Hide Articles List

1 article on this Page

Y BACHCEN A SAETHWYD

News
Cite
Share

Y BACHCEN A SAETHWYD FERMDY unig oddeutu tair milldir oddiwrth dref gyffiniol; cegin eang, a theulu mawr tan coed fflamllyd a hogyn gwyneb-awyddus yn darllen ar yr aelwyd. Mae y llanc wedi cael ei Iwyr lyncu gan weithrediadau rhyfeddol a dychrynllyd y tylwyth teg, bwciod, a'r gwylliaid, bron yn lluddedu am gynhyrfiad fel y mae yn olrhain tynged tywysogion godidog a thywysogesau prydferth ar y tudalenau swynol o'i flaen. Mwy treiddiol, a mwy treiddiol fyth, mae dyddordeb y chwedl yn cynnyddu; mae llygaid yr hogyn yn melltenu, ei ddwylaw yn crafangu yna mae ei holl gorph yn crynu, uclieiiaid- Jim wyt ti yn clywed 1" Gyda Ham mae y llanc ar ei draed—" E ?" E! ydy hyna ryw ateb i'w roddi i'th fam ?" e r Gwarchod fi, fachgen wyt ti wedi colli dy synwyrau ?" E?-Oli-h-h!-Ie!" Yr oedd hyn oil yn cael ei gynnyrchu gan ysgydwad dyner; ac fel hyn wedi ei adferu i ymwybyddiaeth o'r presennol, diflanodd yr ellyllod am hyn o bryd. Ie meddai drachefn. 'Nawr, dyna rywbeth yn debyg i synwyr, yn dangos nad ydy dy ymenydd yn berffaitli hollol ar grwydr." "Faehgen," meddai ei dad yn awr, "wyt ti yn clywed 1" "Ydw, nhad." Wel, cerdd ar neges dy fam ar unwaith. Cymer y pony, brysia-y mae'n noson dywyll." Nid yw'r hogyn yn petruso cyflawni'r gorchymyn; ond fel y mae yn troi i ufudd- hau, y fath wedd sydd yn gorchuddio ei wyneb! Y mae yn derbyn cyfarwyddiadau ei fam mewn distawrwydd, a chyda chip-olwg hwyr- frydig ar yr aelwyd gysurus y mae yn cerdded allan i'r tywyllwch nosawl. Y mae yn ganol gauaf; mae y ddaear yn galed gan rew, ac nid oes ond goleu gwan oddiwrth ychydig o ser gwasgaredig. Cvfrwywyd Jack, y pony, rhodd Jim -'All right" hytrach bruddaidd, a ffwrdd ag ef. Mae y ffordd yn dywyll i'r eithaf, a thuhwnt i bobpeth y mae hen "chwarel" ÙiJddnydd, amgylchynedig gan goed sydd yn e;ln ch fel drychiolaethau a chanddyr>t y evsgodau lv wyaf anymunol, oddeutu milldir v 0 allan o'r dref. Jack, yn gwybod pob cam o'r ffordd, a fywiog brysurai yn mlaen. Eisteddai Jim yn llonydd iawn, ond y mae meddwl y llanc, chwyrncllu fel y mae gan ddychymygion a meddyliau rhyfedd, yn cael ei feddiannu gan argoelion ysmala, yn mysg pa rai y mae cysgodion y chwarel" yn ffurfio gyda phwysigrwydd mawr, sydd yn pwyso yn drwm ar ei ysprydoedd. Felly yn brawychu wrth adsain carnau Jack, yn gwrando yn ofnus am bob swn an- arferol, ac yn crynu wrth weld y coed noeth- lwm ar ei lwybr, y mae dewrder Jim yn buan gyrhaedd ei eithafbwynt, eto gyda chalon suddedig ac ymenydd cynhyrfus, yn mlaen ac yn mlaen, mae yn myn'd. Y fath dywyllwch ellyllaidd! a'r fath sein- iau swyn-gyfareddoll Y mae hyd yn nod si y gwynt nosawl a rhywbeth annymunol ynddo! Ond y mae Jim yn bwriadu cyf- lawni y daith bydded mor ofnadwy ag y gall fod, felly yn mlaen yr a. 'Nawr, er yn benderfynol eto i wneyd, neu (byddai yn well gan Jim beidio dyweyd) y mae braidd wedi ei ddymchwelyd gan ar- swyd ofnadwy o'r "chwarel." Yn nes ac yn nes mae yn dod, mwy a mwy angerddol y cynnydda'r wasgfa, nes acw, o'i flaen, oil yn ddu, hyll, ac ofnadwy y gorwedda. Un cymhelliad gwyllt i droi a ffoi, un pen- defyniad cyndyn, i fyn'd yn mlaen. Yn mlaen mae yn myn'd ac ar y dde i Jim ar y foment hono mae y lie mwyaf annymunol ar yr holl ddaear. Wedi ei ddychrynu bron allan o anadl mae yn mynd fewn i'r cysgod. Y mae yn ofni swn lIym carnau Jack rhag y byddai i ryw elyn ofnedig gael ei ddwyn o'r dyfnderoedd tywyll, ac y mae pob ergyd yn disgyn fel cnul ar ei galon grynedig. Pe byddai holl ysprydion drwg y ddaear a'r awyr wedi ymgynnull i'w rwygo aelod oddi- wrth aelod yn eu gloddestau gwallgof, braidd gallai Jim druan deiinlo yn fwy sicr fod tynged ofnadwy yn ei aros. Y mae yn dychymygu creaduriaid ellyllaidd o'i flaen, o'i ol, ac o amgylch iddo; y mae yn teimlo dwylaw drychiolaethus arno. Ysgrechiai pe gallai, a phe meiddiai. Ond 'nawr, o'r diwedd, mae wedi myn'd heibio! Y mae Jim mewn dyryswch. Pa fodd a phaham y mae eto heb ei niweidio? Nid yw yn gwybod eto. Ond 'nawr mae y ffordd, hyd yn hyn mor oer a thywyll, yn ymddangos fel llwybr o flodau. Gallai ganu a chrio ar yr un pryd, ac eto nid yw yn gwneyd dim o'r fath beth. Wedi ei ryddhau fel ag y mae, yn mlaen yr a yn ddistaw—yn ddistaw iawn. Cyrhaedda y dref, cyflawna ei neges fel un mewn breuddwyd, ac yn llwythog o'r di- wedd cychwyna tua chartref. Nid yw'r ofn wedi ei wir adael o gwbl, a braidd mae ei daith tuag adref wedi dechreu nag y mae yn dychwelyd gyda nerth deg cymaint. Etc mae yn teimlo ei hun dan ddylanwad dych- ryn anorchfygol; eto mae y cysgodau ar oil a allant guddio yn dirwasgu ei yspryd; ac yn awr mae yn myn'd felun i gyfarfod a'i dynged. Ond y mae goleu gwyllt yn ei lygaid; yn sicr y mae yn ffyrnig yn awr. Ydyw; ac y mae yn mynegi iddo ei hun y gwnaiff ymdrech, ac os bydd raid, ymdrech fawr, am ei fywyd. Mae y magnel rhyfedd yna, y "chwarel," yn ei dynu mlaen. Eto, er fod per- ygl yn ei aros, yn mlaen y rhaid iddo fyn'd. Gan drotian y tro hwn yn wrol i fyny, y mae yn ymsuddo i gysgodion y "chwarel," ac arswyd yn ymgasgluoamgylch iddo. Beth yw'r si neu'r cleciad yna ? Mae Jim yn taflu un olwg yn ol. Bang !-SwrL uchel. 'llwyf wedi fy saethu Neidia Jack yn mlaen. Mae Jim gyda'i law aswy yn wasgedig at ei ochr, yn gafaelu yn y ffrwyn gyda'i dde, a'i unig feddwl sydd am gartref-gartref, ac yno i farw Mae yn glynu yn mlaen, gan daro'n gyffrous asenau'r pony a'i sodlau, ac y mae Jack yn ymestyn allan gydag egni. Y mae yna swn bwrlwm- aidd with ochr Jim mae yn teimlo ei fywyd- waed yn treiglo lawr, ac yn mlaen, yn mlaen yr eheda am gartref. Gyda'i ben yn blygedig yn mlaen, ei law yn gwasgu yn dyn dros y clwyf, ac yn dal yn ffyrnig yn mlaen, mae yn llafurio yn wrol yn erbyn y gwaghad arswydus yna, bwrlwm- iad yr hwn sydd mor gyson yn ei glustiau, ac eto mae'n cymhell Jack yn gyflymach, gyf- lymach fyth. Mae'r anifail bach dewr yn ateb yn af- dderchog, rheda yn gyflymach, a chyflymach eto am gartref. Syrthia'r ewyn o'i enau ond nid yw byth yn tramgwyddo. Rhuthra'r gwynt yn y glust, ac eheda'r coed a'r perthi heibio fel pe bai ganddynt adenydd. Byth yn llaesu yn mlaen yr ant, camrau dewr Jack byth yn methu fel mae yn cynnal ei farchogwr fyny o hyd. Druan o Jim pe bai ond gallu dal i fyny hyd nes y cyrhaedda'r aelwyd adawodd prin ddwy awr yn ol, yno i ddiweddu y profiad mwyaf dychrynllyd o'i fywyd, byddai yn foddlon. Ond y mae o hyd yn clywed y swn clafych- aidd yna, a theimla'r ffrwd arswydus yna. Fe all gwympo, ac yna bydd pobpeth dros- odd. A wnaiff-a all ei wneyd ? Gall gall oblegid acw, o'r diwedd, mae cartref. Gan braidd gwympo oddiar y pony, mae'n tare yn erbyn y drws. Teflir y ddor yn agored. Gyda gwyneb gwelwlas a i fewn, disgyna i gadair, a dywed un waith yn ych- waneg y geiriau ofnadwy, "'Rwyf wedi fy saethu