Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PAL LLEIDR

News
Cite
Share

PAL LLEIDR Yr oedd cuddswyddog yn Lerpwl un tro yn ddiweddar yn myned ar ei round pan sylwodd ar nifer fawr o bobl wedi casglu yn nghyd o gylch dyn a werthai oriaduron am 5s yr un. Prynodd y cuddswyddog un, ac wedi ei harchwilio daeth i'r penderfyniad fod yr oriaduron yn eiddo lladrad. Yr oedd y gwerthwr, modd bynag, yn gawr o ddyn, ac nid oedd y cuddswyddog ond eiddil. Meddyliai, hefyd, y gallai fod cyf- eillion iddo yn y dyrfa a safai o'i gylch. Mewn mynyd neu ddau tarawodd ar gynllun. Gof- ynodd i'r dyn gymeryd glasiad o win, gan ddyweyd ei fod yn meddwl prynu oriawr arall. Derbyniwyd y cynnyg, a dygwyd ail- oriawr iddo i'w gweled, yr hon y cymerai y euddswyddog arno ei harchwilio. Modd bynag, diangodd y cuddswyddog ymaith gy da'r oriawr, yn cael ei ddilyn gan y gwerth- wr oriaduron, yn gwaeddi- Stopiwch y lleidr Pan gafodd y cuddswyddog ef mor bell a gorsaf yr heddgeidwaid, trodd ato, a chan afael yn ei wddf, er syndod i bawb, cymerodd y gwerthwr oriaduron i'r ddalfa, a chospwyd ef.

u YSTORIAU CYFREITHIOL

PEIRIANT SYCHU DllLAD A'R…

Advertising