Hide Articles List

1 article on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU I FA MATT.—Dylai plentyii gael a arfer i o-rwedd ar ei ochr ddeheu un noswaith, ac ar ei ochr aswy y noson ganlynol. Wrth fabwysiadu y cynllyn hwn, fe dyf y plentyn i fyny yn fwy lluniaidd ac iachus. GWYNGALOHU. Wrth wyngalchu, dylai y brwsh gael ei symud yn ol ac yn mlaen yn yr un cyfeiriad i fyny ac i lawr, ac nid ar draws ac ar hyd bob ffordd, onide bydd y gwaith yn edrych yn ddwbwaith afler. STIWIO.—Wrth stiwio cig iraidd a noddus, dylai y rhan allanol ohono gael ei frownio a'i galedu yn dda er cadw y nodd oddimewn. Yna doder y cig mewn stiwpan, ac ychydig ddwfr berwedig wedi ei dywallt drosto. I WNEYD Y DWYLAW YN WYNION A THYNER.—Dodwch binsied o alwrn wedi ei bowdro mewn golchlestr, a thorwch i isaewn iddo wyn wy. Cymysgwch y pethau hyn yn dda a rhwbiwch y dwylaw a'r gymysgedd yn dda cyn myned i'r gwely bob nos. I OLCHI YMAITH YSMOTIAU 0 BAENT.—Os bydd y paent yn wlyb, gellir ei olchi i ffwrdd gydag ychydig spirits of turpentine. Ond os bydd y paent wedi cael amser i sychu, rhaid diferu ychydig 41urpentine arno am beth amser, ae yna gellir yn hawdd ei symud ymaith. I G ERD D ED W YR.—Dylai y rhai a eldymunant gadw eu nerth a'u hyni, a'u gallu parhaol mewn taith hir, arfer anadlu drwy y ffroenau yn lie drwy y genau. Y mae y gwahaniaeth yn y mwynhad o rodio yn mhell gyda'r genau yn gauedig, yn hytrach nag yn agored, yn anghredadwy bron i'r rhai na wnaethant brawf arno. I SYCHU UMBARELO.—Y mae llawer yn dodi on hymbarelo a'i big i lawr i sychu. Y Me y dull hwn yn peri fod y gwifrau yn rhydu yn fuan a'r sidan yn pydru, gan nad ees Ie i'r dwfr redeg allan y ffordd hono. Camgymeriad hefyd ydyw dodi ymbarelo allan yn agored i sychu, y mae hyny yn peri fod y silc yn stretsio a phlygu y gwifrau yn ermodol fel na orweddant yn wastad ac yn llyfn wedi hyny. SWP PYSGOD.-Cymerwch ben codfish, tii o foron cochion, ychydig celery, bwndel bychan o berlysiau, pinsied o halen a phupur, llonaid llwy fwrdd o beilliad, a dau chwart e ddwfr. Berwch y pysaodyii am dri ehwarter awr, streiniwch a chedwch y gwlybwr. Dodweh y cigfwyd mewn stewpan gyda wynwyn, torwch yehydig lysiau i'w layehwanegu at y gwlybwr, tewychwch gyda jslieilliad a serfiwch gyda rice wedi eu berwi. Bfgdil i chwech. Y gost tuag wyth geiniog. IECHYD PLANT.—Peidiwch a gadael i ymwelwyr wel'd plentyn claf; ni wnant ond ei gyffroi, ei gynhyrfu, a'i flino, a chyn- northwyo i ddifa yr oxygen yn ystafell y claf. PA FODD I DDEWIS CIG DAFAD.— Dylai molltgig da fod o liw coch rhagorol, a'r rhan arall yn berffaith wyn, heb ei linellu ar lean oddimewn, ac yn galed. Hen follt- gig ac asgwrn bychan i'w y goreu. DILLAD CYNHES.—Cynnyrch anifeil- iaid a wisgir yn gyfangwbl yn y gwledydd oeraf, am eu bod yn well am gadw y gwres i mewn. Y mae croen, manflew (fur), plu a gwlan, a hyd yn nod sidan yn gynhesach na llian neu gotwm. DYDD GWYL MORWYNION.—Yn y wlad y mae yn arferiad i forwynion gael wythnos o wyliau unwaith yn y flwyddyn, a dim dros ben hyny. Ond ychydig bobl yn y byd a all wahardd diwrnod i eneth weithgar a diwyd. I DDIFA CYRN AR DRAED. Cymerwch ddail eiddew ieuanc a mwydwch mewn gwinegr yn dda, a dodwch rai yn ffres hwyr a boreu ar y cyrn, a rhwymwch hwy yn ddyogel. Mewn ychydig ddyddiau bydd yn hawdd symud y corn, ond, hyd yn nod wedi hyny, parhewch i gadw at y cymhwys- iad hwn am ddeuddydd neu dri, nes y bydd y caledwch wedi diflanu. BUCHFRECHIAETH ORFODOL AR BLANT.—Yn ol y Ddeddf a basiwyd er iawndrefnu a gorfodi buchfrechiaeth ar blant, y mae yn rhaid buchfrechu plant o fewn y tri mis o'u genedigaeth, os na ellir profi na fydd y plentyn mewn cyflwr cy- faddas i hyny; ac os felly, rhaid cael trwy- dded oddiwrth feddyg i'r plwyf hwnw, i fod mewn grym am ddau fis o'r dyddiad hwnw. YSTOR AT WASANAETH Y TY A'R TEULU.—Y mae pob math o lysiau yn cadw yn well ar lawr eerig, mewn ystafell lie y cedwir yr awyr i ffwrdd; cig, mewn ystafell oer a sycli y mae siwgr a phob math o deisenau melus yn gofyn lie sych; felly y mae halen. Canwyllau mewn lie oer heb fod yn llaith; eigoedd sychion a hams, &c., yr u* modd. Dylai rice, tapioca, sago, &c., gael eu cadw mewn lie cauedig. CYMERYD CYFFURIAU.—Peidiwch a fchwyllo plentyn wrth weinyddu meddygin- iaeth; os bydd yn ddigon hen, apeliwch at ei reswm; os yn rhy ieuanc i ymresymu ag ef, dodwch ef ar draws eich gliniau a gor- fodwch ef i'w gymeryd. Nid ydyw twyll yn y mater hwn ond moddion i bentyru an- nghydfod i'r dyfodol. Y mae liyfforddiant yn hyn o beth yn bwysig i'r rhieni, gan y dichon i'r dydd ddyfod y bydd cymeryd dogn o feddyginiaeth yn ddistaw ac ewyllys. gar yn foddion i achub bywyd. Gyda dyfodiad Mehefin ac ymddangosiad strawberries a rhosynau ar ol eu cysgad- rwydd yn oerder Mai, chwilir am het newydd. Braidd y mae pobl wedi blino ar "Jack Tar." Yn y darlun uchod dygir i fewn ddullwedd syml newydd, s-ef het troi fyny o wellt bras wedi cochi. Uwch y taleen gorphwys dau rosyn gwyn-goch, ac uwchben bow o las gwan, aden y gloyn byw. Ni raid ofni llosgiad yr haul. Dywed awdurdodaa ar natur y croen nad ydym yn caniatau digon o haulwen ar em gwyneban. I'r rhai sydd yn hoff o forio mewn cychod, fel y mae tuedd bresennol ein genethod ieuainc, nid oes dim yn edrych yn fwy destlus na gwisg o serge gwawr felyn da, hawdd i'w olchi, yn enwedig os wedi ei gyn- llunio fel uchod, yn mha. un y mae'l' got fer wedi ei throi yn ol mewn dull newydd dros grys gwyn, gyda rhwymyn a. bwcl dur am y wasg. Ceir cyffelyb gynllun yn llawes yr arddwrn. I fod yn gyfaddas, dylai y tie fod o wawr felyn gydag yspetiau glas neu ysgarlad. 1.