eto.

WEDI El DARO A SYNDOD

[No title]