Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

:. BOD YN HAPUS ER YN BRIOD

HALOGIAD NATUR.

TYSTIOLAETH ODDIWRTH YR ESGOB…

Advertising

CELFASNACHWR AM UNWAITH

News
Cite
Share

fedd yn fy mhen—aeth pob peth yn dywyll, ac nis gallaf gofio yn mhellach. Pa mor hir y bu'm yn gorwedd cyn dyfod ataf fy hun, nis gwn; ac nis gallwn gofio am hir amser wedi dyfod ataf fy hun beth oedd wedi digwydd. Bron a rhynu gan anwyd, gorweddwn ar wastad fy nghefn, a'r gwynt yn chwibanu uwch fy mhen; ond pa le yr oedd y ceffyl ? a pha beth oedd yr oernadau arswvdus a glywswn wedi y 11am dros y gwrych ? Canfyddais fy mod yn gorwedd ar lethr, ac wrth droi ar fy ochr ddehau, estyn- ais fy Haw, gan feddwl pwyso ami, a chyfodi i fyny. Er fy mraw, nid oedd yno ond gwagle. Yr wyf yn crynu wrth feddwl am hyny Yr eeddwn wedi troi at enau pwll gwaith mwn, ac yn gorwedd dros yr ymyl mewn rhan, ac wrth ymdrechu adenill fy mantoliad, teimlwn fy hun yn llithro i lawr yn raddol er fy ngwaethaf i'r dyfnder ofn- adwy oedd yn barod i'm derbyn. Ithoddais waedd am drugaredd, a chra- fangais fel gwallgof o'm cwmpas, nes y llwyddais i ymaflyd mewn plane oedd ar yr ymyl. Mewn eiliad, yr oeddwn wedi llithro i lawr gyda jerk mdr sydyn nes y bu agos i mi golli fy ngafael; ond yr oedd nerth anobaitk yn y gafael hwnw, a deliais fy ngafael nes oeddwn yn teimlo fod fy ewinedd yn soddi i'r bwrdd coed. Yna daeth llesmair marwol drOilwyf wrth feddwl am y dyfnder mawr oedd odditanaf, a dychymygwn fy mod yn syrthio—syrthio yn ddiymadferth i lawr i lawr i'r dyfnder ofnadwy. Yr oedd yr ymdrech yn ofnadwy, a theim* lwn fod fy ngewynau yn llosgi fel tan, a'm breichiau bron a'm gollwng, ac er mwyn eu cynnorthwyo ceisiais roddi fy nhraed yn y rhigolau rhwng y planciau, gan waeddi yn wallgof am help. Yr oedd fy llais fy hun yn fy nychrynu, gan mor frawychus oedd. Wrth geisio codi fy hun ychydig, daeth darn o'r plane pwdr ymaith, ac am fynyd dychrynllyd yr oeddwn yn hongian gerfydd un fraich; ond cyn i'm calon grynedig gael amser i roddi un curiad yn ychwaneg, yr oeddwn wedi cael ail-afael, a chefais le i roddi un troed hefyd. Nis gallwn fentro crafangu am ychwaneg na hyny mewn lie mor dywyll, ond yr oedd- wn yn dechreu cymeryd eysur, ac yn dyweyfd wrthyf fy hun fy mod yn gymharol ddyogel, cyn belled ag y gallai fy aelodau fy nal. Wedi iddynt hwy ballu, gwyddwn nad oedd dim i'w wneyd ond myn'd i lawr—i lawr-i lawr nee y byddwn yn gorwedd yn gorph maluriedig wrth ochr fy ngheffyl druan, yi hwn mae ei oernad farwol yn adsain yn fy nghlustiau o hyd. Mynydau o ddychrynfeydd annesgrifiadwy oedd y rhai hyny, ae yr wyf yn meddwl i mi banner gwallgofi ar y pryd, oherwydd yr oeddwn yn dychymygu fy mod yn clywed oerlefain yn esgyn i fyny o'r gwaelodion, a bod rhyw allu anweledig yn ceisio fy nhynu i lawr. Yna cefais fy nhemtio i ymollwng, a rhoddi terfyn ar unwaith ar fy mhoenau arteithiol. Ond ar y fynyd ofnadwy hono, daeth gwyneb gwelw Mari-fy anwyl Fari- yr hon oedd yn disgwyl am danaf adref, o fy inlaem, a chyda nerth adnewyddol deliais fy ngafael, a gweddiais am i'a Nefoedd fy ngwaxedu. Ac fel pe yn ateb i'm gweddi, daeth pelydr o oleuni y lloer arianaidd drwy hollt y cwmwl du; diflanodd, ac yna, drachefn, mor eglur nes y gallwn weled yr ystol oedd heb fod neppell oddiwrth fy nihraed. Gweithiais fy ffordd tuagati gyda chymaint o ofal ag oedd bosibl i mi gyda chymalau a gewynau wedi eyffio; a chyn i'r cymylau ail- ymddangos, yr oeddwn yn penlinio ar y llan- erch las uwchlaw y pwll. Mewn lludded, yn brudd, ac yn oer, cyf- eiriais fy nghamrau tua ehartref yn ddiym- droi, a dywedais yr hyn a ddigwyddodd wrth Mari. Fel y dodai ei dwylaw am fy ngwddf i wylo yn hidl, gwnaeth i mi addaw na fyddai i mi byth yn ychwaneg gymeryd fy mherswadio i wneyd unrhyw beth y byddai fy nghydwybod yn dyweyd wrthyf nad oedd gyfreithlon;, a diolch i Dduw, yr wyf yn alluog i ddyweyd-pa fodd bynag y daw hi arnaf eto-fy mod wedi dal yn ffyddlon i'm haddewid.