Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
MR WILLIAM BEVAN, LLANDUDNO.
News
Cite
Share
MR WILLIAM BEVAN, LLANDUDNO. Un o'r arwyddion goreu o weithgarwch, yni, dyfalbarhad, a llwvddiant trefwr ydyw ei weled, yn anterth ei oedran a'i iechyd, yn alluog i ymneillduo o fasnaeh mewn amgylch- iadau dedwydd, yn 11a wn parch ac anrhyd- edd. Un o'r. rliai hyny ydyw Mr William Bevan, ironmonger, yr hwn y dyddiau hyn sydd yn rhoddi ffordd i'w feibion o'r tu ol i'r counter a'r cyfrifon, ac ar fedr treulio y gweddill o'i oes mewn ymneillduedd cymhar- iaethol. Cymro o'r Deheudir, yn deall ond heb fedru siarad Cymraeg yn groyw, ydyw Mr Bevan, genedigol yn Gower. Wedi treulio cwrs o, brentisiaeth yn masnach yr iron- mongery yn Abertawe, daeth i Landudno rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac yn fuan sefydlodd fasnacli ar ei ran ei hun yn Mostyn-street, ac wedi cael cychwyn da yn yr adeg fywiog I10110 ar waith yn y lie, enill- odd safle o radd i radd yn y dref, fel yr oedd yn un o'i phrif fasnachwyr. Gwelodd y trigolion y teilyngai gwr oedd mor ymdrech- gar gyda'i amgylchiadau ei liun gael ei osod mewn safle i edrych ar ol helyntion cyhoedd- us y dref, ac yn Mehefin, 1875, cawn ef yn aelod o'r bwrdd lleol, a byth er hyny daliodd yr un swyddogaeth yn y senedd drefol. Saf- ai yn bedwerydd allan o'r saith dewisedig yn ei etholiad cvntaf, ond bob tro ar ol hyny safai yn flaenaf. Yn 1881, ar farwolaeth Mr Bulkeley Hughes, A.S., Mr Bevan a etholwyd i'r gad- air, ac yn 1891 a'r flwyddyn ganlynol etho-1, wyd ef drachefn i'r unrhyw safle anrhyd- eddus. Yr oedd nid yn unig yn gadeirydd galluog, end hefyd yn wr teilwng i gyn- nryehioli Llandudno i.iewn amgylchiadau ncillduoi. Arddangosodd hyn yn ystod ym- weliad ei gydwladwr, Arglwydd Faer Llun- dain (Syr David Evans) a'r ymdrochle pobl- og:iidd, ac yr oedd y:t¿glw'idd faer" wrth ei fodd gyda'r modd deheuig y cyflawnodd y "maer lleol" urddau prif wr" Llandudno. Bu Mr Bevan hefyd yn ddefnyddiol iawn i'r dref ar y pwyllgorau, yn enwedig pwyllgor y gweithoedd, ar ba un y bu yn gadeirydd am ugain mlynedd. Llanwodd y masnachwr diwyd hefyd safle- oedd pwysig ereill yn Llandudno. Cymer- odd lawer o ddyddordeb gydag addysg, ac efe ydyw cadeirydd y bwrdd ysgol yno er's llawer blwvddyn. Am y pum' mlynedd a basiodd efe a fu gadeirydd y Llyfrgell a'r Ddaiilenfa, ac y mae ei ddyddordeb yn y sefydliad hwn yn fawr a gwerthfawr. Fel un o gyfarwyddwyr y Pier a'r Pavilion, bu bob amser o blaid "cynnydcl a diwygiad" gyda'r anturiaeth hwnw, hyd yn nod pan oedd mewn amgylchiadau cyfyng, a cha y pleser heddyw o weled y symudiad yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus. Bu yn ffodus gyda chael yn gymhares bywyd un o'r boneddigesau parchusaf a mwyaf deallus yn Llandudno, sef un o ferched yr Hybarch Mr Job Jones, a fu am flynyddau yn arolygu Sefydliad y Goleudy ar Ben y Gogarth. Mae'n sicr y datgenir gobaith evffredinol yn Llandudno a clivlch- oedd llawer eangach y ca Mr a Mrs Bevan oes faith i fod yn ddefnyddiol yn eu hym- neillduedd haeddiannol, ac hyderir y cant y mwynhad o weled eu plant a'u hwyrion yn rhai o bobl flaenaf a mwyaf gwasanaethgar Llandudno a phob man yr elont iddo.
Mil W. B. C. JONES, CRICCIETH.
News
Cite
Share
Mil W. B. C. JONES, CRICCIETH. Y mae Mr Walter Butler Clough Jones, a breswylia ar hyn o biyd yn Mynydd Ednyfed, Criccieth, yn bur adnabyddus yn siroedd Ar- fon a Meirion fel goruchwyliwr ystadiau Mr H. J. Ellis-Nanney, Gwynfryn, yn y ddwy wlad hyn, ac fel trysorydd sirol Caernarfon. Brodor ydyw o Gorwen, a mab i'r diweddar Mr Jones, goruchwyliwr i Syr Robert Vaughan, Nannau. Gall Mr Walter Jones, fel un arall, ddyweyd am ddyddiau ei fach- gendod- "Y Wendon fu'n gwirioni Yn lan fy hen anian i." I'r nor yr aeth efe, bachgen o ganol y tir, yn gv nnar ar ei oes, a chyda'r yni a'r pender- fyniad hwnw sydd hyd yma wedi ei nod- weddu, yrnwthiodd yn mlaen nes dyfod i saf- leoedd pwysig. Morwr oedd efe yn nyddiau y llong fawr hynod Great Eastern," a phan oedd hono yn addaw bod o wasanaeth mawr i'r byd trafnidiol, yr oedd Mr Walter Jones yn ail swyddog ar y Lefiathan gywrain ond afrosgo. Mae lie i gasglu mai blino a ddarfu ef, tuag adeg marwolaeth ei dad, ar fywyd y morwr, canys cawn ef yn ymaefydlu yn Oor. wen fel surveyor, cyfrifydd, a goruchwyliwr eiddo. Yr oedd ganddo fanteision mawr yn y cyfeiriadau hyn trwy ei ddygiad i fyny, ei fawr brofiad, a'i gysylltiadau teuluol, canys y mae iddo gyfathrach a rhai o brif dir-ber- chenogion a pliobl tiroedd Meirionydd. Yn 1871, penodwyd ef yn agent ystadiau Mr Ellis-Nanney, ac yn y swydd hono daeth i lawer o sylw o dro i dro mewn materion politicaidd, ac yn enwedig yn nglyn a'r Ddir- prwyaeth Dir a gynnaliodd ei heisteddiadau yn ddiweddar yn y Bala, Pwllheli, a lleoedd ereill. Ond ni pherthyn i ni yma feirniadu yr amgylchiadau hyny, eitlir nid o'i le ydyw dyweyd fod Mr Walter Jones yn un o ateg- wyr cadarnaf a mwyaf gweithgar y cyfun- drefnau Ceidwadol, Eglwysig, a Thirol fel y safant yn bresennol, a bob amser arddangos- odd ddewrder ac unplygrwydd gyda dadleu dros, cynnal i fyny, a gweithio dros yr ag- weddau hyny ar bethau. Yn mhen peth amser ar ol dyfodiad Mr W. Jones i Griccieth aeth y swydd o drysorydd sir Gaernarfon yn wag, oherwydd marwol. aeth Mr Picton Jones, Pwllheli. Ar law ynadon y brawdlys chwarterol yr oedd llenwi y gwagle. Cafodd Mr Walter Jones ei ben- odi i'r swydd gan fwyafrif yr ynadon. Ar y mater hwn, dywedwn yn unig i'r penodiad- nid am ddim yn bersonol yn erbyn yr un a benodwyd—arwain i rwyg ar y fainc ac i ym- neillduad bythol y diweddar Arglwydd New- borough o fywyd cyhoeddus. Y mae Mr Walter Jones yn parhau i ddal yr unrhyw swydd o dan y Cynghor Sirol. Fel yr awgrymwyd, dyn o yni anarferol ydyw Mr Walter Jones, ac y mae hyny i'w weled yn bur amlwg yn nghymydogaeth