Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

PARCH OWEN DAVIES, CAERNARFON.

\ TROt Y BYRDDAU

? HANESYN AM HANDEL

GWERTH HEN ARIAN

News
Cite
Share

GWERTH HEN ARIAN Y MAE hen ddarnau arian Seisnig yn cyrhaedd prisiau mawr iawn y dyddiau hyn. V Y dydd o'r blaen, mewn arwerthiant, cyrhaeddodd punt o arian Harri VIII., y swm o lOp 15s; dernyn o arian George, gyda darlun o'r Nawdd Sant ar geffyl yn gwanu y ddraig, lip 15s; a dernyn hanner coron o'r un cyfnod, 4p 12s. Dygodd sofran o gyfnod Edward VI., ail fathedig o fathdy Southwark, 12p .5s; un perthynol i'r chweched flwyddyn, 8p; a hanner sofran, o'r ail fathiad, 3p 17s. Wyth punt oedd pris a roed am sofran Elizabeth; a dernyn a adnabyddid fel noble, 16p. Yn mhlith y darnau arian o'r un deyrnasiad cafwyd 7p 10s am goron portcullis, a 4p 8s am hanner coron portcullis. Am ddernyn 30s adeg teyrnasiad James I., caed 9p 15s; 13p 10s am noble o'r un cyfnod, a'r un swm am ddernyn arian pymtheg swllt. Daeth dernyn 3p bathedig yn Rhydychain yn ystod teyrnasiad Charles I., a 16p 10s; a dernyn lp mewn arian, 13p; tra am hanner coron o'r un cyfnod, fe gaed 2p 7s 6c. Am ddernyn lp arian o fathdy Amwythig yn ystod yr un teyrnasiad caed 27p. Dengys hyn fod gofyn mawr am hen ddarnau arian.

[No title]

Advertising