Hide Articles List

5 articles on this Page

PEDWAR CANT YN Y FLWYDDYN

News
Cite
Share

PEDWAR CANT YN Y FLWYDDYN Pan oeddwn yn ddeunaw oed-y mae llawer o amser er hyny—arferwn fyned ar y Suliai, yn misoedd yr haf i dreulio'r dydd gyda'in mam weddw, a'm brawd a'm chwior- ydd yn y wlad. Er mwyn cyrhaedd yno, byddwn yn myned yn brydlon i gwr arall y dref lie yr oedd cerbyd yn myned yr holl ffordd i'm hen gartref. Wrtli fyned dros y bont, yr oeddwn yn sicr bob amser o gyfarfod a chardotym tal, yr hwn a lefai allan gyda llais gwichlyd, Cofiwch y tlawd, os gwelwch yn dda, bobol bach." A byddai yntau yn sier o glywed swn ceiniog yn disgyn i'w het fel yr 4wn heibio. Tra yr oeddwn yn estyn fy ngheftfiog i Tudur—dyna oedd enw y cardotyn—yr oedd yn digwydd myned heibio wr bon, heddig bychan, byr a bywiog, yr hwn a anerchai y cardotyn yr un modd gyda r un llais uchel a gwichlyd. Arhosodd y boneddwr, ac wedi ystyried achos y cardotyn, dywedodd, "Y mae yn ymddangos i mi eich bod yn ddyp « ddeall- twriaeth, ac yn alluog i weithio paham yr ydych yn dilyn galwedigaeth mor isel? Dy, munwn eich cymeryd o'r sefyllfa diuenus hon, a'ch codi i sefyllfa lie y gellwch dderbvn pedwar cant o bunnau yn y flwyddyn." Chwardclod Tudur druan yn galontfg, ac felly y gwnaethum innau. "Chwarddwch chwi faint a fynoch chwi," meddai y boneddwr, "ond cymerwch fy ngliyngor: Yr oeddwn i unwaith mor dlawd a chwithau, ond yn hytrach na charctota gyda'm hen gwdyn llwyd, gwnaethwm i mi fy hun fasged i'w chario ar fy nghefn, ac aethum drwy dref a gwlad, nid i ofyn am gardod, ond hen garpiau, y rhai a roddent i mi am ddim. Wedi hyny gwerthirft hwynt i'r melinyddion papurau am bris (Ia. "Yll mhen y flwyddyn rhoddais heibio gardota carpiau, ond prynaia kwnt; ac yr oedd genyf hefyd drol a inul ?m oynnorth- wyo yn fy masnach fechan. Y allien fcair blynedd wedi hyny yr oedd genyf ddeuddeg cant o bunnau yn fy meddia4 a phriociais ferch gwneuthurwr papur, ys b 111ifyd a'm cysylltodd a'i fasnach ei hun, yr hon fijsnach, fel mae'n rhaid i mi ddyweyd, oedd yn lied isel a manvaidd ar y pryd; ond yr oeddwn eto yn ieuanc, yn llawn yni, ac yn alluog i weithio, ac heb anghofio beth oedd bod mewn eisieu. Y mae genyf yn awr ddau dy helaeth yn Llundain, ac yr wyf wedi trosglwyddo fy masnach a'r felin i'm mab hynaf, i ymenydd yr hwn ar ei ddygiad i fyny yr wyf wedi diferu egwyddorlon diwydrwy(H a- dyfab barhad, Gwnewch fel y gwuaAuaa issaau. fy nghyfaill, a deuwch mor gyfoethog a minnau." Yn mhen deng mlynedd ar hugain wedi hyny, pan oeddwn wedi myned drosodd i'r Paris Exhibition, digwyddodd i mi fyned i fasnachdy mawr i. brynu llyfr neillduol oedd yn cael ei adolygu yn y papurau, lie yr oedd boneddwr hardd, tal a golygus, yn rhodio o gwmpas fel arolygwr ar hanner dwsin o ysgrifweision. Edrychem ar ein gilydd am beth amser, ac yr oedd y naill a'r llall ohonom yn tybied ein bod wedi cvfarfod o'r blaen yn rhywle, ond yn mha le nis gallem wneyd allan ar y cyntaf. O'r diwedd, dywedodd y llyfrwerthydd wrthyf, Yr wyf yn tybied i mi eich gweled yn rhywle o'r blaen. Ai ni fyddech chwi yn arfer a myii'd heibio i'r bont ger tref yn Nghymru, tua deng mlynedd ai hugain yn ol, ar foreu Sul, ar eich taith i'r wlad ?" Beth, Tudur, ai Tudur ydych ?" gofynais. Syr," meddai yntau, ie, myfi ydyw, yr ydych yn gweled fod y gwr bonheddig bychan hwnw yn iawn, pan y dywedodd y gallai fy rhoi mewn sefyllfa amgenach, ac mewn swydd yn yr hon y derbyniwn bedwar cant o bunnau yn y fiwyddyn.

YSGOLION SABBATHOL Y BYD

Advertising

CONaL Y CYHOEDDWR

CELL Y GOLYGYDD