Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

TREM AR LANRWST

News
Cite
Share

TREM AR LANRWST S bydd pobl yn ymgomio am Lanrwst I ac yn holi y naill a'r Hall a fuont yn y lie, a chael atebiad cadarnhaol, y cwestiynau cyntaf a ofynir bron yn ddi- eithriad fydd, A welsoch chi'r bont ? Fuoch chi erioed yn ysgwyd Pont Llan- rwst?" Arwydda hyn ar unwaith fod rhyw hynodrwydd yn perthyn i'r bont, darlun o ba un a geir yma yn gysbal ag o'r Afon Gonwy yn myned o dani, a'r mynyddoedd ban yn amgylchu. Fe godwyd y bont tua'r flwyddyn 1636, trwy orchymyn y Brenhin Siarl y Cyntaf, o gynlluniau Inigo Jones, y pen saer celfydd, yr hwn, meddir, oedd frodor o Lanrwst, a'i wir enw yn Ynyr. Cyn codi y rhodfeydd mawr dros y Fenai, ystyrid Pont Inigo Jones yn un o'r Saith Ryfeddodau mor belled ag yr oedd a wnelo a'r cylchynoedd hyn. Ystyrir adeiladaeth y bont yn gampwaith mewn cywreinrwydd celfyddydol oherwydd ei chadernid mawr ac ysgafnder rhyfeddol ei hymddangosiad. Cynnwysedig ydyw o dri bwa, y canol o ba rai sydd agos i 60 troedfedd o led. Chwalwyd un o'r bwaau ddechreu y ddeunawfed ganrif, a hawdd y eenfydd yr edrychydd nad ydyw y bwa a adeiladwyd yn y flwyddyn 1703 agos gywrain a chadarn a'r ddau fwa a arhosasant yn eu perffeithrwydd fel eu cynlluniwyd gan athrylith ddihafal Inigo Jones. Wedi syllu ar y bont hynod ei hunan, buan y ca yr edrychydd deimlo yr hyn sydd acbenig ynddi, canys y rhan amlaf y mae rhywun yn ddigon cymwynasgar (am d&l) i ofyn, Leiciwch i mi ysgwyd y bont?" Oorchwyliaeth ddigon syrnl ydyw yn ol pob golwg, ond y mae eisieu hen law," neu yn hytrach hen gefn,' cyfarwydd a'r grefft i wneyd sigliad iawn. Y dull ydyw i'r cywrain yn nghylch pethau fel hyn roddi ei gefn ar fur un ochr y bwa canol, ac i'r cyfarwydd yn yr ochr arall guro ei gefn gymaint a all yn erbyn y wal yno ac yna teimlir-neu y mae un yn sicr o feddwl ei fod yn teimlo-yr holl adeiladwaith yn siglo neu wefreiddio trwyddo. Dygir hyn fel engraipht o fedrusrwydd Inigo Jones, nid yn unig i godi pont a saif yn gadarn, ond un a sigla hefyd pan wna cefn bechgyn Llanrwst erchi hyny. Y ty a welir ar lan dde yr afon a briodol elwir yn Ty-hwnt-i'r- Bont," a saif yn sir Gaernarfon. Cyn i Bettwsycoed ddyfod yn ddigon pwysig, neu yn ddigon da neu ddrwg, i gael gorsaf hedd- geidwadol a neuadd i brofi troseddwyr yn y parth hwn o sir Gaernarfon, yn Ty-hwnt-i'r- Bont y cynnelid y llysoedd misol. Ar y chwith wed'yn, yn sir Ddinbych, gwelir Eglwys St. Mair, ac islaw iddi, ar lan yr afon, y mae'r Periglordy, preswylfod y Parch Ganghellydd Hugh Jones, person y plwyf ac Archddiacon yn Llanelwy. Mewn perthynas i Inigo Jones, archadeil- adydd enwog y bont, dywedir iddo gael ei eni yn ardal Llanrwst, tra yr hona ereill mai yn agos i Eglwys St. Paul, Llundain, y eymerth hyny le. Haneswyr a dystiant mai ei enw priodol ar y cyntaf ydoedd Ynyr, o'r hyn y mae prawf yn aros hyd y dydd heddyw ar ochr y bont a adeiladodd dros yr afon yn ymyl Llanrwst, lie y mae yr enw "Ynyr" wedi ei gerfio ar un o'r meini. Mynegir mai pan ydoedd yn ymdeithio yn yr Ital y trawsffurfiodd ei enw i Inigo, er mwyn in iddo fod yn fwy hysain i drigolion y wlad hono. Efe hefyd, ar; ddymuniad Syr Richard Wynn o Wydir, a adeiladodd Capel Gwydir yn eglwys blwyfol Llanrwst. Oa ganwyd neu na anwyd "Ynyr" yn ardal Llanrwst, y mae lie cryf i feddwl ei fod yn hanedig o Gymru, ac i deulu Cymroaidd Gwydir y pryd hyny ddarganfod y peth a chael ganddo roddi ei dalent adeiladyddol doreithiog at wasanaeth Llanrwst. Ac hyd y dydd hwn ceir y cywrain, yr astudgar, a'r ymholydd yn ymweled a'r lie i sylwi ar ac archwilio engreiphtiau o dalent un o brif seiri y byd. A phaham hyny ? Am y ceir esiamplau ardderchog ereill o'i bensaer- niaeth mewn rhanau o'r wlad, yn enwedig y Brifddinas. Aeth i Rufain, lie ypensyfrdan- wyd ef gan ei hoff gelfyddid. Yna cyrhaedd. odd ei enwogrwydd hyd yn nod i Denmarc, ac i glustiau Christian IV., brenhin y wlad hono, yr hwn yn ebrwydd a anfonodd am dano, ac a'i gwnaeth yn adeiladydd i'w Fawrhydi. Yn mhen amser, dychwelodd Inigo Jones i Loegr, ac ar ol hyny yr adeiladwyd Pont Llanrwst, traul yr hon, sef mil o bunnau, a dalwyd gan siroedd Dinbyoh a Chaernarfon. Efe a benodwyd yn 1620, gan y Brenhin, yn un o'r dirprwywyr i adgyweirio Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain. Er ei holl orchestion ar y Cyfandir ac yn Llundain, cyfaddefa beirniad craff mai prin y ceir yn unman ragorach engraipht o'i orchestion cynlluniol nac a geir ar Capel Gwydir a'r bont gain a rychwanta y Gonwy o sir Ddinbych i sir Gaernarfon, yn ymyl tref ddyddorol ac hanesyddol Llanrwsti