Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr…

News
Cite
Share

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr hyn fu llawer ohonom. PENNOD XXVIII. BARN WIL AM GANTWRS A BEIRDD. RBYN tia saith o'r gloch y nos roedd Bob a fina wedi gwisgo'n hunen i fyny run fath a'r Hunie rheini o Die Turpin sy yn y llyfra ysgol. Roedd o a fina wedi gneyd colar bapur fawr am ein gwddw- un fwy o'r hanar na cholar Sul Mistar Gladstone-a wedi blycu y cledda pren wrth ein clunij, a belts o ledar am ein canole wedi eu prynu nhw yn y siop, ond belt hogen oedd gin Bob. wyddai rhen ffwl ddim sut i ofyn am dani yn iawn yn y siop. Roedd o a fina wedi sticio pistols chwe cheiniog yr un tu fiawn i'r belts hyny, ac yn ben ar y cwbwl roeddan ni wedi rhoid lot o blu ieir a gwydda yn ein capia, nes rhwng pob peth roedd yr olwg fwya goruwchnaturiol arnon ni. Rwan, Bob, wyt ti'n barod?" ebrwn wrtho. 01 reit," ebra Bob, ac off a ni i'r lie roedd y criw hogia erill i'n cwarfod ni. Os basa nhw yno o'n bleuna ni roeddan nhw i aro8 yn ddistaw droa ben y clawdd miawn cae, nes y deuthan ni yno, achss fedran nhw neyd dim heb eu swyddogion, wyddoch, hyny ydi, heb Bob a fina. Fel roeddan ni'n rhodio yn fawreddog drw'r stryd, a Bob yn edrach o'i ol yn reit amal rhag bod ei fodryb yn dwad i'w nol o i fynd adra i'w wely, dyma n'n clowad llais rhw hogen yn deud, 0, mam, daow William a Robet, sy wedi ac hub tada a chi a mina neithiwr." Ar y gair dyma'r hen iar ei hunan yn ein Ifendio ni (mam yr hogen, dalltwch chi), ac yn rhedag draws y stryd aton ni. Fuo arna i rioed gymint o gwilidd-gweld merchaid yn aedag felly at ddau hogyn ifanc diniwad a diamddiffin, a hyny ar ganol y stryd, liw dydd gole. Tasa rhwbeth felly yn digwdd yn y nos fasa arna i ddim cymint o ofn, rwsut, ond dydd oedd hi, a mae pobol Pwll. heli yn ffond o gael rhw fath o stori i siarad yn ei chylch. Toeddwn i ddim yn engejd i'r hogen ramsar hono, a felly doedd hi ddim yn gneyd peth iawn redag fel peth wallgo ar i'ol i ar ganol y stryd. "=Wel, mhlant i," ebra r hen ddynas, mam yr hogen, "i ble ddaru chi ddengyd gyneu; pam na fasech chi'n aros am dipin, achos mae Capten Hughes eisio cael mwy o'ch hanas chi ac eisio cael gneyd rhwbeth er eich mwyn am i chi'n hachub ni i gid neithiwr." Riedd Bob wedi snecian tu ol i mi, ond mi atebis i y ddynas. Oh," meddwn wrthi, roedd gin Bob a fina fusnes o bwys eisio tendio ddo fo pnhawn heiddiw, a felly dyna pam reuthan ni i ffwrdd o lan y m6r cin clowad y bands yn chwara un diwn yn chwaneg." Wel, dowch i weld Capten Hughes r wan i'r Eifl," ebra'r ddynas, mae o am neyd ei ora er eich mwyn, a hwrach y rhydd o chi ar ben y ffordd i ddwad yn fyddigions yn y byd yma Rydw i'n meddwl ein bod ni ar ben y fiordd i ddwad yn fyddigions, sut bynag," ebrwn Nvrthi, achos mae Bob a fina yn mynd i arwen miloedd o hogia heno i mosod ar bobol hyd y ffyrdd yna a dwyn pob peth fydd gynwn nhw ar eu helw. Dyna'r bobol sy'n dwad yn fyddigions rhan amla ydi rhei sydd yn medru gwagio pocedi pobol erill rwsut ne gilydd. Felly rydan ni wedi penderfynu troi yn lladron pen ffordd, run fath a Die Turpin." "Oh, mi welafl" ebra'r ddynas dan chwerthin, ond gwiliwch gael eich hunen drwbwl efo rhw chware gwirion fel yma. Felly ddowch chi ddim efo mi at Capten Hughes, rwan ? Na wir, fedran ni ddim, ond hwrach down ni at yr Eifl rwbryd tia hanar nos. Os clywch chi dwrw ofnadwy allan yn y stryd peidiweh bod ofn, achos neiff run ohonan ni ddim niwed i chi a i chi na'r hogen- wn ddim bedi henw hi," a mi daflis edrychiad slei ar yr hogen, dan gochi at fy nghlustia. Felly yn mlaen a Bob a fina. Cin ein bod ni wedi mynd o'r dre dyma ni heibio rhw gapel a'i ddrws yn agored, a dyna lie roedd y swn canu gwiriona glowis i er's pan fuom mi yn Ngnarfon. Rwba.th ;yn nghylch y m6r a'i dona oeddan nhw'n ganu; roedd o'n swnio- A'r m6r a'i dona'n rhu-u-u-u-oh, n rhu —u—oli, a felly'n mlaen am lein ne ddwy'n chwanag. Tydi rhw grancs fel hyn yn betha gwirion na wnae nhw ganu beth bynag fydd yn eu llyfra nhw heb neyd rhw hen lol gebyst felna, fel tasa atal deud arnyn nhw ? Mae nhw mor hir yn deud eu meddylia, rwsut, wrth ganu, fel tasa nhw wedi anghofio bedi'r lein nesa, a felly yn ail a thrydydd ganu yr un lein o hyd nes bydd pobol wedi blino ar eu swn drwg nhw. Mi fasa modryb Llai> farfechan yn mearci iiioid gwers i'r eora yma sut i ganu. Un iawn am ganu oedd modryb; hyny ydi, un yn medru canu yn ffast oedd hi. Toedd gin rhen gryduras ddim llawar o lais, achos rhwbath rhwng gwich Ilidiard a sgrech stemar oedd o; ond roedd hi'n medru eyfro llawar o diir miawn chydig o amsar, nenwedig pan fydda nhw'n canu "Yn y dyfroedd mawr a'r tona," yn y capal ar nos Sul, mi fydda modryb wedi gadel pawb arall yn mhell ar ol a wedi gorffan y penill ddwy lein beth bynag o flaen neb arall. Dyna chi ganu iawn, ynte ? Pwy steddfod sy'n fan yma heno, Bob ?" ebrwn wrth fy lifftenant. Steddfod," ebra hwnw, "toes yna ddim steddfod; y cor sy'n practeisio, a diawst i, rwan rydw i'n eofio fod tri o'n criw ni yn perthyn i'r cor yna, yn canu alto efo nhw." "Piti garw eu bod nhw wedi mollwng felna mor isal nes mynd i berthyn i'r un c6r. Dos i ddrws y capal yna, Bob, a chwibiana. arnyn nhw allan; mae'n ddledswydd arnon ni eu gwaredu nhw rwsut ne gilydd o ddisgres." Roedd ar Bob ofn mynd, rhag iddo gael kick owt, ac wrth ei weld o yn petruso dyma fi'n troi ato ac yn gofyn yn reit gonffidensial, Bob, toes bosib gen i y buost ti rioed yn perthyn i rhw dacla gwirion fel y cora yna ? Achos y cantwrs ydi'r bobol fwya anodd byw efo nhw yn y byd, a nhw ydi'r bobol wiriona y gwn i am danyn nhw. Mae nhw'n treilio eu horia hamddenol gida'r nos i ddysgu rhygnu rhw hen lol fel mae rhein yn ganu rwan, a tydyn nhw pan wrth eu gwaith ar hyd y dydd yn meddwl am ddim blaw canu, canu, canu. Y canlyniad ydi mai pobol y cora yma ydi'r gweithiwrs sala yn y byd, fel rheol—canu ydi eu petha nhw, brolio ell gilydd, ac nenwedig brolio pawb en hunan. Gwarchod pawb, Bob, cadw'n bell °ddiwrthyn nhw; well i ti aros adra i ddysgu tipyn o Seusnag ne rwbath fydd o Ies i ti pan ddoi di'n ddyn na phendroni efo rhw hen lol gebyst fel y canu yma. Mae canu da yn beth reit neis, ond os na fyddi di wedi dysgu gneyd rhwbath yn dda blaw eanu mi fydd gen ti siawns splendid i ddiweddu d'oes yn y worews. Mi fydda'n well gin i enwogi f'hun fel peirat ne leidar pen ffordd o'r hanar nag fel eulod o gor; bydda, myn einios Ffaro I Dyma'r bobol fwya diwerth yn pen draw, fwya di-ndd a gwirion ar eu Iles u hunen, ydi'r cantwrs yma, ag eithro amball un sy'n medru canu yn iawn, wyidost, run fath a Miss Watts ystalwm a Edith Wynn., a'r rheina, ond un o fil ydi'r rhei hyny, a fuo nhw ddim yn perthyn i rhw gora bach dima fel hyn ond am ehydig iawn. Paid byth mynd yn gantwr, Bob, a phaid byth mynd yn fardd chwa.Hh, mll.1:>