Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AT EIN COHEBWYR

News
Cite
Share

AT EIN COHEBWYR EFRYDYDD IEUANC. — Nage, nid hyny ydyw'r cwbl o lawer. Y mae cymaint o hyawdledd yn ngoslef llais, edrychiad, ac ystum areithydd, ag y sydd yn ei ddewisiad o eiriau cymeradwy. YMOFYNYDD.-Byddai yn well i chwi chwilio am gwmni llai siaradus. Y mae y dynion ieuainc siaradus yn dyfod yn fwy i'r amlwg bob dydd fel pla ar gymdeithas. Y maent yn gwybod pob peth, a'u tafod yn myn'd yn rhy brysur i roddi swydd i'r glust. Y mae eu llais yn uwch na neb arall yn y cwmpeini. Y mae yn arwydd anffaeledig o ddiffyg synwyr. Byddai yn well i chwi fyned allan o'ch ffordd na dyfod i gyffyrdd- iad a dyn sydd yn siarad yn oes oesoedd, oherwydd y mae yn anhawdd i chwi ei ysgwyd i ffwrdd. Y mae ei resymau fel dwj- rawnen o wenith wedi eu cuddio mewn dau fwsiel o us. Gellwch chwilio am danynt drwy'r dydd heb ddod o hyd iddynt; ac wedi dod o hyd iddynt, nid ydynt yn werth y drafferth. Y doeth ni ddywaid a wyr, Nid mewn swn y mae synwyr." TUDUR ELWY.—Y sillebiaeth yw yr unig beth gwreiddiol yn eich ysgiif. ARABELLA. Gan fod y beirdd, o Horace i lawr, wedi syrthio yn fyr o allu desgrifio liyfrydwch cusan, lie gwael i ni mewn rhyddiaeth a gwaed oer fyddai ceisio dadansoddi yr liyfrydwch hwnw gan ei fod o ran ei natur mor anwahanadwy ansoddol. Nid oes genym ond dyweyd ar y mater fod dadansoddi yr liyfrydwch o gusanu yn un o'r gwyddonau colledig, po mwyaf a geisiwn mwyaf oil a gollwn yn yr ymgais, y ffordd oreu i ddadansoddi cusan felly ydyw cymeiyd un. Gellid ysgrifenu cyfrolau, ie lyfrgelloedd lawer ar y testyn, ond ni fyddem wedi'r ewbl nemawr nes na phellach. Byddai yn dda genym, er mwyn Arabella, allu taflu yehydig oleuni ar y pwnc dyddorol hwn, ond gallwn ei sicrhau, er lleied a Wyddom, na ddaw yr arferiad o gusanu drwy y telephone byth yn boblogaidd, a bod cusan lladrad yn gospadwy. Y mae llawer dull o gus- anu,fel y gwyr Arabella,fe ddichon. Dyna Sara Jones, geneth dwymngalon, o Gwmbwrlwm, pan gyfarfyddodd a'i chariad yn dyfod adref 0 r mor, hi a'i cusanodd nes oedd ei wallt yn mygu. Yr oedd cariad Sara fel daear- gryn, ei serch fel corwynt, a'i chusan fel Wiellt a tharanau. Clywsom am eneth an- foddog wedi hyny, a'r dagrau yn treiglo i lawr ei gruddiau pan beidiodd ei Nedi a'i chusanu, ac yn dyweyd wrtho mewn iaith dorcalonus "0, Nedi, yr ydw i yn teimlo nad ydych yn parhau i ngharu i." 0, ydw, Ydw," meddai Nedi, "Ond rhaid i mi gael fy llgwynt." Moes gusan i'm rhan Myfanwy,-moes fil Moes ddwyfil, moes ddeufwy, Moes ugeinmil, moes ganmwy, A moes, o moes i'm un mwy. CERDDOR CYMREIG.—Pa un ai "Ymdaith Gwyr Harlech" ai y "Marseil- laise yw y rhyfelgan oreu ? Dyna gwestiwn anhawdd ei ateb. I'r Cymro, fe ddichon mai "Gorymdaith Gwyr Harlech," ond y mae y "Marseillaise" yn llawn o swn rhyfel. Fe ddichon mai y gwahaniaeth ydyw, fod yr ymdeithgan Gymreig yn ym- symud yn fwy rhwysgfawr a brenhinol gyda mwj* o'r hyder a'r adsain fuddugoliaethus ynddi, tra y mae swn gorthrwm, a grudd- fanau brwdfrydig cenedl orwyllt yn tanio ac yn gorferwi fel mynydd llosg yn y llall. Y mae y naill a'r llall ohonynt yn rhwym o effeithio yn rhyfelgar ar y galon ddynol. MIRELLA. — Y mae yn dyfod yn fwy ffasiwnol bob dydd yn awr i'r briodferch roddi i'w gwr fodrwy goffadwriaethol o'u hymrwymiad cyn gadael yr eglwys. Y mae yr initials" yn nghyda'r dydd o'r mis, &c., wedi eu cerfio arni, ac yn cael ei hystyried o'r un pwys i'r gwr ag ydyw niodrwy y wraig iddi hithau. PRYDERUS.—Yn ngholofnau y Ty a'r Teulu y cewch y cyfarwyddiadau goreu a mwyaf pwrpasol ar ymborth a gwisgoedd. Ond SWIll a sylwedd y cwbl am ymborth ydyw, y dylai pawb ddewis drostynt eu hunain oddiar brofiad, pa ymborth sydd fwyaJ cyfaddas. Os ymborth llysieuol, byclded iddo ymgymeryd ag ef er pobpeth. Y camgymeriad mwyaf a ellweh chwi wneyd ydyw tybied mai yr ymborth sydd yn cyd- weddu oreu a'ch cyfansoddiad chwi fyddai oreu i bawb. Ond os caniateir i ni bender- fynu, neu ddatgan ein barn, ymborth cymysg yn ddiamlieu sydd yn cyfarfod ag angen- rheidiau y mwyafrif. CYSTRAWENWR IEUANC. — Byddai yn well i chwi beidio a myned yn uwch na phen yr ysgol, rhag y digwydd damwain i chwi. Pan fyddo dyn wedi cyrhaedd pen y grisiau yn y tywyllwcli, a cheisio myn'd i fyny ris yn uwch, y mae yn teimlo ei hun mor ddyryslyd a'r dyn fydd yn cicio'r gwagle gan feddwl fod yno gi. MARY JANE A'R FODRWY BRIOD ASOL.—Ychydig o'r rhyw deg sydd yn gwybod, mwy na chwithau, paham y gwisgir y fodrwy ar y trydydd bys o'r llaw aswy. Gwisgir hi am y bys hwnw, am y credai yr Aiphtiaid gynt fod gieuvn tyner yn cysylltu y bys hwnw a'r galon. Daliai hen addolwyr Isis fod y trydydd bys ar y Haw aswy yn gysegredig i Apollo ac i'r haul, am hyny, yr oedd yn rhaid i ddefnydd y fodrwy briodasol fod yn aur.

Advertising