Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

E lithrodd y gair "ewynol" yn rhwydd ar lafar gwlad yn wenol," ac felly fe ddaeth Rhaiadr Ewynol (oherwydd yr ewyn dwr yn y lie) yn Rhaiadr y Wenol, a dilynodd y Saeson y llygriad trwy alw y fan yn Swallow Waterfalls. 0 gyfeiriad Capel Curig am Bettwsycoed araf dreigla ac ymddolena yr Afon Llugwy i ym- uno a'r Gonwy, ond rhyw ddwy filldir o'r Bettws torir ar dawelwch cymhariaethol y Llugwy gan ddisgynfa sydyn yn ei gwely, ac nid oes ganddi ddim i'w wneyd, canys M6r, mor i mi," ydyw ei chan, ond disgyn bendramwnwgl i'r llyncle islaw, a dyma a elwir RI-aiadr y Wenol, i'r hwn fan yr atdynir miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Y mae'r olygfa, pan fydd y llifogydd yn gryf a llawn, yn hynod arddunol a phen- syfrdanol. Gwelir fod yma fath o ddwy gwymp, ac ond troi o'r ffordd Lwr at waelod yr ail. c-.Ii- olygfa dduniadol iawn. Yn y

RHAIADR Y WENOL