Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

EIN CYSTADLEUON

[No title]

News
Cite
Share

Jeifreys "Sut yr oeddach chi'n gweld Mrs Roberts druan ?" Mrs Jeffreys: Wel, yr oedd hi'n deyd nad allai hi ddim cwyno." Jeffrey, s: Dear me oeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi wedi myn'd mor isel a hyny." $$$ III: Sut 'rydach chi'n hoffi fy ngown newyddi? EFE 0, campus; ond mi faswn i yn eich cynghori chi i fynu dressmaker arall. Hi = Pa'm, 'neno'r tad ? Era Mi faswn i'n tybio'i bod hi yn dwyn awfvr «ormod o'r defnydd. Pe base hi wedi dwyn tipyn ychwaneg, ni fasa dim ar ol, Meddyg ieuanc Meddyliwch yrwan, mewn difrif; y mae chwech o'm cleifiion i wedi gwella yr wythnos hon." Hen Feddyg Eich bai chwi eich hunan ydyw hyny, machgen i. Yr ydach chi'n treulio gormod o'ch amser yn nghyfarfodydd y cynghor trefol." Yr oedd rhyw ewach bychan o Gymro yn Mhwllygro wedi cael cynghor gan y meddyg i yfed chwart o ddwfr o ffynnon feddygol neillduol yn yr ardal bob dydd. Gofynodd Zabulon Dafydd iddo — Robin bach, yn mae'n anmhosibl i ti wneyd hyny, a thitha yn dal dim ond peint." Beth ydi pris yr irad yma, mistar ?" meddai'r prentis mewn siop grocery yn Mhwllygro, "'does yma'r un marc arno fo." "Mae hyny yn dibynu ar y cwsmer," meddai'r hen law. Os ei eisieu i iro'r drol sydd arno, dwy a dimai y pwys ydi o, ond os ymenyn sydd arno eisieu, tair ceiniog ar ddeg y pwys ydyw." fc.9f.fl Gellir yn hawdd olrhain cwrs cariad pur wrth wrando cynghaws tori ammod priodas. Y mae'r llythyr cyntaf yn dechreu gyda, "Fy anwyl Miss Edwards," yna "Fyanwyl Jane," yna Fy anwyleiddiaf Jenny," Fy nefol. eiddiaf angyles Jenny," "Fy anwyl Jenny," "Anwyl Jane," "Anwyl Miss Edwards," "Madam," a dyna'r cwbl drosodd. mu III Yr unig beth mewn cysylltiad a busnea o'r fath yma," meddai arianydd y bano wrtho'i hun, fel yr oedd yn pacio y pethau gwerthfawr yn ei gistau, "ydyw rhaid i ddyn adael y wlad, and'" ychwanegai, fel yr edrychai a oedd y safe yn hollol wag, "y wlad ydyw yr unig beth a adawaf fi." Ao yr oedd felly. Y corgi cyntaf: Fy asgwm i ydi hwna." Corgi' r ail: Gr-r-r-r-o-o-o-u-u-r-r-a-r-a- y-r-e-r." Y corgi cyntaf: Caiiigyi-tieryd ddaru i mi, dy asgwrn di ydi o." «'i§ Siarad y mae nhw am Llew Cwmscwt a'i lais bass; y mae genym ni yn Abercwm- cleidir acw ddyn aetli i lawr mor isel y dydd o'r blaen fel na allodd o byth ddwad i fvny yn ei ol. Ac y mae yn Nghwmbwrlwm yn awr bregethwr mor oeraidd vn ei ddull o bregethu fel y rhaid rhoi tan yn stove yn nghanol yr haf pan fydd 'i gyhoeddiad o acw, Florence Matilda Fitz McPherson Plan- tagenet Bombarino: Wedi cael yr influ- enza ? Wrth gwrs, do, bob un ohono ni; mi cawsom ni o pan ddaeth o allan gynta, undiluted, fel y deydwn ni, pan oedd Lady Harold Hamilton a Lord Eglantine Straw- berry a'r dosparth yna yn ei gael o, cyn iddo fo fyned yn gommon i blith y werinos yna." MR HWYRDRWM Wel, Mrs Roberts, ffasiwn ddyn ydych chi yn ei hoffi oreu? MRS R. (wedi sori am fod Mr H. yn aros cyhyd): Dyn a thipyn o fyn'd ynddo Cymerwyd yr awgrym,