Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HWYR-GAN Y BARDD.

News
Cite
Share

HWYR-GAN Y BARDD. [Am y Uinellau isod, dywed y Canon Ainger iddynt gael eu cyfansoddi pan ydoedd Ten- nyson yn 81 mlwydd oed, ar derfyn dydd, wedi iddo groesi llif y Solent, rhwng Aid- worth a Farringford. Ychwanegay CanoH eu bod yn rhygysegredig i gael eu cyJfwrdd gan ddwylaw oerion Beirniadaeth.] Sunset and evening star, And one clear call for me And may there be no moaning of the bar When I put out to sea. But such a tide as moving seems asleep, Too full of sound and foam, When that which drew from out the bound- Turns again home. [less deep Twilight and evening bell, And after that the dark And may there be no sadness of farewell When I embark. For though from out our bourne of time and place The flood may bear me far, I hope to see my Pilot face to face When I have crost the bar Wele isod Gymreigiad ohonynt gan An- thropos: Haul-fachlud, a seren yr hwyr, A doed galwad glir i mi, Ond na foed lleddf-nod o fewn y bau Pan fyddwyf yn croesi'r lli. Ond llanw dwfn-dawel, fel hun, Rhy dawel i ewyn a thon, Pan ddychwel a ddaeth o'r pell-bell for Yn ol drachefn ar ei fron. Cyfnos, a hwyraidd gloch, Ac wed'yn tywyllwch ddaw, Ond na chlywer acen ffarwel brudd Pan fyddwyf yn hwylio draw. Ac er o ffiniau Amser a Lie I'r dylif fy ngludo'n mhell, Rwy'n disgwyl cwrdd fy Nghapten cu Ar wyn-draeth yr Ardal Well Cyfieitha Mr James D. Symmons, Aber- gwaen, fel hyn:- Hwyr-ddydd, a seren nawn, Ac un glir wys i mi, A'r bar na fydded yn gwynfanus iawn, Pan allan af i'r Hi. Ond fel yn ngwsg, er symud boed y mor, Rhy lawn i swn na swyf,* Pan a'r hyn dvnodd maes o'i eang stor Gartref i'w "blwyf." Hwyr-ddydd a nawnol gloch, Ac wed'yn nos a ddaw, Ond na foed ffarwel brudd, na chrio croch, Pan hwvliaf draw. *ewyn Can's er o le ac amser gwna y don Fy nghludo mhell a'i gwar, Gobeithio 'rwyf gael cwrdd a'm Llywydd lion 'Nol imi groesvr bax. Wele hefyd Gymreigiad arall gan D. R. Maehlud haul a seren hwyrol Ac i mi un alwad glir Ar y bar dim cwyn ruddfanol Pan y byddwy'n gado'r tir. Trai rhy ddwfn i dwrf ac ewyn Fel mewn cwsg yn myn'd o'r traetli, Pan el adre' i'r aig ddiderfyn Yr hyn oddiyno ddaeth. Gwyll y cyfnos, cloch yr hwyrnog, Ar ol hyny t'wyllwch du Na foed ochain prudd o'm aehos Pan y codir f'angor i. Pell o barthau Lie ae Amser, Dwg y don fi ar ei gwar, Gwel'd Tywysydd yw fy hyder Ar ol i mi groesi'r bar

" AI MARW FYDD EIN HIAITH…

PUMMED RESTR 0 WOBRWYON

GWOBRAU MISOL.

TELERAU.