Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr…

News
Cite
Share

rheini yn griw gwirionach na hyd yn nod y cantwrs o'r hanar. Rhw straglars dynol- iaeth ydi'r beirdd yma, efo'u gwalltia mawr, eu cadeiria, a'r olwg wirion fyddan nhw'n neyd arnynt eu hunen. Glowis di am fardd rioed fedra neyd cader! Naddo, ddim sowl ohonyn nhw. Mi fedra rhen Owen William, Weunfawr, neyd gwely a budda a phetha felly yn no lew, er ei fod o yn ei gneyd nhw yn rhy fawr i ddwad allan drw'r drws heb dynu ffrynt y ty i lawr, ond wedi'r ewbwl, toedd Owen William ddim yn fardd mawr, wyddost. Hyny ydi,"toedd o ddim yn gadel i'w wallt dyfu at ei sgwydda nac yn edrach fel 116 glyb heb hanar deffro. Roedd o yn ddyn at yr oes, ond mae'r beirdd mawr yma i gid wedi dwad i'r byd beth bynag ddwy fil o flynyddodd ar ol eu hamsar, achos er mwyn gwaredu y byd o'r giwed yma y daeth y diliw ystalwm. Ond mistec oedd y diliw gin bellad ag y mae hyna yn mynd, achos rhaid fod un o'r beirdd mawr yma wedi snecian i fiawn i'r arch rwsut heb i Noah wbod, a mae'r un hwnw erbyn heiddiw wedi mynd yn fil, a mae 999 o'r mil yn byw yn Nghymru. Bob ebrwn wrtho miawn llais difrifol, paid byth mynd yn gantwr os nad oes arnat ti eisio mynd i'r worcws, a phaid byth mynd yn fardd os nad oes arnat ti eisio diweddu d'oes yn y seilam." Roedd Bob dest wedi dychryn wrth fy nghlowad i yn pregethu, achos wydda fo ddim mod i'n gwbod cymint a hyna am ddosparthiada isa dynoliaeth. Sut bynag, gwrthod mynd i'r capal i chwibianu ar y tri hogyn allan o'r c6r ddaru o, a felly yn mlaen a ni nes dwad at y fan lie roeddan ni i gwarfod a'r lleill o'r hogia. Toedd yno neb yn 'mddangos erbyn i ni gyredd yno, ond ar un chwibaniad gin Bob dyma gwmpas wyth o hogia yn neidio dros ben y wal o'r cae i'r ffordd, pob un ohonyn nhw efo pastwn yn ei law a brechdan yn ei boced, ac yn edrach yn reit ddewr ar gyfar y fatl. Roeddan nhw wedi bod yn gorfadd yn y cae allan o olwg, am hanar awr ne fwy, yn disgwl i'w swyddogion-hyny ydi, Bob a fina-ddwad yno. Chware teg iddyn nhw am gydnabod fod gynyn nhw swyddogion, ne rei gwell na nhw eu hunen, ynte rwan ? Achos mae pobol yr oes yma bob un yn meddwl nad oes neb gwell, neb uwch, na nhw eu hunen, a felly mae pawb yn boss, pawb yn feistar, neb yn was, yr holl gwm- peini i gid yn gapteiniaid, a dim un sowldiwr cyffredin. Rydan ni yn dwad i amsar bendigedig, rhwng pobpeth, onid ydan ni, rwan, mewn gwirionadd ? Rhaid cael diwadd ar yr hen fyd yma toe, a'i ail ddechra fo yn y dechra cynta eto, ne fydd yna ddim toe ond lladd-dy lie bydd pawb yn Uadd a sathru eu gilidd. Sut bynag, wedi gosod yr hogia i sefyll yn rhes wrth ochra eu gilidd, ac i mina eu spectio nhw yn 'falus i wel'd oedd eu harfa nhw (y pastyna) yn lan a miawn trefn, dyma fi'n deud wrth y criw i gid mod i wedi newid fy meddwl, ac yn lie myn'd i ganol gwlad Lleyn y noson hono mae'r plan gore oedd i fyn'd tia chyfeiriad Criccieth a Phorth- madog. Roedd yr hogia yn reit foddlon. Felly y dylsa nhw fod, achos toes dim posib i fawr ddim gwaith gael ei neyd pan fydd pawb yn meddwl eu bod nhw'n fath o gomiti i fotio ar y peth yma a'r peth arall, a phawb yn mynu cael eu syniade eu hunen yn mlaen. Mae comiti yn beth reit dda yn ei le, ond welsoch chi rioed gomiti yn gneyd fawr o waith blaw ffreuo efo'u gilydd, a thasa sowldiwrs Pryden i gid yn gomiti cin dechra bail, mi fasa'r gelyn wedi eu hanfon nhw i'r nefodd ne rwle arall yn mhell cin iddyn nhw fedru cynig, eilio, a phasio yn unfrydol bendarfyniad yn ffafr hyd yn nod sut i gladdu'r meirw rol i'r fatl fyn'd dros- odd. Na, mae'n rhaid cael capten, a mae'n rhaid i'r comiti ufuddhau iddo fo hefyd heb ddim lol, ne mi ddaw diwadd y byd yn mhell ein ei amsar er y cwbwl fedar y cownti cownsuls neyd i'w rwystro fo. Y cwbwl wneis i oedd deud wrth y criw beth oedd raid i ni neyd. Toedd yno yr un hen biwritan hirwyntog yn codi i fyny dan besychu ac edrach yn ddoeth fel dylluan i gynig ein bod ni i fyn'd ryw ffordd arall. Mi faswn i wedi ei saethu o yn gelan taso fo yno, ond roedd o yn absennol. Felly off a ni drw'r dre dan ganu "Johnny comes marching home." Rol cerddad fel hyn am rei milldiroedd i gyfeiriad Criccieth dyma stop, a pbawb yn eista i lawr i fyfyrio. Peth mawr ydi myfyrio, pan na wyddoch chi ddim be sy o'ch blaen chi, fel y medar y myfyriwrs ddeud wrthach chi tasech chi'n ddim ond gofyn iddyn nhw, achos wyr run jac ohonyn nhw ga'n nhw le fel gweinidog ai peidio. Gida'n bod ni i gid wedi eista, ac amball un dynu ei frechdan allan o'i boced a dechra ei byta hi, a phob man yn ddistaw, dyma ni yn clowad swn y mor yn tori ar y lan. Ar hyny mi ofynodd dau ne dri ohonyn nhw i mi am ganiatad i fyn'd i lawr i lan y mor i edrach be welan nhw. Fuon nhw ddim gwerth o amsar nag oedd rhei ohonyn nhw'n gweiddi, "Dowch yma, bois, mae yma gascia mawr o rwbeth yn curo yn erbyn y lan." Roedd yr holl gwbl erill eisio ei gwadnu i lawr i lan y mor rhag blaen rol clowed hyna, ond rwan oedd yr amsar i mi ddangos fy awdurdod ne byth, ac roedd awdurdod yn bobpeth miawn ymgyrch fel hyn. Felly dyma fi'n deud wrthyn nhw'n blaen os na rosa nhw'n llonydd lie roedda nhw y baswn i yn eu seuthu nhw yn farw bob wan ohonyn nhw, a'u gadel heb run arweinydd. Cheiff dim ond dau yn chwaneg ohonach chi fyn'd i lawr," ebrwn wrthynt, a wedi i mi enwi y ddau, i'r rheini fyn'd, ac i'r lleill ail ddechra mosod ar y brechdana, a fina a Bob yn eu watsio rhag iddyn nhw i gid ddengyd, dyma ddistawrwydd am gryn hanar aws ne fwy. Wedi lot o amsar basio dyma floedd o gyfeiriad glan y mor, a mi welan rwun wrth ole'r lleuad—oedd wedi codi erbyn hyn ac yn edrach ar ol ei busnas yn iawn nes gleuo rholl wlad-yn stryglo yn galad i ddwad i fyny o lan y mor drost y brynia tywod oedd rhyngon ni a'r mor. Roedd y rhwun hwnw yn cerddad yn igam ogam ofnadwy, ac yn syrthio ar ei hyd bob yn ail a pheidio, a wedi iddo ddwad aton ni roedd ogle rum arno fo. Mae yna—hie—gasgia'n—hie—llawn o ddiod ddail dda 'fnadwy lan y mor," ebra fo, "rydan ni wedi tori hie twll yn un ohonyn nhw a wedi yfad—hie—lot," ac ar hyny dyma fo ar ei ben i ganol twmpath eithin oedd yn ymyl. Dowch i ni fynd i weld sut ddiod ddail ydi hi, bois," ebra un o'r hogia oedd efo mi —rhw ewach bach oedd yn rhoid mwy o drwbwl i mi na r lleill i gid efo'u gilidd. "Aros di lie rwyt ti," ebrwn wrtho yn reit awdurdodol, ac wedi dewis tri ne bedwar o'r lleill i fynd efo mi, dyma ni'n cychwn i lawr i weld casgia'r ddiod ddail yma. Cin bod ni wedi cyredd glan y mor, dyma un arall o'r hogia oedd wedi mynd yno yn dwad i'n cwarfod ni ac yn deud ei fod o am fynd adra at ei fam achos rydw i wedi cael synstr6c ne rwbath," ebra fo, rydw i'n gweld pob man yn troi o nghwmpas i." Well i ti beidio mynd yn agos at dy fam rwan beth bynag," eblwn wrtho. Tyrd efo mi i fyny i'r cae yna; mae yn fan yna le iawn i ti, orfadd i orphws tipin gael i'r synstr6c fendio." Mi llusgis o drost ben gwrychoedd i gornal cae a mi rhois o i lawr yn y fan hono ac roedd o yn disgin fel tasa sacbad o datws. Ond y cebyst i gid wedyn mi gollis y ffordd wrth ddwad o'r cae am lan y mor, a mi fuom am gryn hanar awr cin dwad o hyd i'r hogia. Toe, mi glown dwrw bloeddio, sgrechian a chanu mwy dychrynllyd os yr un na hyd nod canu'r cor hwnw, ac wrth fynd ar ol y swn, mi welwn yr holl griw hogia, a Bob efo nhw, wedi tori f'ordors i a mynd i gid i lan y mor. Roedd un ne ddau ohonyn nhw'n gorfadd ar eu hyd ar y traeth ac yn treio canu rhwbeth, ond am y rhan fwya o' hogia, roeddan nhw'n byhafio'n iawn.