Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

AWQRYMIADAU CYFREITHIOL

News
Cite
Share

AWQRYMIADAU CYFREITHIOL ANIFEILIAID CRWYDREBIG. Gyda golwg ar anifeiliaid o unrhyw fath, yn geffylau, gwartheg, defaid, a moch, &c., a geir yn crwydro ar, neu yn gorwedd o gwmpas y brif-ffordd, neu ar draws unrhyw ran ohoni, neu ochrau y ffordd (heblaw yn y manau lie mae y brif-ffordd yn myned dros gomins neu gyttir), y mae y perchenogion yn gyfrifol dan ddirwy o bum' swllt am bob anifail, i'w talu yn gyfanswm, yn nghyda'r gost o symud y eyfryw anifeiliaid i'w dir ei hun neu y warchau gyffredin. Ond nis gellir dirwyo yn uwch na deg swllt ar hugain a'r costau am y trosedd cyntaf. 6:YRU NEU FARCHOGAETH YN WYLLT. Os bydd i unrhyw berson farchogaeth unrhyw farch neu anifail, neu yru unrhyw fath o gerbyd, mor wyllt a ffyrnig fel ag i beryglu bywyd neu gymalau [unrhyw ym- deithydd, y mae yn agored, os profir yn euog, i ddirwy o bum' punt, ac os eiddo y gyriedydd fydd y cerbyd, deg punt. PETHAU CAS A PHERYGLUS AR FIN Y FFORDD Nid ydyw yn gyfreithlon i unrhyw berson sincio pydew neu fwnglawdd, na chodi ager beiriant neu ryw offeryn arall o fewn pum' llath ar hugain, na melin wynt o fewn hanner can' llath i unrhyw ffordd gerbydau neu gertwyni, oni bydd iddynt fod oddimewn i ryw dy neu adeilad, neu tuhwnt i wal neu glawdd a fyddont yn ddigon uehel i guddio neu gysgodi y cyfryw beiriannau, &c., fel na byddo i deithwyr, meirch, neu wartheg, neu unrhyw fath o anifeiliaid gael eu niweidio neu eu dychrynu o'r herwydd; a gall unrhyw berson a dderbynio niwed felly ddyfod A chwyn cyfraith am y cyfryw niweidiau. Nid ydyw ychwaith yn gyfreith- lon llosgi cerig haiarn, calch, priddfeini, na golosglo (eoke) o fewn pymtheg llath i fin y ffordd oni bydd i'r gwaith gael ei ddwyn yn mlaen o'r tn mewn i dy neu adeilad, neu o'r tu ol i wal neu glawdd a'u cuddio neu a'i eysgodo. Y mae eithriadau, pa fodd bynag, lie byddo hen felinau sefydledig ac odynau ealeh. ftWALIO 0 GWMPAS ORWARELI. Lie byddo unrhyw chwarel neu gloddfa beryglus i'r eyhosdd mewn lie agored a di- glawdd o fewn hanner can' llath i brif-ffordd neu gynnullfan cyhoeddus fyddo'n eiddo'r eyhoedd, ac heb ei gwahanu a'r eyfryw le neu ffordd & gwrthglawdd digonol a dyogel, rhaid eu cadw yn warchaedig gyda chlawdd neu wal ddigonol i ochelyd damweiniau, ac os na chedwir hwynt felly, ystyrir hwynt yn beryglus ac yn agored i gael ymdrafod & hwy o dan Ddeddf y Public health. Wrth chwarel y golygir unrhyw agoriad neu gloddfa, neu bwll, neu agendor a dorir er mwyn cael cerig, llechi, calch, clai, grafel, neu dywod, ac nid un agoriad naturiol yn y tir. RHEOL Y FFORDD FAWR. Nid yw yr un gyriedydd cerbyd ar y ffordd fawr yn rhwym o gadw un ochr neillduol i'r ffordd pan fyddo'n glir, ond os bydd iddo yru ar yr ochr a adwaenir fel y wrong side, rhaid iddo fod yn ofalus, a chilio o ffordd y cerbydau sydd ar yr ochr iawn, onide bydd yn gyfrifol am unrhyw niweidiau a gyferfydd y rhai fo ar yr oehr iawn drwy ei esgeulus- dra ef, a bydd hefyd yn agored i ddirwy. BICYCLES, TRICYCLES, A VELOCIPEDES. Y mae yn ofynol i unrhyw un a fyddo yn gyru neu yn marchogaeth un o'r cerbydau hyn yn ystod yr amser rhwng awr wedi machlud haul ac awr cyn codiad haul i gario gydag ef, yn gysylltiedig a'r cerbyd, lamp yn taflu goleuni yn y cyfeiriad y byddo yn myned, ac wedi ei goleuo yn y fath fodd ag i gynnysgaeddu digon o rybudd i gerbydau fyddo'n dyfod i'w gyfarfod; a gofynir iddo hefyd wrth oddiweddyd unrhyw gerbyd neu drol, neu unrhyw geffyl neu anifail bywiog, neu deithiwr ar y ffordd gerbydau, pan o fewn pellder neu agosrwydd rhysymol i'r cyfryw gertwyni, cerbydau, &c., swnio cloch neu chwibanogl, neu mewn rhyw ffordd arall roddi rhybudd digonol o'i ddyfodiad. Un- rhyw un a droseddo ac a geir yn euog o dori y rheolau hyny a fydd yn agored i ddirwy o ddeugain swllt. SWN ANNYMUNOL YN Y TY NESAF. Y mae gan ddyn hawl i fwynhau ei hun yn ei dy ei hun mewn tawelwch. Gan hyny, os bydd i gymydog wneyd twrw yn y fath fodd fel ag i ymyryd a'r heddwch a'r lIon. yddwch a'r mwynbad rhesymol hwnw, ac achosi aflonyddwch a phoen difrifol, y mae gan berchenog a phreswylydd y drigfan hono hawl i gael ei amddiffyn rhag y cyfryw aflonyddwch, ond nid rhag swn yn cyfodi oddiwrth chwareu y pianoforte, neu blant yn y nursery, gan fod y tyrfoedd hyny i'w rhesymol ddisgwyl o'r ty nesaf ato, a rhaid eydymddwyn ag ef i fesur rhesymol. Ond y mae twrw a fyddo yn aflonyddu yn ddif- rifol ar heddwch a chysur preswylfod dyn, ac yn rhwystro i bobl gysgu y nos, os yn wastadol felly, yn gospadwy fel aflonyddweh. Gan hyny, os bydd i lawr y ty nesaf iddo gael ei droi yn ystabl, neu i ystabl gael ei hadeiladu mor agos, neu yn gysylltiedig åg aneddle neu breswylfod teulu, fel ag y byddo i swp carnau meiroh ar y llawr beri aflon- yddwch fel na allo preswylwyr yr annedd gysgu'r nos, y mae perchenog yr ystabl hono yn agorod i gosp. Mae'n sicr yr edrycha y rhyw deg o'n darllenwyr gyda pheth syndod ac yswildod ar y darlun uchod, ond y ffaith ydyw mai yr arddull yma o drefau y gwallt ydyw yr un mwyaf arferol yn awr yn ninas y ffasiynau" (Paris), ac un a arferid gynt gan yr Ymher- odres Eugenie. Gwir mai un anhawdd i ymgymeryd ag ef ydyw, ond y mae ganddo y fantais o weddu i wynebpryd ychydig yn drymaidd, gan ei fod yn ysgafnu y cyfryw, ac yn esgus cyfaddas at olwg henaidd. Nid yn fuan y daw terfyn tymhor pob arliw o bine. Mawr edmygid y ffrociau o'r lliw hwn a wisgid yn y Cyngherdd Breiniol gan y Tywysogesau Victoria a Maud o Gymru. 0 wneuthuriad Prydeinig y mae'r gwisgoedd, ae y mae Lloegr hefyd wedi troi allan y gown isaf, gydag ysmotiau tywyll ar y sidan coch siriol, o ba un y gwneir y wisg. Arferir muslin, a pine hefyd, at y llewis esgobol a'r rhan i lawr y frest.