Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
PAL LLEIDR
News
Cite
Share
PAL LLEIDR Yr oedd cuddswyddog yn Lerpwl un tro yn ddiweddar yn myned ar ei round pan sylwodd ar nifer fawr o bobl wedi casglu yn nghyd o gylch dyn a werthai oriaduron am 5s yr un. Prynodd y cuddswyddog un, ac wedi ei harchwilio daeth i'r penderfyniad fod yr oriaduron yn eiddo lladrad. Yr oedd y gwerthwr, modd bynag, yn gawr o ddyn, ac nid oedd y cuddswyddog ond eiddil. Meddyliai, hefyd, y gallai fod cyf- eillion iddo yn y dyrfa a safai o'i gylch. Mewn mynyd neu ddau tarawodd ar gynllun. Gof- ynodd i'r dyn gymeryd glasiad o win, gan ddyweyd ei fod yn meddwl prynu oriawr arall. Derbyniwyd y cynnyg, a dygwyd ail- oriawr iddo i'w gweled, yr hon y cymerai y euddswyddog arno ei harchwilio. Modd bynag, diangodd y cuddswyddog ymaith gy da'r oriawr, yn cael ei ddilyn gan y gwerth- wr oriaduron, yn gwaeddi- Stopiwch y lleidr Pan gafodd y cuddswyddog ef mor bell a gorsaf yr heddgeidwaid, trodd ato, a chan afael yn ei wddf, er syndod i bawb, cymerodd y gwerthwr oriaduron i'r ddalfa, a chospwyd ef.
u YSTORIAU CYFREITHIOL
News
Cite
Share
u YSTORIAU CYFREITHIOL Yn ystod prawf dynes am witchio a dyweyd ffortiwn dywedodd un o'r tystion y gallai y ddynes ehedeg. Wrth glywed hyn, dywedodd y barnwr wrthi- y gallai wneyd os medrai, na wyddai am gyfraith yn ei herbyn. Yr oedd meddyg, yr hwn oedd yn wrth- wynebol ryfeddol i gyfreithwyr, yn nghwmni bargyfreithiwr, ac yn ystod ymgom, con- demniodd broffeswriaeth yr olaf yn llym. "Er esiampl," meddai, "nis gallaf ddeall beth ydych fel cyfreithwyr yn feddwl o hyr- wyddo etifeddiaethu." "Mae hyny yn bur debyg," meddai'r cyfreithiwr, ond egluraf hyny i chwi, y mae yn gwneyd yr hyn na chydsyniwch chwi fel meddygon iddo-goddef adferiad. Yn Nhwrci byddai y gyfraith a, gondemniai y llofrudd i farwolaeth yn arferol o ganiatau, ar yr un pryd, hawl i berthynasau agosaf y Uofruddiedig (un o ba rai a fyddai y dienydd- wr) i roddi pardwn iddo. Yr oedd Twrc un- waith yn brysur iawn i ddod yn etifedd, wedi lladd ei dad, a chondemniwyd ef i farw- olaeth ar y profion cryfaf. Prysurodd un 01 gyfeillion at y barnwr, gyda swm mawr o arian, ac yno deallodd fod y ddedfryd wedi ei rhoddi. Ond ni ddigalonodd, ond daliodd ati i bwyso ar y barnwr, gan ddal y Iwgr. wobrwyaefch o'i flaen. "Nis gallaf," meddai'r barnwr, "ryddhau eich ffrynd heb brawf e'i ddieuogrwydd ciyfach na'r dystiolaeth ar ba un y caed ef yn euog. Byddwch ddigon hyf i ddatgan mai chwi yw llofrudd ei dad, deu- wch a dau dyst i brofi hyny, ac fe gondemn- iaf chwi i dderbyn ei gosp; ca yntau ar un- waith ei lyddhau a meddiannu ei holl gyf- oeth, a chael y gallu i roddi pardwn i chwi." Yr oedd yr amgylchiad yn un hynod o boen- us, ond mentrodd y cyfaill wneyd yr awgrym- iad. O'r diwedd, daeth yr etifedd yn mlaen a rhoddodd bardwn i'r dyn a gymerodd arno ei fod yn llofrudd, a bu'r ellyllwaith yn llwyddiannus.
PEIRIANT SYCHU DllLAD A'R…
News
Cite
Share
PEIRIANT SYCHU DllLAD A'R INDIAID Darfu Indiaid Sioux ladrata lluaws o bethau oddiar y cerbyd mawr (stage coach) a redai drwy eu gwlad. Yn mhlith yr eiddo yr oedd peiriant sychu dillad (wringing machine). Gweithid y peiriant hefo handle. Ni wyddai yr Indiaid ar y ddaear fawr beth oedd. Ond digwyddodd i Indiad ag oedd wedi bod yn aros mewn dinas lie y byddai lluaws o barrel organs yn cael eu chwareu yn yr heolydd fod yno. Tybiodd y dyn hwn yn sicr mai organ oedd yr offeryn. Gan hyny penderfynodd alw ei gyfeillion yn nghyd, yn ogystal a brenhin ei lwyth, a'r mawrion, i glywed yr organ yn canu. Nid oedd neb ond efe wedi gweled a chlywed y fath beth, ac yr oedd yn mawr ddymuno llenwi yr anialwch a cherddoriaeth yr organ. Gosodwyd y peiriant i fyny. Dechreuodd lahoub droi yr handle, a throi, troi, a throi, ond nid oedd cymaint a nodyn yn dod allan o'r peiriant. Gan fod y bobl yn blino, sicr- haodd hwynt fod y gerddoriaeth ddigymhar ar dori allan nid oedd dim yn eisieu ond troi yr handle. Trodd Iahoub nes y blinodd. Gorchymynodd y brenhin i ereill droi bob yn ail. Aeth 24 awr heibio heb i gymaini a nodyn ddod allan o'r organ. Credwyd ei bod wedi ei witchio, a galwyd ar y physygwr yno. Rhaid oedd cael aberth. Lladdwyd dau ddyn gwyn, a sticiwyd hwy ar y ddaear. Parhawyd i droi yr handle. Diwrnod arall a aeth heibio. Codwyd pabell uwchben yr offeryn, a throwyd yr handle. Ond nM oedd yno gerddoriaeth. Aeth Ia;houb i'r twb, tra y troid yr handle. Gorchymynwyd y dynion ag oedd yn troi yr handle ar iddynt beidio ar unrhyw gyfrif stopio troi, rhag ofn na ddeuai yspryd cerddoriaeth byth yno. Yn anffodus aeth cledrau dwylaw Iahoub i'r peiriant, tynwyd ei gorph i mewn a gwnawd ef yn seitan. Llefwyd fod y peiriant wedi bwyta lahoub. Neidiodd yr Indiaid at y peiriant, maluriasant ef yn yiRon, a thaflas- ant ef a gweddillion lahoub i dwll mawr yn y ddaear, a chladdwyd hwynt yno.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAEOr (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1869,1865 1878,1887,1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GORE tIT o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. 64 o GOLOFNAT; HIRION. BOB DYDD MAWRiB CEINIOG. Yn Eisiau: Dosparthwyr a Crohsbwyr lIe nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES. Carnarvon. CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales.Live,rpool Evening Express. Publisher-DANIEL REES, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes; Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Cata ogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fanc. Accuracy, Neatness, Despatch Note the Address:— "HERALD STEAM PRINTING WORKS HJUH Street, CAUNAUVO:N.