Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOCYf neu Yr…

News
Cite
Share

HUNANCOFIANT HOCYf neu Yr hyn fu llawer ohonom. PENNOD XXIX. MEWN HELBUL DYCHRYNLLYD O'R DIWEDD! OB! ebrwn wrth fy lifftenant, dyma chdi a fina wedi ei gneyd hi rwan; raid i ni ddim bod ar ol am faco a theisena a minciag byth eto. Na raid I mi gawn lond y'n bolia o betha da rwan. Hwre Weldi dyma aur, was aur pur wedi ei beilio yn y fan yma er's oesoedd yn disgwl i ti a fina ddwad ar ei draws o," a mi ron i yn neidio a downsio fel ffwl yn y fan hono, a Bob yn spio a'i geg yn agored. Ond sut bynag, roedd Bob yn gallach na fi, achos dyma fo'n tori ar fy nhwrw fi ac yn deyd, Weldi, Wil, well i ti gau dy geg a pheidio gwaeddi, achos os ffendith yr hogia, dy fod di a fina wedi dwad ar draws yr aur yma—os aur ydi o hefyd—mae nhw yn sicir o ddwad yma a spwylio'r cwbl, achos mi fydd raid iddyn nhw gael eu shar ohono fo, beth bynag ydi o, a wedi i bob un ohonun nhw lenwi eu pocedau faint fydd yn weddil i ni wyt ti'n meddwl ?" "Wel, ia, mae synwr yn y peth wyt ti'n ddeud, Bob. Ond mae rhai ohonun nhw'n sicir o ddwad yma sut bynag, a ffeindio'r arian deuar. Be gawn ni ddeud wrthan nhw, Bob?" Deud! Peidio deud dim. Cau y bocs yn ei ol fel roedd o o'r blaen, a llichia bridd drosto fo, a wed'yn mi gei di a fina ddwad yma i'w nol o fory, rol i'r rhein fynd adra." Thai hyna ddim, Bob; rhaid i ni fynd a'r bocs yma i ffwrdd efo ni heno ne yn y bora. Be dae rhyw hen ffarmwr yn dwad yma a nina i ffwrdd, a chymeryd y bocs." "Wel, mi fasa gyno fo ddigon i dalu'r degwm wedyn, hwyracli, yn He gneyd helynt ——" "Taw, Bob, tyrd at fusnes was. Gadllonydd i bolitics. Wyddost ti," ebrwn wrtho dan ostwng fy llais a siarad yn isel, "ryda i'n meddwl mae'r plan gora ydi i ni daflu pridd ar y bocs yma, wedyn mynd allan at yr hogia a dangos iddyn nhw eu bod nhw'n sicir o gael anwyd os na chymra nhw joch go lew 0 r ruiu o'r casgia yna, ac unwaeth y dedi reua nhw yfad, maent yn sicr o ddal ati nes bydd pob un ohonun nhw'n chwil ulw, a wedyn fedar run ohonun nhw wbod dim am y bocs." Roedd y cynllun yna'n mddangos yn un doeth ac ymarferol iawn (geiria'r stiwdants) i Bob, a felly dyma fi'n cau'r bocs, yn lluchio pridd ar ei gefn o—rol i Bob a fina gymryd dyrnad o'r aur bob un—ac yn mynd allan o'r ogo. Ond erbyn mynd i lan y mor toedd yno neb Dim un wan o'r hogia Roeddan nhw wedi ei heglu am gartra bod ag un, a gadel eu swyddogion yn y frwydyr ar eu pena eu hunen. "Wel, Bob," ebrwn wrtho, "mi gawn spario gneyd yr hogia yn feddw; ond be ydan ni am neyd heno,, dywad? Mae hi wedi mynd yn hwyr—mae hi'n fora bellach, reit siwr, well i. ni fynd i'r ogo i gysgu ?" Felly fuo. Roedd ar Bob dipyn bach o ofn dwad i'r hen ogo fawr hono dros nos, achos ron i wedi deud wrtho, o ran sport, fod sprydion pobol wedi marw yn watsio arian deuar bob amsar. Felly clywis i modryb yn deud, hefyd, ran hyny, ond toeddwn i rioed wedi coelio streuon modryb, er fod rhen ddynes ei hun yn eu coelio nhw, rydw i'n meddwl. Wedi mynd i fiawn i'r ogo, tynu y gan- wyll o'r lanter oedd gynon ni, a'i gosod ar lawr i leuo y lie, dyma Bob a fina yn gor- fadd ar ein hyd i dreio cysgu ne feddwl. Roedd arna i eisio cysgu ofnadwy, ond drw fod ar Bob gymint o ofn roedd o yn fy nghadw fi'n effro i atab ei gwestiynau gwirion o yn nghylch bwganod arian deuar, a phetha felly, ac er mwyn treio tawelu Bob dipyn, mi godis i osod y plancia rheini yn eu llefydd ar geg yr ogo fel roeddan ni wedi eu ffeindio nhw, os ydach chi'n cofio. 0 ran livny, hwrach nad ydach chi ddim yn cofio, a felly mi ddeuda i wrthach chi sut ogo oedd lioii-iiiae hi ar lan y mor yn ymyl Crecieth hyd y dydd heiddiw am wn i, os nad ydi'r cownti cownsul ne rywun wedi mynd a hi oddyno. Un fel hyn oedd hi: — Twll mawr dan dorian glan y mor, ac i hwnw roedd yr hogia wedi llusgo rhai o'r casgia a'r bocses oedd yn euro ar y lan. Wedyn, yn mhen pella y twll roedd yno blancia wedi eu gosod a'u cuddio efo pridd, a rheini ddaru Bob a flna ffeindio yn ddamweiniol a'u tynu i ffwrdd. Rol eu tynu i ffwrdd roedd yno bassej ne dynal go hir yn cyredd reit i berfedd y ddrear, ac yn mhen draw hwnw roedd rwm, ne ogo, fawr sgwar, ac yn hono roedd y bocses, yr aur, ao felly yn mlaen, ac roedd yn amlwg nad oedd neb wedi bod yn hono er's igeinia lawar o flynyddoedd drw fod y planeia a'r pridd ar wynab y tynal wedi gneyd i bawb allsa fod wedi sylwi ar y lie feddwl nad oedd yno ddim ogo o gwbl. Y planeia rheini rois i yn ol, cin mynd i gysgu, er mwyn tawelu tipyn ar Bob, achos fedar sprydion a bwganod ddim dwad drw goed, wyddost," ebrwn wrtho. Mae nhw'n medru dwad drw dwll y clo," ebra Bob, achos mi glywis i modryb yn dcud lot o'u hanes nhw." Twt, hen ferch ydi dy fodryb, wyddost, a mae hen ferchaid yn credu miawn sprydion a chanwylla cyrph a phethau felly. Hwrach y medar yspryd ddwad drw dwll clo, ond mi fetia i chwech na fedar o ddim dwad drw blancia modfadd, o'r hyn lleia heb neyd digon o dwrw i'n deffro ni ein dau." Rol argyhoeddi Bob o arferion a thuedd- iadau naturiol sprydion, ac iddo fynta weld nad oedd dim posib i yspryd ddwad aton ni i'r ogo tra roedd ei cheg hi wedi ei chau i fyny efo plancia, dyma Bob yn mynd i gysgu. Oiud fedrwn i ddim cysgu o gwbwl, rwsut, achos roedd fy meddwl i efo'r boc& a'r aur. Dyna lie roedd o yn y gornal o fiawn teirllath ne bedair i mi—digon o aur yno fo i Bob a fina brynu llong iawn a throi allan yn beirats o ddifri calon. Hwrach mai arian peirats oedd yr arian yn y bocs yna, achos roedd un o lyfrau'r ysgol yn deud fod ogo yn ymyl Criccieth y buo smyglars a phobol felly yn cario nwydda iddi hi ys talwm, a mae'n reit siwr mae smyglars ne beirats oedd wedi dwad a'r aur yma i'r ogo, ac rol ei giddio a chau ceg yr ogo gyda plancia a thywyrch yn reit ofalus, iddyn nhw fynd i ffwrdd, cael eu dal a'u crogi, a wedyn i bawb fethu dwad o hyd i'r ogo tan ddaeth Bob a fina yno a dwad ar ei thraws hi yn ddamwein- iol fel hyn.* Fel ron i'n pendroni wrth feddwl am lianas yr hen amsar gynt, yn meddwl sut yr oedd y smyglars wedi hel yr holl aur a'i giddio fo yn y fan yma a wedyn yn gorfod colli'r cwbwl a syrthio i ddwylo'r xeismon, dyma swn rhwun yn sisial deud rhwbath yn ddis- taw bacli wrth geg yr ogo [* Mae Wil yri berffaith gywir yn ei dda:p- luniad o ogof ger Criccieth. Ceir yno luaws ohonynt, a lianesion rhyfedd yn eael eu dyweyd am bron yr oil; yn enwedig am un, sef yr Ogof Ddu, i'r hon, medd hen draddod- iad, yr aeth pedwar pibellydd yn ddamwein- iol, dan chwareu eu pibellau a chanu, a myned yn mlaen ar hyd yr agorfeydd tywyll- ion lies iddynt gael eu hunain bedair milldir o dan y ddaear, ac iddynt yn y diwedd ddod allan yn mhen arall yr ogof, yn Mhennant, a gelwir y lie hwnw hyd heddyw Braieh-y- Bib. Y mae sicrwydd y byddai smyglars yn arfer cuddio eu nwyddau yn rhai o'r ogofeydd hyn yn yr hen amser da gynt pan oedd Sior yn teyrnasu. Felly ni ddylid pasio heibio hanes ogof Wil yn rliy ysgafn, oblegid y mae hi yn aros hyd heddyw gerllaw Criccieth. Ewch yno i'w gwel'd hi. Mae Criccieth yn He hyfryd i dreulio "holidays."