Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
AT EIN QOHEBWYR
News
Cite
Share
AT EIN QOHEBWYR HOGYN O'R DREF.-Gorl-nod o gwn sy'n blino'r gohebydd hwn. Tra yn dafcgan clcdydd y cwn defaid, Tango, Pero, a Cipar Chwibren Isa, a chwn doniol a diniwed felly, fel creaduriaid anhebgorol i'r bugail a'r ffermwr, i fugeilio defaid, i wylio'r buarth, i lielalr gwartlieg, i chwareu a'r plant a'u ham- ddiffyn, ac i alaru am danynt wedi yr elont ymaith, a'u croesawu adref yn ol, a chant o bethau dymunol; eto, y mae o'r farn fod gormod o gwn yn y trefydd. Y mae efe yn sangu ar eu traed, yn maglu ar eu traws, y maent fel pla mewn ambell heol, yn cyfarth yn y dydd, ac yn udo yn y nos. Y mae yn methu deall pa les ydyw y St. Bernard Dog, er hardded anifail ydyw, mewn tref, pa angen sydd am danynt yn yr heolydd, lie nad oes mynachlogydd ddeng mil o droed- feddi uwchlaw arwynebedd y mor, na dring- wr anturiaethus i'w achub o'r eira oesol. Pa ddefnydd yw y bulldog mewn ty, neu yn rl.'wystr ac yn attalfa ar lwybr neb? I ba beth y mae'r mastiff yn da, lie na byddo na gardd, na plierllan, na buarth, yn galw am ei wasanaeth ? Ac yn benaf oil, pa les ydyw y lap-dog tragwyddol a anwesir cymaint gan ein boneddigesau, y siaredir cymaint am danynt, y telir symiau mawrion am danynt gan foneddigesau fel Lady Clara Vere de Vere, yr hon sydd yn eu porthi a llawer gwell bwyd na chyfran lwydaidd y tlawd a feiddia ddyfod at ddrws y cefn i ofyn am damaid. Y mae "Hogyn o'r Dref" am eu difa i lai na banner eu, rhifedi presennol, fel pethau gwaeth na di-alw-am-danynt, ac ar yr un pryd yn dymuno datgan ei dosturi tuagat y creaduriaid rhesymol hyny nad oes gan- ddynt rywbeth teilyngach i roddi eu serch arnynt. Y mae efe wedi clywed cerddor- iaeth Wagner a'i Lohengrin, German bands, a hurdigurdies, a phethau felly, fel na raid iddo ofni clywed yr un o'r cwn yma-y mae yn galw am ddwrn y gyfraith arnynt—yn cyfarth arno; ac y mae'n taro 'i law ar y bwrdd nes y mae'r llestri te yn dawnsio i selio ei brotest yn erbyn cwneiddiwch y trefydd yma. SARAH.—Hen ferch allem ni feddwl ydyw Sarah. Y mae hi'n gofyn a oes neb o ddarllenwyr "Papur Pawb," heblaw hi ei hun, wedi sylwi fod syclider yr haf diweddaf wedi effeithio ar 15ryd a gwedd nifer mawr o'r rhyw deg fel rheol. A oes neb wedi sylwi mor ebrwydd yr oedd y gwallt yn troi yn frith ac yn wyn yn ystod y misoedd sychion hyny pan oedd y gwynt yn codi llwch i lygaid pobl, ac yn gwneyd i wynebau boneddigesau edrych yn llawer hynach nag o'r blaen? HOGYN O'R WLAD.—Y mae ef yn anfon i ni ymddyddan a glywodd yn y wlad rhwng dwy ferch ieuanc y dydd o'r blaen, pan oedd ef ei hun yn ymguddio o'r tu hwnt i'r gwrych:- Mari: "Dyma fi 'rwan yn saith ar hugain oed, ac mae'n debyg iawn fod yma amryw yn yr ardal yma yn siarad ac yn rhyfeddu p'run a ydw i'n medwl priodi neu beidio bellach. Yr ydw i wedi bod yn meddwl anfon i Papur Pawb" i ofyn beth ydyw yr oedran priodasol, rhag i mi ryw ddiwrnod gyflawni mesur fy henferchyddiaeth i'r fath raddau nes gofyn 'pwy cymerith fi l' Betsan: Paid a thori dy galon, Mary, tydi yr oedran priodasol ddim 'run fath yrwan ag oedd o ddeng mlynedd yn ol. Yr ydw i yn cofio darllen lot o nofels yr amser hono pan yr oedd yr arwres bob amser yn un ar bymtheg, ac yr oeddan nhw yn cy- meryd dwy flynedd i ymladd ag amgylch- iadau, ac wedi iddi gyrhaedd yr oedran mawr o ddeunaw oed, yr oedd yr holl ddyddordeb ynddi wedi darfod. Yrwan, 'does neb yn son am arwres yn y nofels na fydd hi yn chwech ar hugain oed o leiaf, ac os cymeri di y drafferfch o edrych dros restr y priodasau, migei wel'd fod y mwyafrif ohonynt ar du y briodferch yn amrywio o bump i ddeg ar hugain oed. Ac heblaw hyny, sut y gall hogan un ar bymtheg neu ddeunaw oed ffurfio barn gywir am werth dyn a'i wir gy- meriad, neu pa fodd y mae tymherau y naill y Hall yn cydgordio a'u gilydd?" Mari: 'Rwyt ti'n siarad rheswm bob ergyd, Betsan, 0 ran hyny, sut y gall hi? 'Roedd- wn i wedi arfer meddwl mai goreu po ieuengaf, er mwyn i'r ddau gyd-dyfu a chyd- ymddadblygu yn ngliwmni eu gilydd, ac felly y byddai llai 0 gwerylon a mwy 0 gariad gwreiddiol rhyngddynt. Ond mae'n dda i ni'n dwy, Betsan, fod y syniad yna wedi myn'd o'r ffasiwn, ac y byddai yn well i ninnau fod allan o'r byd nac allan o'r ffasiwn bresennol o ddadleu ein hawliau ein hitnain fel merched Efa, mewn llys yn gystal a llan." Ymadawodd y ddwy yn fwy 0 ffrindiau nag erioed. SUSANAH.—Y mae llawer 0 bethau i'w dyweyd 0 blaid y ddawns. Y mae yn ym- arferiad corphorol iachus. Gellir dyweyd oddiwrth ddull y ddawns pa un ai iach ai peidio ydyw dawnsiwr neu y ddawnsyddes. Y mae gwendid corphorol neu syrthni a marweidd-dra i'w weled mor amlwg a byw- iogrwydd a hoenusrwydd corphorol yn y ddawns. Byddai yr hen bobl yn rhoi esgus dda dros i feibion a merched ieuainc fyned i'r ddawns er mwyn cael gweled pwy fyddai o duedd gysglyd neu effro eyn meddwl am briodi,
Advertising
Advertising
Cite
Share
A SIGNAL SUCCESS. cc'Tis not in mortals to command success, but ve'll do more Sempronius we'll deserve it.' THE PEARSON POTTERY CO., HANLEY, Are selling fast the most wonderful Packag of Crockery in the World. 100 PIECES FOR £115 Pattern of Dinner Set. A beautiful Dinner Service of 50 Pieces is guaran- teed WORTH THE GUINEA ALONE; consequently, a charming China Tea Service and a useful Collection of Crockery is given for nothing. Thousands Sold all over the World. Everybody not only satisfied but amazed at the quantity and quality given. The Secret of the Success. THE PEARSON POTTERY COMPANY are Manufacturers; not Middlemen, like many other Advertisers. THE PEARSON POTTERIES have nearly 2000 feet frontage to the Town of Hanley Hundreds of Packages have been sold for Wedding and Birthday Presents. And what better present can be given? Every item useful in any home. The 30s. BazaaT Parcel selling well. Apply at once Send a Post Card for particulars. You will nevei regret it. Freedom from breakage guaranteed. All Letters to the Pearson Pottery Company, Hanley. In the musical and more ancient Welsh language, the above Advertisement relative to the PEARSON POTTERY COMPANY reads as follows:— LLWYDDIANT NODEDIG. Nis gall marwolion gipio llwydd, Ond nid peth rhwydd yw'n maeddu; Fy nghyfaill gwiw, fy hyder yw Y gwnawn rywfodd ei haeddu." MAE'R Pearson Pottery Co., Hanley Yn cyflym werthu y Sypyn rhyfeddaf yn y Byd 0 Lestri Pridd. Cant 0 Lestri am G-ini!! Gwarantir fod y Llestri Ciniaw hardd (50 o wahanol rai) yn GYFLAWN WERTH Y GINI. Gan hyny rhoddir y Llestri Te China swynol a detholiad defn- yddiol o Lestri ereill am ddim. Gwerthir Miloedd led-led y Byd. Boddlonir, ie synir pawb, pan welont nifer ac ansawdd y Llestri. Dirgelwch y Llwyddiant. Gwneuthurwyr ac nid Canolwerthwyr fel llawer 0 Hysbysebwyr ereill yw'r PEARSON POTTERY COMPANY. Mae gan WEITHFA PEARSON ffrynt o 2000 0 droedfeddi yn Nhref B anley, Cannoeddo Sypynau wedi eu gwerthu fel Rholdion Priodasol a Phen Blwydd. Pa well anrheg ellir roddir Pob llestr yn ddefnyddiol mewn unrhyw gartref. Mae Sypyn y Bazaars (30s.) yn gwerthu yn gampus, Ymofyner rhagblaen. Anfoner Post Card am fanylion. Ni cheir achos edifarhau. Gwarentir na fydd i'r Llestri gaal eu dryllio. Cyfeirier pob Llythyr i'r Pearson PQttery-C, Q., Hanley